Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth deintyddol cymunedol dros dro newydd i'r Gelli Gandryll

O

Bydd trigolion ardal y Gelli Gandryll sydd ar restr aros ddeintyddol y GIG yn cael mynediad at wasanaeth deintyddol cymunedol newydd y GIG dros dro am y tri mis nesaf.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn darparu'r uned dros dro yn y Cyfleusterau Hamdden ar Ffordd Aberhonddu tan fis Rhagfyr. Mae'r dref wedi cael ei dewis fel y man cyntaf ar gyfer yr uned symudol.

Esboniodd Cyfarwyddwr Deintyddol y bwrdd iechyd, Warren Tolley: "Bydd yr uned ddeintyddol yn cael ei staffio gan dîm ymroddedig gan gynnwys nyrs ddeintyddol gofrestredig, uwch swyddog deintyddol a gyrrwr/swyddog gweinyddol.

"Fodd bynnag, ni fydd y gwasanaeth pum diwrnod yr wythnos yr un fath â phractis rheolaidd y GIG. Er mwyn i ni allu gweld cymaint o gleifion â phosibl, bydd pobl yn cael gwahoddiad i ddod i ddechrau’r sesiwn (naill ai bore neu brynhawn) ac yna byddant yn cael eu gweld cyn gynted â phosib."

"Rydym yn gwerthfawrogi efallai y bydd yn rhaid i rai cleifion aros ychydig, ond bydd hyn yn golygu y gallwn sicrhau bod cymaint o bobl leol yn cael eu gweld yn ystod y dydd â phosib."

Bydd cleifion yn cael eu gwahodd i'r gwasanaeth o'r rhestr aros ddeintyddol bresennol ym Mhowys ar gyfer un cwrs o driniaeth, ond bydd darpariaeth mynediad brys hefyd ar gael ar gyfer cleifion â phoen deintyddol neu chwyddo - drwy ffonio'r llinell ffôn 111.

Bydd yr uned dros dro yn gallu darparu ystod eang o wasanaethau deintyddol craidd, ond lle mae angen triniaeth neu gymorth ychwanegol ar gleifion, efallai y bydd angen eu cyfeirio at wasanaethau eraill gan gynnwys yr adran ddeintyddol yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog.

Rhannodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol y bwrdd iechyd, Jayne Lawrence ei diolch i'r cyngor tref: "Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gyngor Tref y Gelli Gandryll gan eu bod wedi rhoi lle i ni yn y maes hamdden i barcio'r uned dros dro yn ogystal â rhoi mynediad i ni i'r cyfleustodau sydd eu hangen arno. Mae'r tîm yn y cyngor wedi bod o gymorth mawr i'n galluogi ni i lenwi'r bwlch hwn yn narpariaeth ddeintyddol y GIG yn y dref ac ni allaf ddiolch digon iddynt."

Esboniodd Ms Lawrence y bydd y gwasanaeth ar gyfer unrhyw un sydd ar y rhestr aros ddeintyddol sydd naill ai'n byw ym Mhowys neu sy'n byw y tu allan i Bowys ond sydd wedi ei chofrestru gyda Meddygfa Haygarth.

Y Cynghorydd Fiona Howard yw Cadeirydd Cyngor Tref y Gelli Gandryll. Nododd: "Rydym yn gyffrous i fod yn rhan o ddatblygiad cyfleuster deintyddol symudol a fydd nid yn unig yn darparu gofal deintyddol hygyrch ond hefyd yn gwella mynediad ar gyfer preswylwyr sy'n agored i niwed at wasanaethau iechyd hanfodol.

"Bydd y cyfleuster hwn yn sicrhau y gall pob preswylydd, waeth beth fo'u sefyllfa ariannol, dderbyn gofal iechyd y geg o safon uchel yn agos at adref. Mae agor y ganolfan hon yn gam mawr tuag at hyrwyddo lles cyffredinol, meithrin cymuned iachach, a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gynnal eu hiechyd y geg."

Ychwanegodd Dr Tolley hefyd: "Mae'r bwrdd iechyd yn rhoi llawer o arian i ddarparu'r gwasanaeth hwn ond rydym hefyd angen i drigolion Powys chwarae eu rhan i'n helpu ni. Gallwch chi ein helpu drwy gynnal iechyd y geg da trwy frwsio yn rheolaidd a thorri lawr ar fwyd a diodydd sydd llawn siwgr."

Eglurodd y bydd cleifion sy'n methu â mynychu yn cael eu dychwelyd i'r rhestr aros ddeintyddol gan gynnwys y rhai sy'n canslo apwyntiadau ar fyr rybudd.

Mae disgwyl i'r gwasanaeth dros dro fod yn Y Gelli Gandryll am dri mis. Yn ddiweddarach yr hydref hwn bydd y bwrdd iechyd yn cadarnhau'r lleoliad nesaf ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Deintyddol Cymunedol y bwrdd iechyd ar gael ar-lein yn https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-cymunedol-oedolion-a-phobl-hyn/gwasanaethau-deintyddol-cymunedol/

Llun:(O'r chwith) Warren Tolley gyda Jacqui Bennett, Uwch Nyrs Ddeintyddol Ardal, Nicola Coulthard, Nyrs Ddeintyddol, Cadeirydd Cyngor Tref y Gelli Gandryll, y Cyng. Fiona Howard, Ana Rafaela Direito Peixoto, Uwch Swyddog Deintyddol a Lloyd Bovensiepen, Uwch Swyddog Deintyddol.

 

Rhyddhawyd: 16/09/2024

Rhannu:
Cyswllt: