Mae disgwyl i ragor o waith gwella hanfodol ddechrau yn Ysbyty Coffa Llandrindod diolch i £3m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cyhoeddi y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddisodli ffenestri yn y bloc blaen, gwneud gwaith ail-wynebu ar ffyrdd mynediad a llwybrau troed yn ogystal â gwneud gwaith atgyweirio ar y to.
Yn ystod cam cynharach o welliannau gwelwyd uwchraddio mewn mannau clinigol yn yr ysbyty i helpu'r bwrdd iechyd ddarparu ystod ehangach o wasanaethau.
Louise Morris yw Pennaeth Cyfalaf y bwrdd iechyd ac esboniodd: "Rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith hwn ei achosi i gleifion ac ymwelwyr. Fodd bynnag, diolch i'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn gallu mynd i'r afael â materion hanfodol adeiladu yn ogystal â gwella mynediad i'r safle trwy'r gwaith arfaethedig i'r ffyrdd a'r llwybrau troed."
Ychwanegodd: "Rydym yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i leihau cymaint o aflonyddwch â phosibl i gleifion ac ymwelwyr a sicrhau nad yw gwasanaethau clinigol y cael eu heffeithio."
Bydd cam cyntaf y gwaith yn dechrau'r mis hwn (Mis Hydref) a bydd yr holl ffenestri’r bloc blaen yr ysbyty yn cael eu disodli i fynd i'r afael â materion drafftiau a gollyngiadau a gwella tymheredd yr adeilad. Disgwylir i'r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd.
Ochr yn ochr â hyn, bydd gwaith yn dechrau ar adnewyddu ac atgyweirio to'r ysbyty, y disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Ionawr.
Ym mis Rhagfyr bydd dechrau ail-wynebu a gweithio i lwybrau troed i wella mynediad a diogelwch i ymwelwyr â'r safle. Yn ystod y gwaith hwn, efallai y bydd rhywfaint o reolaeth traffig dros dro ar waith a chyfyngiadau ar barcio ceir, disgwylir i'r gwaith hwn gael ei gwblhau ym mis Mawrth.