Yn ddiweddar, cwblhaodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys y broses ffurfiol i ddyfarnu'r contract ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn Rhaeadr Gwy.
Does dim angen i gleifion wneud dim byd, gan fydd y Practis yn parhau ar agor yn ystod ac yn dilyn y broses tendro a bydd modd i gleifion parhau i gael mynediad at y gwasanaethau fel maen nhw ar hyn o bryd.
Er mwyn sicrhau bod cleifion yn ymwybodol ac er mwyn tawelu meddyliau ynghylch parhad y gwasanaeth, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn anfon y llythyr isod at gartref bob un o gleifion Practis Meddygol Rhaeadr Gwy. Rydym yn disgwyl i’r llythyrau hyn gyrraedd yn ystod yr wythnos yn dechrau 18 Awst 2025.
Annwyl Gleifion,
Rwy'n ysgrifennu atoch i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn dilyn fy llythyr ym mis Mawrth.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys y broses ffurfiol i ddyfarnu'r contract ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn Rhaeadr Gwy.
Rwy'n falch o roi gwybod bod Practis Grŵp Rhaeadr Gwy wedi bod yn llwyddiannus yn y broses hon a bydd yn parhau i ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol i'r gymuned leol.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi:
Hoffem roi sicrwydd i chi fod cynnal safonau gofal uchel ar gyfer cymuned Rhaeadr Gwy wedi bod yn ganolog i'r broses hon.
Elaine Lorton
Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol a Chymunedol ac Iechyd Meddwl
Cyhoeddwyd: 14/08/2025