Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth neges testun wedi'i ddatblygu i helpu ysmygwyr i roi'r gorau i ysmygu

Ar hyn o bryd mae tîm Rhoi'r Gorau i Ysmygu Powys yn gweithio mewn partneriaeth â rhai meddygfeydd i gefnogi ysmygwyr trwy wasanaeth neges destun. Gwahoddir ysmygwyr drwy neges destun i gysylltu â meddygfa i gael cymorth i roi'r gorau i ysmygu. Ar ôl cysylltu â'r feddygfa, byddant yn trefnu sesiwn asesu gychwynnol ac yna’n cael eu harwain at gymorth priodol (naill ai grŵp lleol, clinig wyneb yn wyneb neu gymorth dros y ffôn/ ar-lein neu Fferyllfa Lefel 3).

Os ydych chi'n ysmygu ac eisiau rhagor o wybodaeth, e-bostiwch StopSmoking.Powys@wales.nhs.uk neu gallwch hunanatgyfeirio drwy’r ffurflen yn www.helpafiistopio.cymru

 

Cyhoeddwyd: 19/09/2023