22 Mehefin 2026
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn chwilio am ddarparwyr cymwys i ddarparu Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG yn Llandrindod.
Gwahoddir cynigion erbyn 13 Gorffennaf 2026. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o borth caffael GwerthwchiGymru Llywodraeth Cymru .
Os ydych chi eisoes yn glaf mewn practis deintyddol, cysylltwch â'r practis hwnnw i gael eich gofal deintyddol arferol yn gyntaf.
Os nad ydych chi'n glaf mewn practis deintyddol, gallwch ychwanegu eich manylion ar gyfer cais am apwyntiad deintyddol arferol y GIG gyda'r Porth Mynediad Deintyddol ar-lein neu drwy sganio'r cod QR.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych chi’n byw mewn cyfeiriad ym Mhowys am fwy na chwe mis o'r flwyddyn, neu wedi cofrestru gyda meddyg teulu ym Mhowys.
Gallwch wneud cais drosoch eich hun neu ar ran eraill, fel plentyn, aelod o'r teulu neu fel gofalwr cyflogedig neu ddi-dâl.
Os nad ydych yn dymuno neu na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch Linell Gymorth Ddeintyddol Powys ar 01686 252 808.
Mae ein timau'n gweithio'n galed i sicrhau gwasanaethau deintyddol newydd y GIG yn y sir. Gofynnwn yn garedig am eich amynedd, ystyriaeth a pharch at y tîm ar Linell Mynediad Deintyddol GIG Powys.
Ar ôl ymuno â Phorth Mynediad Deintyddol y GIG, byddwch yn cael lle pan fydd un ar gael.
Rhoddir blaenoriaeth i blant ar gyfer lleoedd newydd.
Ydych chi wedi cofrestru gyda'r Porth Mynediad Deintyddol?
Cofiwch ddiweddaru eich manylion os bydd unrhyw beth yn newid:
Gall y fideo hwn eich helpu i fewngofnodi eto i'r Porth Mynediad Deintyddol os nad ydych chi'n siŵr sut.
Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd cael gofal deintyddol arferol y GIG ar hyn o bryd. Rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r bylchau hyn. Drwy ymuno â'r Porth Mynediad Deintyddol gallwn eich dyrannu i leoedd deintyddol y GIG pan fyddant ar gael, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i blant ar y rhestr aros.
Mae argyfwng deintyddol yn golygu bod angen cymorth brys arnoch ar gyfer problem ddifrifol yn eich ceg.
Gallai hyn gael ei achosi gan bethau fel haint ac anaf i'r dannedd.
Mae problemau deintyddol brys cyffredin yn cynnwys:
Os ydych chi eisoes yn glaf gyda phractis deintyddol, cysylltwch â'ch practis deintyddol yn uniongyrchol i wneud apwyntiad brys.
Fel arall, ffoniwch GIG 111 Cymru neu ewch i wefan GIG 111 Cymru am ragor o wybodaeth.