Gwasanaeth Byw'n Dda Powys yn Ennill Gwobr Hunanofal Cyn Wythnos Hunanofal

9 Tachwedd 2026

Cyn Wythnos Hunanofal, mae'r Fforwm Hunanofal wedi cyhoeddi mai Gwasanaeth Byw'n Dda Powys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yw enillydd Gwobr Hunanofal 2026, gan gydnabod ailgynllunio beiddgar llwybrau gofal sy'n grymuso pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd a'u lles.

Mae Gwasanaeth Byw'n Dda Powys yn helpu pobl â chyflyrau iechyd hirdymor i fyw'r bywydau maen nhw eisiau drwy eu helpu i reoli eu cyflwr yn well. Y cyflyrau y mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio arnynt yw poen parhaus, ME / CFS (enseffalomyelitis myalgig / blinder cronig), COVID hir a phroblemau pwysau (gordewdra). Mae'r tîm yn cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys ffisiotherapi, seicoleg, meddygaeth, nyrsio, deieteg a therapi galwedigaethol.

Bob blwyddyn, mae ceisiadau Gwobr Hunanofal yn creu argraff ar y panel beirniadu, ac roedd Gwasanaeth Byw'n Dda Powys yn sefyll allan am ei weledigaeth a'i barodrwydd i drawsnewid gwasanaethau penodol i gyflyrau yn llwybr gofal cyfannol sengl.

Fel rhan o'r gwaith hwn, mae Gwasanaeth Byw'n Dda Powys yn darparu cyfres boblogaidd o raglenni grŵp ar-lein yn seiliedig ar y Chwe Philer Lles - Symud, Cysgu, Bwyta, Dewis, Bod a Chysylltu.  Drwy gydweithio â sefydliadau fel Hygyrchedd Powys, a Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn ogystal â defnyddio eu Hwyluswyr Digidol eu hunain, mae'r tîm hefyd yn gallu darparu ystod o gefnogaeth i helpu pobl cysylltu ag apwyntiadau ar-lein. Mae hyn yn golygu y gallant ddarparu opsiynau mwy hyblyg sy'n addas i fywydau pobl yn hytrach na disgwyl i bobl ffitio'r system.

Cafodd y gwasanaeth ei gyd-gynllunio gan ddefnyddio adborth gan gleifion a staff, gan helpu nodi rhwystrau i ymgysylltu a chreu model sy'n gweithio'n well i'r rhai sy'n derbyn cymorth a'r rhai sy'n ei ddarparu.

Dywedodd Helen Donovan, Cadeirydd y Fforwm Hunanofal:

"Mae Gwasanaeth Byw'n Dda Powys yn enillydd teilwng." Mae'r gwasanaeth hwn yn dangos sut y gall gofal personol, a ddarperir drwy sesiynau grŵp, cefnogaeth un-i-un ac adnoddau digidol, rymuso pobl i reoli eu hiechyd eu hunain yn well."

Ychwanegodd Dr Pete Smith, Llywydd y Fforwm Hunanofal:

"Ers blynyddoedd rydym wedi siarad am yr angen am ofal cydgysylltiedig, ac mae hwn yn enghraifft ardderchog o hynny ar waith. Drwy ddod â gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau at ei gilydd o amgylch anghenion unigolion, mae Powys wedi creu dull y gellir ei efelychu mewn cymunedau ledled y DU.

Dywedodd Owen Hughes, Pennaeth Gwasanaeth Byw'n Dda Powys:

"Rydym wrth ein bodd yn derbyn y wobr hon. Mae'n cydnabod ymroddiad ein staff, partneriaid a'r bobl a helpodd i gyd-ddylunio'r gwasanaeth. Drwy gefnogi pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd a'u lles, rydym wedi gweld amseroedd aros llai, cyfraddau Heb ei Fynychu is a mwy o bobl yn cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau am eu gofal, gan eu galluogi i fyw'r bywydau maen nhw eisiau eu byw."

Dywedodd Dr John Chisholm, ymddiriedolwr y Fforwm Hunanofal:

“Roedd dull cydweithredol, person cyfan y gwasanaeth a’i ffocws cryf ar hunanofal cynaliadwy yn drawiadol; mae hefyd yn fodel sy’n dangos sut y gall gofal ataliol, wedi’i bersonoli wella canlyniadau wrth wneud defnydd gwell o adnoddau gofal iechyd.”