Gwella Gyda'n Gilydd – Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol

4 Tachwedd 2026

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwahodd pobl ledled Powys i helpu llunio dyfodol gwasanaethau lleol y GIG.

Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg o 5 Hydref 2026 i 10 Ionawr 2027 ac yn ceisio barn ar gynigion ar gyfer iechyd corfforol oedolion, iechyd meddwl oedolion, gofal brys a rhai gwasanaethau diagnosteg.

Bydd tair ar ddeg o ddigwyddiadau lleol a thri digwyddiad ar-lein yn rhoi cyfleoedd i bobl gwrdd â'r tîm, gofyn cwestiynau, trafod y cynigion ac yna cwblhau'r holiadur. Mae manylion llawn ar gael yn biap.gig.cymru/GwellaGydanGilydd

Mae'r diweddaraf yn ein cyfres o erthyglau rheolaidd Gwella Gyda'n Gilydd yn disgrifio'r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd ym Mhowys yn y dyfodol.

Gallwch ddarllen y Ddogfen Ymgynghori Lawn ar ein gwefan neu gael rhagor o wybodaeth drwy ddarllen y bennod "Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol" isod.

Mae'r bennod hon yn disgrifio'r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yn y dyfodol ym Mhowys. Mae'n egluro sut olwg sydd ar wasanaethau yn y blynyddoedd i ddod, wedi'i llunio gan dystiolaeth, polisi cenedlaethol a'r hyn y mae pobl wedi dweud wrthym sy'n bwysig iddyn nhw.

Edrych tua’r Dyfodol

Gwyddom y bydd llawer o bobl sy'n darllen y ddogfen hon yn canolbwyntio ar y cynigion ar gyfer gwasanaethau penodol fel gwelyau cleifion mewnol.

Ond mae'r cynigion yn Gwella Gyda'n Gilydd yn ymwneud â llawer mwy na gwelyau ac adeiladau; maent yn ymwneud â chreu system gofal iechyd gynaliadwy a all ddiwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol ledled Powys.

Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd mewn penodau cynharach yn dangos bod y galw yn cynyddu, bod y boblogaeth yn heneiddio, bod heriau'r gweithlu yn parhau i dyfu a bod pwysau ariannol yn cynyddu. Ar yr un pryd, mae pobl wedi dweud wrthym yn gyson eu bod eisiau gwasanaethau sy'n haws eu cyrchu, sydd wedi'u cysylltu'n well ac yn fwy ymatebol i'w hanghenion.

Ein gweledigaeth yw creu system sy'n cefnogi pobl i aros yn iach ac yn annibynnol am hirach, yn darparu gofal yn agosach at adref lle bynnag y bo modd, ac yn sicrhau bod gofal arbenigol ar gael pan fo ei angen.

Mae'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn gam pwysig tuag at gyflawni'r weledigaeth honno.


Ein Huchelgais

Ein huchelgais yw canolbwyntio ar atal. Cymorth cynnar a gofal rhagweithiol, gan helpu pobl aros yn annibynnol a chael cefnogaeth yn eu cartrefi a'u cymunedau cyhyd â phosibl.

Cadw’n iach ac yn annibynnol

Ni all y GIG ar ei ben ei hun ddatrys llawer o'r heriau iechyd sy'n wynebu Powys. Felly mae ein gweledigaeth yn rhoi mwy o bwyslais ar atal a ffyrdd iach o fyw.

Drwy helpu pobl aros yn iachach am hirach, gallwn wella ansawdd bywyd wrth leihau'r pwysau ar wasanaethau gofal iechyd.

Mae'r dull hwn yn adlewyrchu polisi cenedlaethol ac yn gyson ag egwyddorion gofal iechyd darbodus a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Mae gan bawb sy'n byw ac yn gweithio ym Mhowys rôl i'w chwarae.

Mae cymorth cynnar a gofal a chefnogaeth ragweithiol ar gael

Mae atal rhagweithiol yn golygu nodi pobl a allai fod mewn mwy o berygl o fynd yn sâl a chynnig cefnogaeth yn gynharach, cyn iddynt gyrraedd pwynt argyfwng neu fod angen gofal ysbyty. Yn hytrach nag aros i rywun geisio cymorth pan fydd eu cyflwr yn gwaethygu, mae gwasanaethau'n cydweithio i weld arwyddion o angen cynyddol a darparu cefnogaeth amserol i helpu pobl aros yn iach, yn annibynnol ac yn gysylltiedig â'u cymunedau.

Er enghraifft, gall gwybodaeth am gyflyrau hirdymor, eiddilwch, defnydd blaenorol o wasanaethau neu ffactorau risg eraill helpu timau cymunedol i dargedu cymorth lle gallai gael yr effaith fwyaf.

Rhan allweddol o'r dull hwn yw Un Pwynt Mynediad (UPM), sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ddod o hyd i'r cymorth cywir yn gyflym. Mae'r UPM yn helpu cydlynu cefnogaeth, lleihau dryswch ynghylch ble i fynd am gymorth a sicrhau y gall pobl gael mynediad at y gwasanaeth mwyaf priodol ar yr amser iawn.

Yn syml, mae atal rhagweithiol yn ymwneud â helpu pobl i aros yn iach am hirach, atal problemau rhag dod yn argyfyngau a chefnogi mwy o ofal yn agosach at adref.

  • Enghraifft: Un Pwynt Mynediad
    Byddai Un Pwynt Mynediad yn darparu un llwybr i iechyd corfforol oedolion ac i wasanaethau cymunedol iechyd meddwl. Ni fyddai angen i gleifion, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol lywio sawl tîm yn annibynnol mwyach. Byddai'r gwasanaeth yn helpu sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio'n gyflym at y gwasanaeth cywir ac yn derbyn cymorth cydlynol ar draws gwahanol sefydliadau.

Gofal gartref ac yn y gymuned

Un o'r negeseuon cryfaf a glywsom yn ystod yr ymgysylltu oedd pwysigrwydd mynediad lleol at wasanaethau.

Dywedodd pobl wrthym eu bod yn gwerthfawrogi gwasanaethau cymunedol ac eisiau i ofal aros mor agos at adref â phosibl.

Felly mae ein gweledigaeth wedi'i hadeiladu o amgylch egwyddor o ddarparu gofal yn y lleoliad mwyaf priodol. Lle bo'n ddiogel ac yn briodol, dylid darparu gofal iechyd yng nghartrefi pobl, neu yn y cyfleuster mwyaf lleol sydd â'r ystod o sgiliau ac offer sydd ar gael i ddiwallu eu hanghenion gofal iechyd.

Bydd hyn yn golygu:

  • Cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain pryd bynnag y bo modd.
  • Cryfhau gwasanaethau nyrsio a therapi cymunedol gan gynnwys adsefydlu ac ailalluogi
  • Gwella ein dull o adsefydlu a diagnosteg yn y gymuned.
  • Gwella cysylltiadau rhwng gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac ysbytai.

I gyflawni hyn, mae angen i ofal iechyd fod yn seiliedig mwy ar bobl a'u hanghenion; llai ar adeiladau a sefydliadau.

  • Enghraifft: Adsefydlu
    Byddai gwasanaethau adsefydlu yn cefnogi pobl i adennill cryfder, hyder ac annibyniaeth yn dilyn salwch, anaf neu dderbyniad i'r ysbyty. Gallai hyn gynnwys ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, therapi iaith a lleferydd a chymorth amlddisgyblaethol a ddarperir gartref. Gallai pobl sydd angen adsefydlu mwy dwys dderbyn hyn mewn lleoliad cleifion mewnol.

Cymorth cymunedol arbenigol

Rydym am sicrhau bod mwy o gymorth cymunedol arbenigol ar gael i bobl ag anghenion mwy cymhleth neu frys. 

Mae llawer o bobl yn dweud wrthym eu bod am aros yn annibynnol cyhyd â phosibl.

Mae annibyniaeth yn bwysig nid yn unig ar gyfer ansawdd bywyd, ond hefyd oherwydd y gall helpu gwella canlyniadau iechyd a lleihau dibyniaeth ar ofal ysbyty.

Felly, mae ein model ar gyfer y dyfodol yn anelu at:

  • Cefnogi pobl i wella gartref.
  • Darparu cefnogaeth gydlynol yn dilyn salwch neu anaf.
  • Helpu pobl osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty.
  • Lleihau dibyniaeth ar wasanaethau cleifion mewnol.

Lle mae angen derbyn pobl i'r ysbyty, dylai gwasanaethau gefnogi pobl i ddychwelyd adref cyn gynted ag y bo'n ddiogel gwneud hynny.

Mae hyn yn cynnwys cymorth lliniarol a chymorth diwedd oes, lloches ar gyfer argyfwng iechyd meddwl, Ysbyty Gartref ac ymateb cymunedol brys.

  • Enghraifft: Ysbyty Gartref
    Byddai Ysbyty Gartref yn darparu asesiad, triniaeth a monitro ar lefel ysbyty yng nghartref person ei hun. Gallai hyn gynnwys gwrthfiotigau mewnwythiennol, triniaeth ar gyfer heintiau'r frest, cefnogaeth yn dilyn dirywiad mewn cyflyrau hirdymor, monitro ar ôl rhyddhau o'r ysbyty, a rhai mathau o ofal diwedd oes. Yn hytrach na chael eu derbyn i'r ysbyty yn awtomatig, byddai mwy o bobl yn gallu derbyn triniaeth ac adfer gartref wedi'u hamgylchynu gan deulu a rhwydweithiau cymorth cyfarwydd.
  • Enghraifft: Ymateb Brys yn y Gymuned
    Byddai Ymateb Cymunedol Brys yn darparu asesiad cyflym i bobl y mae eu hiechyd yn dirywio'n sydyn gartref. Ein nod fyddai mynychu o fewn dwy awr i'r cyswllt. Gallai hyn gynnwys pobl sydd wedi cwympo, wedi datblygu haint, wedi mynd yn ddryslyd iawn, neu sy'n profi gwendid sy'n gwaethygu. Yn lle mynychu Adran Achosion Brys, gallai mwy o bobl dderbyn asesiad, triniaeth a chefnogaeth yn eu cartref eu hunain.
  • Enghraifft: Lloches Iechyd Meddwl
    Byddai lloches iechyd meddwl yn cefnogi pobl sy'n profi trallod emosiynol neu argyfwng iechyd meddwl sy'n datblygu sydd angen cymorth ar unwaith, ond nad oes angen eu derbyn i ward cleifion mewnol iechyd meddwl. Er enghraifft, gallai rhywun sy'n cael trafferth ymdopi yn dilyn dirywiad sydyn yn ei iechyd meddwl, sy'n profi pryder dwys, unigrwydd neu feddyliau o hunan-niweidio, gael mynediad at amgylchedd diogel a chefnogol lle gallant dderbyn cefnogaeth emosiynol, cymorth ymarferol ac arweiniad i wasanaethau priodol. Y nod yw darparu cymorth yn gynharach, gan atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu i'r pwynt lle mae derbyniad i'r ysbyty yn dod yn angenrheidiol.

Gwasanaethau ysbyty ym Mhowys

Mae gwasanaethau ysbyty ym Mhowys ar gael pan na ellir diwallu anghenion yn ddiogel yn y gymuned, gan gynnwys gwelyau cleifion mewnol a chanolfannau gofal brys. Bydd gofal ysbyty yn parhau i fod yn hanfodol, ond dim ond pan fo angen y dylid defnyddio ysbytai oherwydd cymhlethdod anghenion person.

Dylai ysbytai ym Mhowys hefyd allu gofalu am fwy o bobl sydd ar hyn o bryd yn cael eu derbyn i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth y tu allan i'r sir. Bydd hyn hefyd yn lleihau'r risg y bydd gwasanaethau'n cael eu colli o'r sir.

  • Enghraifft: Gwelyau Cleifion Mewnol Iechyd Corfforol
    Byddai gwelyau cleifion mewnol yn parhau i gefnogi pobl na ellir diwallu eu hanghenion yn ddiogel gartref, ond nad oes angen gwasanaethau arbenigol Ysbyty Cyffredinol Dosbarth arnynt. Er enghraifft, efallai y bydd angen cyfnod byr o ofal nyrsio, adsefydlu a therapi ar rywun sy'n gwella o salwch difrifol, anaf neu gwymp i'w helpu i adennill cryfder ac annibyniaeth cyn dychwelyd adref.
  • Enghraifft: Gwelyau Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl
    Byddai gwelyau cleifion mewnol iechyd meddwl yn cefnogi pobl sy'n profi salwch meddwl difrifol ac sydd angen cyfnod o driniaeth a chymorth dwys na ellir eu darparu'n ddiogel yn y gymuned. Byddai'r ffocws ar sefydlogi, adferiad a helpu pobl dychwelyd adref gyda'r gefnogaeth barhaus gywir cyn gynted ag y bo'n ddiogel ac yn briodol gwneud hynny.

Gofal ysbyty a gofal arbenigol y tu allan i Bowys

Fel rhan o'r model hwn, mae angen i ni wella'r ffordd y mae gofal iechyd ym Mhowys yn gweithio'n ddi-dor gydag ysbytai a gofal arbenigol y tu allan i Bowys.

Yn ogystal â sicrhau bod “gwybodaeth yn dilyn y claf” mae hyn yn cynnwys gofal “cam i fyny” gwell ym Mhowys i leihau’r angen i dderbyn cleifion i’r Ysbyty Cyffredinol Dosbarth, a gofal “cam i lawr” gwell fel y gallwn ddod â mwy o gleifion yn ôl i’r sir o’r Ysbyty Cyffredinol Dosbarth yn ddiogel ac yn gyflym.

Caiff iechyd corfforol, iechyd meddwl a gofal brys eu trin yn gyfartal

Mae iechyd meddwl yn hanfodol i les cyffredinol. Drwy gydol ein hymgysylltiad, roedd pobl yn gyson yn tynnu sylw at yr angen i wella gwasanaethau iechyd meddwl a darparu cefnogaeth gynharach.

Ein gweledigaeth yw gwasanaethau iechyd meddwl sydd:

  • Haws i gael mynediad.
  • Ar gael yn gynharach.
  • Wedi'i gysylltu'n well â gwasanaethau gofal iechyd corfforol.
  • Wedi'i ganoli o amgylch anghenion unigol.
  • Yn canolbwyntio ar adferiad a lles.

Rydym am i gymorth iechyd meddwl gael ei ystyried yn rhan annatod o ofal iechyd yn hytrach na gwasanaeth ar wahân.

Mae'r dull hwn yn adlewyrchu tystiolaeth gynyddol bod canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol yn gysylltiedig yn agos.

Dim drws anghywir

Yn aml, mae pobl yn profi gwasanaethau fel rhai ar wahân a datgysylltiedig. Dywedodd llawer wrthym fod yn rhaid iddynt ailadrodd gwybodaeth, llywio systemau cymhleth a delio â nifer o sefydliadau yn annibynnol. Ein gweledigaeth yw dull mwy integredig, lle mae gweithwyr proffesiynol yn cydweithio o amgylch anghenion yr unigolyn.

Dylai gweithio integredig ddarparu profiad gwell i gleifion gan helpu gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael. Dylai hefyd helpu pobl gyda'u dewisiadau ar ddiwedd oes. Bydd yn haws darparu gofal cydgysylltiedig os oes gennym fodel gwasanaeth clir a chyson ym mhob rhan o'r sir.

Gofal wedi'i alluogi'n ddigidol

Mae technoleg ddigidol yn cynnig cyfleoedd i wella mynediad at ofal, yn enwedig mewn sir wledig fel Powys.

Ni fydd technoleg yn disodli gofal wyneb yn wyneb lle mae ei angen, ond gall ategu gwasanaethau traddodiadol a darparu mwy o hyblygrwydd.

Mae ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn cynnwys:

  • Mynediad digidol gwell at wasanaethau.
  • Ymgynghoriadau rhithwir lle bo'n briodol.
  • Rhannu gwybodaeth yn well rhwng sefydliadau.
  • Gofal a monitro wedi'i alluogi gan dechnoleg.
  • Cyfathrebu gwell gyda chleifion a gofalwyr.

Rhaid i atebion digidol barhau i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch, gan gydnabod nad yw pawb yn gallu neu'n dymuno cael mynediad at ofal yn ddigidol.

Byw o fewn ein modd

Mae adnoddau gofal iechyd yn gyfyngedig. Mae pob punt a werir mewn un ardal yn bunt na ellir ei gwario yn unman arall.

Ein gweledigaeth yw sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio mewn ffyrdd sy’n sicrhau’r buddion mwyaf posibl i gleifion a chymunedau.

Bydd hyn yn golygu:

  • Buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n darparu'r budd mwyaf.
  • Lleihau dyblygu diangen.
  • Symud adnoddau tuag at atal a chefnogaeth gymunedol.
  • Sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy’n ariannol yn yr hirdymor.

Nid yw cynaliadwyedd ariannol yn nod ynddo'i hun. Mae'n angenrheidiol sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod ar gael ac yn effeithiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gweithlu medrus a chefnogol

Ni ellir cyflawni unrhyw un o'r uchelgeisiau hyn heb weithlu cynaliadwy.

Mae staff yn ganolog i ddarparu gofal o ansawdd uchel a chefnogi trawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol.

Mae ein gweledigaeth yn cynnwys:

  • Creu cyfleoedd gyrfa deniadol a gwerth chweil.
  • Gwella recriwtio a chadw staff.
  • Cefnogi datblygiad proffesiynol.
  • Galluogi gweithio’n amlddisgyblaethol.
  • Lleihau dyblygu a darnio diangen.

Drwy drefnu gwasanaethau'n wahanol, ein nod yw creu timau mwy gwydn sy'n gallu diwallu anghenion y boblogaeth yn well.


Enghreifftiau o Beth Hyn yn ei Olygu yn Ymarferol

Gwella Gyda'n Gilydd ar gyfer gwrthfiotigau mewnwythiennol

Os byddwch chi'n datblygu haint sydd angen gwrthfiotigau mewnwythiennol (IV), efallai y bydd angen i chi deithio i'r ysbyty ar hyn o bryd ac aros mewn gwely tra rhoddir triniaeth.

O dan y model ar gyfer y dyfodol, gallai timau cymunedol sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ddarparu gwrthfiotigau mewnwythiennol yn eich cartref eich hun neu mewn hyb cymunedol lleol. Byddai hyn yn caniatáu i lawer o bobl dderbyn yr un driniaeth heb aros yn yr ysbyty, gan eu helpu nhw aros yn annibynnol a lleihau'r risg o golli cryfder a symudedd tra byddant yn yr ysbyty.

Mwy o gefnogaeth i aros gartref ar ddiwedd oes

Mae llawer o bobl yn dweud wrthym y byddai’n well ganddynt dreulio eu dyddiau olaf gartref neu yn rhywle cyfarwydd, gyda theulu a ffrindiau o’u cwmpas.

Byddai'r model ar gyfer y dyfodol yn cryfhau gofal lliniarol a gofal diwedd oes drwy gydlynu gwell rhwng nyrsio ardal, gofal lliniarol arbenigol, gwasanaethau hosbis-gartref, timau ymateb cymunedol brys, fferyllfeydd a gofal cymdeithasol. Byddai hyn yn helpu mwy o bobl i dderbyn gofal diwedd oes o ansawdd uchel yn y lle maen nhw'n ei ddewis, gyda gofal ysbyty cymunedol ar gael pan fo angen ond gan osgoi derbyniadau i'r ysbyty nad oes eu hangen o bosibl.

Cymorth cyflymach pan fydd iechyd rhywun yn gwaethygu'n sydyn

Heddiw, pe bai iechyd pobl ym Mhowys yn dirywio, nid oes ganddyn nhw lawer o ddewisiadau amgen yn lle mynd i adran achosion brys neu gael eu derbyn i'r ysbyty.

Byddai'r model yn y dyfodol yn cyflwyno Ymateb Cymunedol Brys ac yn cryfhau gwasanaethau Ysbyty yn y Cartref. Er enghraifft, gellid asesu a thrin person hŷn sydd â haint ar y frest, methiant y galon neu wendid sy'n gwaethygu gartref, gyda monitro ac ymweliadau rheolaidd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn hytrach na chael ei dderbyn i'r ysbyty yn awtomatig.

Ar hyn o bryd, mae'n debygol y bydd angen ymweliad ag YCD dros nos ar glaf sydd â chathetr wedi'i rwystro. Gyda thîm medrus dros nos ym Mhowys, rydym yn fwy tebygol o ddarparu triniaeth gartref, gan osgoi taith i'r ysbyty.

Gallai gwasanaethau diagnostig gwell yng Nghanolfannau Gofal Brys Powys gynnig profion cyflym i'ch cael adref yn gyflym, gan leihau'r angen i aros mewn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth.

Adsefydlu arbenigol yn eich cartref eich hun

Ar ôl strôc neu doriad clun, mae angen i lawer o bobl aros yn yr ysbyty am gyfnod hirach tra bod y broses adsefydlu yn digwydd.

Byddai'r model yn y dyfodol yn darparu mwy o adsefydlu arbenigol gartref. Mae hyn yn golygu y gallai rhai pobl ddychwelyd adref yn gynt a derbyn ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a chymorth adsefydlu mewn amgylchedd cyfarwydd, gan eu helpu adennill hyder ac annibyniaeth yn gyflymach.

Mwy o brofion a diagnosteg 

Mae argaeledd profion a diagnosteg yn anghyson, ac mae gormod o brofion ar gael y tu allan i'r sir yn unig.

Byddai'r model yn y dyfodol yn cryfhau gwasanaethau diagnostig sy'n gysylltiedig â Chanolfannau Gofal Brys, gan ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at ymchwiliadau fel pelydrau-X a phrofion gwaed. Byddai hyn yn cefnogi diagnosis cynharach a phenderfyniadau triniaeth cyflymach.

Asesiad a thriniaeth arhosiad byr 

Nid oes angen i bawb sy'n mynd yn sâl gael eu derbyn i ysbyty cyffredinol dosbarth.

Byddai'r model ar gyfer y dyfodol yn creu gwasanaethau cleifion mewnol cymunedol a all ddarparu asesiad, diagnosteg a thriniaeth arhosiad byr am hyd at 72 awr. Mae hyn yn golygu y gallai rhai cleifion dderbyn asesiad, triniaeth a monitro cyflym ym Mhowys cyn dychwelyd adref gyda chefnogaeth gymunedol, gan osgoi teithiau hirach a derbyniadau diangen i fannau eraill.

Cefnogaeth well i bobl sy'n byw gydag eiddilwch

Mae llawer o bobl hŷn yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn dilyn cwymp neu ddirywiad sydyn yn eu hiechyd.

Byddai'r model ar gyfer y dyfodol yn nodi pobl sydd mewn perygl yn gynharach ac yn darparu cefnogaeth fwy rhagweithiol trwy dimau amlddisgyblaethol, atal cwympiadau, gwasanaethau eiddilwch, adsefydlu a chynllunio gofal personol. Byddai hyn yn helpu pobl aros yn iachach am hirach ac yn atal rhai problemau iechyd rhag cyrraedd pwynt argyfwng.

Gofal cydgysylltiedig gwell ar gyfer anghenion iechyd corfforol a meddyliol

Mae pobl â chyflyrau iechyd corfforol hirdymor yn aml hefyd yn profi gorbryder, iselder, dementia neu anawsterau iechyd meddwl eraill. Ar hyn o bryd, gall timau ar wahân asesu a thrin yr anghenion hyn.

Byddai'r model ar gyfer y dyfodol yn dod â gwasanaethau iechyd corfforol, iechyd meddwl, gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol at ei gilydd yn agosach. Er enghraifft, gallai person hŷn sy'n byw gyda methiant y galon a dementia gael cefnogaeth wedi'i chydlynu trwy un tîm amlddisgyblaethol, gyda gweithwyr proffesiynol yn cydweithio o amgylch anghenion cyffredinol y person yn hytrach na thrin pob cyflwr ar wahân.

Cymorth cyflymach ar gyfer problemau sy'n arwain at ymweliad ag adran achosion brys ar hyn o bryd

Er enghraifft, efallai y bydd angen i rywun sydd â chathetr wedi'i rwystro yng nghanol y nos deithio i adran achosion brys y tu allan i Bowys ar hyn o bryd.

O dan y model ar gyfer y dyfodol, gallai gwasanaeth nyrsio cymunedol ac ymateb brys estynedig helpu mwy o bobl i gael triniaeth gartref, gan osgoi teithiau hir ac arosiadau hir yn yr ysbyty.


Cael y Cydbwysedd yn Iawn

Un cwestiwn allweddol drwy gydol y gwaith hwn fu sut i gydbwyso dau nod pwysig: darparu gofal mor agos at adref â phosibl a sicrhau bod gwasanaethau ysbytai yn parhau i fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn gallu denu a chadw'r staff sydd eu hangen arnynt.

Rydym yn cydnabod bod cael gwelyau cleifion mewnol yn agosach at bob cymuned yn ddeniadol, yn enwedig mewn sir wledig lle gall teithio pellteroedd hirach fod yn anodd. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth a ystyriwyd drwy'r Adroddiad Cam a'r Achos Busnes Cyn Ymgynghori yn awgrymu y byddai cynnal gwelyau ar draws mwy o safleoedd yn ei gwneud hi'n anoddach darparu gwasanaethau gwydn a buddsoddi yn y gefnogaeth gymunedol ehangach y mae ei hangen ar lawer o bobl.

Felly mae'r cynigion yn canolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau cymunedol ledled Powys fel y gall mwy o bobl dderbyn gofal gartref neu yn eu hardal leol. Ar yr un pryd, maent yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau cleifion mewnol yn cael eu trefnu mewn ffordd sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac yn gallu darparu'r cymysgedd cywir o staff, arbenigedd a chyfleusterau pan fydd angen gofal ysbyty ar bobl.


Gwybodaeth Bellach

Mae'r opsiynau a gyflwynir yn y penodau canlynol yn cynrychioli gwahanol ffyrdd o gyflawni'r nodau hyn.

Diben yr ymgynghoriad hwn yw deall a ydym wedi nodi'r ffordd gywir ymlaen a chlywed barn pobl sy'n defnyddio, yn darparu ac yn cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal ledled Powys.

Mae rhagor o wybodaeth am y Weledigaeth ar gyfer y Dyfodol a sut y cafodd ei datblygu ar gael yn yr Achos Busnes Cyn Ymgynghori sydd i'w gael yn adran Dogfennau Ategol.