Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar hyn o bryd yn cynnal proses tendro i gynnig Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn Rhaeadr Gwy. Does dim angen i gleifion wneud dim byd, gan fydd y Practis yn parhau ar agor yn ystod ac yn dilyn y broses tendro a bydd modd i gleifion parhau i gael mynediad at y gwasanaethau fel maen nhw ar hyn o bryd. Er mwyn sicrhau bod cleifion yn ymwybodol ac er mwyn tawelu meddyliau ynghylch parhad y gwasanaeth, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn anfon y llythyr isod at gartref bob un o gleifion Practis Meddygol Rhaeadr Gwy. Rydym yn disgwyl i’r llythyrau hyn gyrraedd yn ystod yr wythnos yn dechrau 3ydd Mawrth 2025.
Annwyl glaf,
Ysgrifennaf atoch i roi gwybod bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar hyn o bryd yn cynnal proses dendro am gontract ar gyfer darparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn Rhaeadr Gwy. Bydd y broses hon yn cymryd tua thri i bedwar mis i'w chwblhau ac yn ystod y cyfnod hwn bydd y practis yn parhau i fod ar agor.
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth gan fod y llythyr hwn er gwybodaeth yn unig. Fodd bynnag, teimlais ei bod yn bwysig eich gwneud yn ymwybodol o'r broses hon.
Gallaf ddweud yn sicr bydd y feddygfa, yn dilyn y broses tendro contractau, yn parhau i fod ar agor. Byddwch yn gallu defnyddio gwasanaethau fel yr ydych ar hyn o bryd. Fel claf ni fyddwch yn sylwi ar lawer o newid, os o gwbl, i'r gwasanaethau sydd ar gael.
Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i ddarparu safonau uchel o ofal meddygol i bobl Rhaeadr Gwy ac mae hyn yn ganolog i’r broses dendro.
Byddwn yn ysgrifennu atoch eto unwaith y bydd y broses wedi'i chwblhau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Adran Gofal Sylfaenol y Bwrdd Iechyd ar 01597 828805
Elaine Lorton
Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl
Cyhoeddwyd: 07/03/2025