Efallai eich bod yn ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried rhai mesurau ychwanegol i’n helpu ni fyw o fewn ein modd. Mae hyn yn cynnwys rhai opsiynau a all effeithio ar amseroedd aros ar gyfer triniaeth ysbyty yn Lloegr.
Nid oes unrhyw newidiadau wedi eu gwneud ar hyn o bryd i amseroedd aros ar gyfer atgyfeiriadau i ysbytai yn Lloegr.
Cynghorir cleifion i barhau i fynychu apwyntiadau fel yr arfer.
Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chysylltu â'r bwrdd iechyd, eich darparwr ysbyty na'ch meddygfa i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal neu i gyflymu'ch apwyntiad oni bai bod eich symptomau wedi newid yn sylweddol. Byddwch yn parhau ar y rhestr aros a bydd yr ysbyty yn cysylltu â chi i drefnu eich apwyntiad.
Os ydych chi ar restr aros ar hyn o bryd, mae’r adran Aros yn Iach ar ein gwefan yn darparu canllawiau defnyddiol ac awgrymiadau gwych:
Er enghraifft, mae Ychwanegu at Fywyd yn asesiad iechyd personol, ar-lein sy’n cynnig llawer o wybodaeth werthfawr wedi’i theilwra a’i datblygu i’ch helpu chi gael y gorau o’ch triniaeth gyda’r GIG. Gall gweithredu nawr i wella eich iechyd corfforol a lles meddyliol nid yn unig yn lleihau’r risg o unrhyw gymhlethdodau yn ystod eich triniaeth, ond bydd hefyd yn fuddiol i’ch adferiad ac iechyd hirdymor, yn eich helpu chi i deimlo’n well yn gyflymach. I gwblhau’r asesiad iechyd heddiw, ewch i wefan Ychwanegu at Fywyd.
Mewn cyfarfod y bwrdd iechyd ar y 10 Ionawr, cytunwyd bod angen gwaith pellach i ystyried y mater sensitif hwn. Disgwylir y bydd opsiynau wedi’u diweddaru’n cael eu hystyried mewn cyfarfod y Bwrdd yn y dyfodol. Byddwn yn cyhoeddi’r dyddiad unwaith y cadarnhawyd.
Mae rhagor o wybodaeth am y trafodaethau yng Nghyfarfod Bwrdd y 10 Ionawr 2025 a chamau nesaf ar gael ar ein gwefan.
Cynhaliwyd cyfarfod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) ddydd Gwener 10 Ionawr 2025 i ystyried mesurau ychwanegol i wella'r sefyllfa ariannol eleni.
Fel bwrdd iechyd, ein blaenoriaeth bennaf yw sicrhau'r iechyd a'r gofal iechyd gorau posibl i bobl Powys. Ond, wrth agosáu at ddiwedd 2024/25, mae'r hinsawdd ariannol ar gyfer y GIG ledled y DU yn parhau i fod yn heriol iawn. Adlewyrchir hyn yn ein sefyllfa ariannol ni yma ym Mhowys.
Yn ein cyfarfod, rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth ofalus iawn i nifer o fesurau ychwanegol y gellid eu cymryd cyn diwedd mis Mawrth 2025. Mae'r rhain yn cynnwys gofyn i ddarparwyr ysbytai yn Lloegr arafu'r gwaith o ddarparu gofal wedi'i gynllunio gan gynnwys apwyntiadau cleifion allanol a gweithdrefnau cleifion mewnol.
Mae hwn yn fater sensitif iawn ac roedd yn destun trafodaeth gadarn a thrylwyr gan aelodau'r Bwrdd. Roedd y trafodaethau hyn yn cydnabod yr effaith wirioneddol iawn ar gleifion sy'n aros am weithdrefn wedi’i chynllunio - yn enwedig o ystyried y cynnydd sylweddol mewn amseroedd aros ers dechrau'r pandemig COVID - ond hefyd y canlyniadau sylweddol iawn os na fyddwn yn cymryd camau pellach i wella sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd.
Gan gydnabod yr effaith a'r canlyniadau posibl, cymeradwyodd y Bwrdd y dylid cynnal trafodaethau pellach gyda darparwyr gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio yn Lloegr er mwyn datblygu'r asesiad o arbedion posibl ymhellach a chwblhau'r asesiad effaith integredig.
Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Bwrdd yn gyhoeddus ar ddyddiad yn y dyfodol. Pan drefnir y cyfarfod hwn o'r Bwrdd, byddwn yn sicrhau bod manylion yn cael eu rhannu drwy ein sianeli arferol.
Cynghorir pob claf i barhau i fynychu apwyntiadau fel arfer, hyd nes y ceir trafodaethau pellach yng nghyfarfod y Bwrdd.
Cafodd cyfarfod y Bwrdd ddiweddariad hefyd ar nifer o fesurau ariannol eraill sydd eisoes ar y gweill. Mae'r rhain yn cynnwys rhewi recriwtio a rheolaethau llymach ar wariant ar staff asiantaeth.
Dr Carl Cooper, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Nodiadau:
Rhyddhawyd: 10/01/2025