Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio gwefan newydd gyda gwybodaeth am frechu COVID-19 yng Nghymru.
Byddai effaith brechlyn COVID-19 diogel ac effeithiol yn cynnig amddiffyniad unigol yn ogystal â mwy o amddiffyniad i'n hanwyliaid a'n cymunedau. Gallai olygu bod cyfyngiadau'n cael eu llacio ac y gallwn symud ymhellach tuag at ddychwelyd i fywyd mwy arferol o ddydd i ddydd.
Ewch i wefan brechu COVID-19 i gael mwy o wybodaeth.