Gwella Gyda'n Gilydd – Beth mae hyn yn ei olygu i bob un o 13 ardal Powys?

9 Tachwedd 2026

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwahodd pobl ledled Powys i helpu llunio dyfodol gwasanaethau lleol y GIG.

Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg o 5 Hydref 2026 i 10 Ionawr 2027 ac yn ceisio barn ar gynigion ar gyfer iechyd corfforol oedolion, iechyd meddwl oedolion, gofal brys a rhai gwasanaethau diagnosteg.

Bydd tair ar ddeg o ddigwyddiadau lleol a thri digwyddiad ar-lein yn rhoi cyfleoedd i bobl gwrdd â'r tîm, gofyn cwestiynau, trafod y cynigion ac yna cwblhau'r holiadur. Mae manylion llawn ar gael yn biap.gig.cymru/GwellaGydanGilydd

Mae'r diweddaraf yn ein cyfres o erthyglau rheolaidd Gwella Gyda'n Gilydd yn edrych ar yr hyn y gallai'r cynigion ei olygu i bob un o'r 13 ardal ym Mhowys.

Gallwch ddarllen y Ddogfen Ymgynghori Lawn ar ein gwefan neu gael rhagor o wybodaeth drwy ddarllen y bennod "Beth mae hyn yn ei olygu i bob un o 13 ardal Powys?" isod.

Mae'r bennod hon yn egluro beth fyddai'r opsiynau hyn yn ei olygu i bobl sy'n byw ym mhob ardal ym Mhowys.

Ar draws Powys, byddai'r cynigion yn cryfhau gwasanaethau cymunedol fel y gall mwy o bobl dderbyn gofal gartref. Mae hyn yn cynnwys mwy o ffocws ar atal ac ar wasanaethau ymyrraeth gynnar, Ysbyty Gartref estynedig, ymateb cymunedol brys, gwasanaethau adsefydlu ac ailalluogi, a mwy o gefnogaeth i bobl â chyflyrau hirdymor, eiddilwch, dementia ac anghenion iechyd meddwl. Byddai hefyd fwy o gefnogaeth i bobl dderbyn gofal, adsefydlu, gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn eu cartrefi eu hunain lle bynnag y bo hyn yn ddiogel ac yn briodol.

Byddai maint y gwelliannau hyn yn dibynnu ar yr opsiwn a ddewisir. Byddai opsiynau gyda llai o safleoedd cleifion mewnol a llai o safleoedd gofal brys yn rhyddhau mwy o staff ac adnoddau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol. Mae hyn yn golygu y byddai'r opsiynau dau safle ar gyfer Iechyd Corfforol a Gofal Iechyd Brys yn galluogi ehangu gofal cymunedol yn fwy na'r opsiynau tri safle. Yn yr un modd, mae'r opsiynau dau safle yn fwy dibynnol ar wasanaethau cymunedol cryfach yn eu lle i ddarparu'r model gofal cyffredinol.

Y nod yw cefnogi mwy o bobl i aros yn iach, aros yn annibynnol a derbyn gofal yn eu cymuned eu hunain lle bynnag y bo modd, gan sicrhau bod gwasanaethau cleifion mewnol, gofal brys a gwasanaethau arbenigol yn cael eu cryfhau i'r rhai sydd eu hangen.

Mae'r cynigion yn ceisio symud mwy o ofal o adeiladau'r GIG i gartrefi a chymunedau, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio er budd y nifer fwyaf o bobl ledled Powys.

Mae ystod eang o wasanaethau a ddarperir mewn ysbytai a chlinigau cymunedol ledled Powys y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn ac nid ydynt yn cael eu heffeithio gan y cynigion hyn:

Nid yw'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys yn uniongyrchol:

  • Gwasanaethau Gofal wedi’i Gynllunio: gwasanaethau llawfeddygol, endosgopi ac apwyntiadau cleifion allanol a ddarperir ym Mhowys, a'r gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio a gomisiynwn gan fyrddau iechyd cyfagos ac Ymddiriedolaethau'r GIG.
  • Gwasanaethau Menywod a Phlant: gan gynnwys gwasanaethau mamolaeth, gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, gwasanaethau cymunedol plant, niwroddatblygiad plant – ac eithrio gwasanaethau uned anafiadau bach i bobl un oed a hŷn, a rhai gwasanaethau diagnostig i bob oed.
  • Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a ddarperir mewn Ymarfer Meddygol Cyffredinol, deintyddfeydd, fferyllfeydd ac optometreg; Gofal Cymdeithasol; Sefydliadau Cymunedol a Gwirfoddol – er y bydd rhai o'r cynigion hyn yn effeithio ar sut rydym yn gweithio gyda'r gwasanaethau hyn yn y dyfodol.
  • Newidiadau i'r ffordd rydym yn comisiynu gwasanaethau acíwt a brys gan fyrddau iechyd cyfagos ac Ymddiriedolaethau'r GIG: er ei fod yn cynnwys cyfleoedd i ddarparu mwy o ofal cam i fyny a cham i lawr i fwy o gleifion yn y sir, gan gynnwys trwy ganolfannau gofal brys ac ymateb cymunedol brys.

Pob Ardal

Byddai'r opsiynau arfaethedig yn cryfhau gwasanaethau rhagweithiol, ataliol a chymunedol ym maes iechyd corfforol a meddyliol, gan alluogi mwy o bobl i dderbyn asesiad, triniaeth, adsefydlu a chymorth parhaus gartref neu'n agosach at adref lle bynnag y bo hyn yn ddiogel ac yn briodol. Mae hyn yn cynnwys mwy o bwyslais ar helpu pobl aros yn annibynnol, lleihau mynychu ysbytai y gellir eu hosgoi lle bo'n briodol, a darparu mwy o ofal mewn cartrefi a chymunedau.

Byddai trefniadau presennol ar gyfer cael mynediad at ofal sylfaenol, gofal wedi'i gynllunio, gofal cymdeithasol, gwasanaethau mamolaeth, gwasanaethau plant, gofal brys a gwasanaethau arbenigol a ddarperir gan fyrddau iechyd cyfagos ac Ymddiriedolaethau'r GIG yn parhau ac ni fydd y cynigion hyn yn effeithio arnynt yn uniongyrchol.

Ar draws yr holl opsiynau, byddai gwasanaethau diagnostig yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth gefnogi gofal yn agosach at adref. Mae'r cynigion yn cynnwys cryfhau mynediad at ddiagnosteg o fewn Canolfannau Gofal Brys a lleoliadau cymunedol, gan helpu i wella asesu, diagnosis a thriniaeth yn agosach at adref. Mewn rhai lleoliadau, byddai mynediad at ddiagnosteg yn cynyddu trwy ddarpariaeth saith diwrnod gwell ac ystod ehangach o wasanaethau diagnosteg. Mewn nifer fach o leoliadau, byddai rhywfaint o ddarpariaeth ddiagnosteg yn trosglwyddo i safleoedd eraill fel rhan o wasanaeth diagnosteg mwy cynhwysfawr a chynaliadwy.

Byddai gwasanaethau iechyd meddwl cryfach yn cynnwys dewisiadau amgen diogel i dderbyn a darpariaeth lloches a ddarperir yn y sir.

Ardal Aberhonddu

Byddai ardal Aberhonddu yn elwa o'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

O dan y ddau opsiwn Iechyd Corfforol, byddai oedolion sydd angen gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn derbyn y gwasanaethau hyn yn Aberhonddu. Byddai hyn yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol.

O dan y ddau opsiwn Gofal Iechyd Brys, byddai Aberhonddu yn cynnal Canolfan Gofal Brys well gyda chefnogaeth darpariaeth pelydr-x saith diwrnod ac ystod ehangach o wasanaethau asesu, diagnosis a thriniaeth frys. Byddai hyn yn lleihau'r angen i deithio y tu allan i'r sir i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. 

Lle mae angen gofal mewnol iechyd meddwl i oedolion neu oedolion hŷn ar bobl, byddai gwasanaethau'n cael eu darparu trwy'r Ganolfan Ragoriaeth Iechyd Meddwl arfaethedig yn ardal Bronllys/Aberhonddu. Bydd hyn yn cynnwys mwy o allu i gefnogi pobl ag anghenion gofal uwch o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai rhai cleifion ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol hefyd yn cael gofal yn y wardiau Iechyd Corfforol.

Ardal Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd

Byddai ardal Llanfair-ym-Muallt yn profi'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

Byddai Canolfan Iechyd a Gofal Integredig Glan Irfon yn parhau i ddarparu gofal preswyl. Gallai ei rôl wrth gefnogi ail-alluogi esblygu wrth i fwy o gleifion gael eu cefnogi yn eu cartref eu hunain trwy wasanaethau cymunedol cryfach a gofal gartref.

O dan Opsiwn Iechyd Corfforol 1, byddai oedolion sydd angen gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn cael mynediad at wasanaethau yn Aberhonddu neu Landrindod.  O dan Opsiwn Iechyd Corfforol 2, byddai oedolion sydd angen gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn cael mynediad at wasanaethau yn Aberhonddu.

Byddai'r rhain yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol.

O dan Opsiwn Gofal Iechyd Brys 1 byddai Canolfan Gofal Brys well yn Aberhonddu gan leihau'r angen i deithio y tu allan i'r sir i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth gyda phelydr-x saith diwrnod, ac Uned Mân Anhwylderau ac Anafiadau yn Llandrindod gyda phelydr-x saith diwrnod. O dan Opsiwn Gofal Brys 2, byddai Canolfan Gofal Brys well yn Aberhonddu gan leihau'r angen i deithio y tu allan i'r sir i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth gyda phelydr-x saith diwrnod; byddai'r Uned Mân Anafiadau yn Llandrindod yn cau a byddem yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu trefniadau gofal brys lleol cryfach, gan gynnwys gofal sylfaenol ac atebion cymunedol lle bo'n briodol, gan helpu sicrhau bod pobl yn parhau i gael mynediad at ofal brys yn agosach at adref lle gellir darparu hyn yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Byddai Llandrindod yn parhau i gynnig gwasanaethau pelydr-x a mynediad at ystod estynedig o wasanaethau diagnostig bum diwrnod yr wythnos.

Lle mae angen gofal mewnol iechyd meddwl i oedolion neu oedolion hŷn ar bobl, byddai gwasanaethau'n cael eu darparu trwy'r Ganolfan Ragoriaeth Iechyd Meddwl arfaethedig yn ardal Bronllys/Aberhonddu. Bydd hyn yn cynnwys mwy o allu i gefnogi pobl ag anghenion gofal uwch o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai rhai cleifion ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol hefyd yn cael gofal yn y wardiau Iechyd Corfforol.

Ardal Crucywel

Byddai ardal Crucywel yn elwa o'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

O dan y ddau opsiwn Iechyd Corfforol, byddai oedolion sydd angen gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn derbyn y gwasanaethau hyn yn Aberhonddu. Byddai hyn yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol.

O dan y ddau opsiwn Gofal Iechyd Brys, byddai Aberhonddu yn cynnal Canolfan Gofal Brys well gyda chefnogaeth darpariaeth pelydr-x saith diwrnod ac ystod ehangach o wasanaethau asesu, diagnosis a thriniaeth frys. Rydym yn cydnabod bod trigolion Ardal Crucywel hefyd yn defnyddio gwasanaethau gofal brys galw heibio mewn siroedd cyfagos, ac nid yw'r gwasanaethau hyn wedi'u heffeithio.

Lle mae angen gofal mewnol iechyd meddwl i oedolion neu oedolion hŷn ar bobl, byddai gwasanaethau'n cael eu darparu trwy'r Ganolfan Ragoriaeth Iechyd Meddwl arfaethedig yn ardal Bronllys/Aberhonddu. Bydd hyn yn cynnwys mwy o allu i gefnogi pobl ag anghenion gofal uwch o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai rhai cleifion ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol hefyd yn cael gofal yn y wardiau Iechyd Corfforol.

Ardal Y Gelli a Thalgarth

Byddai ardal y Gelli a Thalgarth yn profi'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

O dan y ddau opsiwn Iechyd Corfforol, byddai oedolion sydd angen gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn derbyn y gwasanaethau hyn yn Aberhonddu. Byddai hyn yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol.

O dan y ddau opsiwn Gofal Iechyd Brys, byddai Aberhonddu yn cynnal Canolfan Gofal Brys well gyda chefnogaeth darpariaeth pelydr-x saith diwrnod ac ystod ehangach o wasanaethau asesu, diagnosis a thriniaeth frys.

Lle mae angen gofal mewnol iechyd meddwl i oedolion neu oedolion hŷn ar bobl, byddai gwasanaethau'n cael eu darparu trwy'r Ganolfan Ragoriaeth Iechyd Meddwl arfaethedig yn ardal Bronllys/Aberhonddu. Bydd hyn yn cynnwys mwy o allu i gefnogi pobl ag anghenion gofal uwch o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai rhai cleifion ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol hefyd yn cael gofal yn y wardiau Iechyd Corfforol.

Ardal Tref-y-clawdd a Llanandras

Byddai ardal Tref-y-clawdd a Llanandras yn profi'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

Ni fyddai Ward Panpwnton yn Ysbyty Tref-y-clawdd yn ailagor a byddai'r gwelyau ail-alluogi presennol yn dod yn rhan lawn o Gartref Preswyl Golwg-y-Bwthyn. Gallai ei rôl wrth gefnogi ail-alluogi esblygu wrth i fwy o gleifion gael eu cefnogi yn eu cartref eu hunain trwy wasanaethau cymunedol cryfach a gofal gartref.

O dan Opsiwn Iechyd Corfforol 1, byddai oedolion sydd angen gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn cael mynediad at wasanaethau yn Llandrindod. O dan Opsiwn Iechyd Corfforol 2, byddai oedolion sydd angen gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn cael mynediad at wasanaethau yn y Drenewydd neu Aberhonddu.

Byddai'r rhain yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol.

O dan Opsiwn Gofal Iechyd Brys 1 byddai Uned Mân Anafiadau ac Anhwylderau yn Llandrindod gyda phelydr-x saith diwrnod. O dan Opsiwn Gofal Brys 2, byddai'r Uned Mân Anafiadau yn Llandrindod yn cau a byddem yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu trefniadau gofal brys lleol cryfach, gan gynnwys gofal sylfaenol ac atebion cymunedol lle bo'n briodol, gan helpu sicrhau bod pobl yn parhau i gael mynediad at ofal brys yn agosach at adref lle gellir darparu hyn yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Byddai Llandrindod yn parhau i gynnig gwasanaethau pelydr-x a mynediad at ystod estynedig o wasanaethau diagnostig bum diwrnod yr wythnos.

Lle mae angen gofal mewnol iechyd meddwl i oedolion neu oedolion hŷn ar bobl, byddai gwasanaethau'n cael eu darparu trwy'r Ganolfan Ragoriaeth Iechyd Meddwl arfaethedig yn ardal Bronllys/Aberhonddu. Bydd hyn yn cynnwys mwy o allu i gefnogi pobl ag anghenion gofal uwch o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai rhai cleifion ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol hefyd yn cael gofal yn y wardiau Iechyd Corfforol.

Ardal Llandrindod a Rhaeadr Gwy

Byddai ardal Llandrindod a Rhaeadr Gwy yn profi'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

Ardal Llanfair Caereinion

Byddai ardal Llanfair Caereinion yn profi'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

O dan y ddau opsiwn Iechyd Corfforol, byddai oedolion yn derbyn gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn y Drenewydd gan leihau'r angen i deithio y tu allan i'r sir i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. Byddai hyn yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol.

O dan y ddau opsiwn Gofal Iechyd Brys byddai Canolfan Gofal Brys well yn y Drenewydd. Byddai hyn yn cael ei gefnogi gan gyfleusterau pelydr-x 7 diwrnod, ochr yn ochr ag ystod estynedig o brofion diagnostig. 

Lle mae angen gofal mewnol iechyd meddwl i oedolion neu oedolion hŷn ar bobl, byddai gwasanaethau'n cael eu darparu trwy'r Ganolfan Ragoriaeth Iechyd Meddwl arfaethedig yn ardal Bronllys/Aberhonddu. Bydd hyn yn cynnwys mwy o allu i gefnogi pobl ag anghenion gofal uwch o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai rhai cleifion ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol hefyd yn cael gofal yn y wardiau Iechyd Corfforol. Yn ogystal, byddem hefyd yn parhau i ystyried cyfleoedd i gomisiynu darpariaeth cleifion mewnol anarbenigol briodol gan sefydliadau cyfagos lle byddai hyn yn gwella hygyrchedd i gleifion a theuluoedd ac yn cefnogi darparu gofal o ansawdd uchel.

Ardal Llanfyllin

Byddai ardal Llanfyllin yn profi'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

O dan y ddau opsiwn Iechyd Corfforol, byddai oedolion yn derbyn gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn y Drenewydd gan leihau'r angen i deithio y tu allan i'r sir i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. Byddai hyn yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol.

O dan y ddau opsiwn Gofal Iechyd Brys byddai Canolfan Gofal Brys well yn y Drenewydd. Byddai hyn yn cael ei gefnogi gan gyfleusterau pelydr-x 7 diwrnod, ochr yn ochr ag ystod estynedig o brofion diagnostig. Rydym yn cydnabod y gall trigolion Ardal Llanfyllin ddefnyddio gwasanaethau gofal brys galw heibio mewn siroedd cyfagos, ac nid yw'r gwasanaethau hyn wedi'u heffeithio.

Lle mae angen gofal mewnol iechyd meddwl i oedolion neu oedolion hŷn ar bobl, byddai gwasanaethau'n cael eu darparu trwy'r Ganolfan Ragoriaeth Iechyd Meddwl arfaethedig yn ardal Bronllys/Aberhonddu. Bydd hyn yn cynnwys mwy o allu i gefnogi pobl ag anghenion gofal uwch o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai rhai cleifion ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol hefyd yn cael gofal yn y wardiau Iechyd Corfforol. Yn ogystal, byddem hefyd yn parhau i ystyried cyfleoedd i gomisiynu darpariaeth cleifion mewnol anarbenigol briodol gan sefydliadau cyfagos lle byddai hyn yn gwella hygyrchedd i gleifion a theuluoedd ac yn cefnogi darparu gofal o ansawdd uchel.

Ardal Llanidloes

Byddai ardal Llanidloes yn elwa o'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

O dan y ddau opsiwn Iechyd Corfforol, byddai oedolion yn derbyn gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn y Drenewydd gan leihau'r angen i deithio y tu allan i'r sir i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. Byddai hyn yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol.

O dan y ddau opsiwn Gofal Iechyd Brys byddai Canolfan Gofal Brys well yn y Drenewydd. Byddai hyn yn cael ei gefnogi gan gyfleusterau pelydr-x 7 diwrnod, ochr yn ochr ag ystod estynedig o brofion diagnostig.

Lle mae angen gofal mewnol iechyd meddwl i oedolion neu oedolion hŷn ar bobl, byddai gwasanaethau'n cael eu darparu trwy'r Ganolfan Ragoriaeth Iechyd Meddwl arfaethedig yn ardal Bronllys/Aberhonddu. Bydd hyn yn cynnwys mwy o allu i gefnogi pobl ag anghenion gofal uwch o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai rhai cleifion ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol hefyd yn cael gofal yn y wardiau Iechyd Corfforol. Yn ogystal, byddem hefyd yn parhau i ystyried cyfleoedd i gomisiynu darpariaeth cleifion mewnol anarbenigol briodol gan sefydliadau cyfagos lle byddai hyn yn gwella hygyrchedd i gleifion a theuluoedd ac yn cefnogi darparu gofal o ansawdd uchel.

Ardal Machynlleth

Byddai ardal Machynlleth yn elwa o'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

O dan y ddau opsiwn Iechyd Corfforol, byddai oedolion yn derbyn gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn y Drenewydd gan leihau'r angen i deithio y tu allan i'r sir i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. Byddai hyn yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol.

O dan y ddau opsiwn Gofal Iechyd Brys byddai Canolfan Gofal Brys well yn y Drenewydd. Byddai hyn yn cael ei gefnogi gan gyfleusterau pelydr-x 7 diwrnod, ochr yn ochr ag ystod estynedig o brofion diagnostig. Rydym yn cydnabod y gall trigolion Ardal Machynlleth ddefnyddio gwasanaethau gofal brys galw heibio mewn siroedd cyfagos, ac nid yw'r gwasanaethau hyn yn cael eu heffeithio.

Lle mae angen gofal mewnol iechyd meddwl i oedolion neu oedolion hŷn ar bobl, byddai gwasanaethau'n cael eu darparu trwy'r Ganolfan Ragoriaeth Iechyd Meddwl arfaethedig yn ardal Bronllys/Aberhonddu. Bydd hyn yn cynnwys mwy o allu i gefnogi pobl ag anghenion gofal uwch o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai rhai cleifion ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol hefyd yn cael gofal yn y wardiau Iechyd Corfforol. Yn ogystal, byddem hefyd yn parhau i ystyried cyfleoedd i gomisiynu darpariaeth cleifion mewnol anarbenigol briodol gan sefydliadau cyfagos lle byddai hyn yn gwella hygyrchedd i gleifion a theuluoedd ac yn cefnogi darparu gofal o ansawdd uchel.

Ardal Y Drenewydd

Byddai ardal Y Drenewydd yn elwa o'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

O dan y ddau opsiwn Iechyd Corfforol, byddai oedolion yn derbyn gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn y Drenewydd gan leihau'r angen i deithio y tu allan i'r sir i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. Byddai hyn yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol.

O dan y ddau opsiwn Gofal Iechyd Brys byddai Canolfan Gofal Brys well yn y Drenewydd. Byddai hyn yn cael ei gefnogi gan gyfleusterau pelydr-x 7 diwrnod, ochr yn ochr ag ystod estynedig o brofion diagnostig. 

Lle mae angen gofal mewnol iechyd meddwl i oedolion neu oedolion hŷn ar bobl, byddai gwasanaethau'n cael eu darparu trwy'r Ganolfan Ragoriaeth Iechyd Meddwl arfaethedig yn ardal Bronllys/Aberhonddu. Bydd hyn yn cynnwys mwy o allu i gefnogi pobl ag anghenion gofal uwch o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai rhai cleifion ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol hefyd yn cael gofal yn y wardiau Iechyd Corfforol. Yn ogystal, byddem hefyd yn parhau i ystyried cyfleoedd i gomisiynu darpariaeth cleifion mewnol anarbenigol briodol gan sefydliadau cyfagos lle byddai hyn yn gwella hygyrchedd i gleifion a theuluoedd ac yn cefnogi darparu gofal o ansawdd uchel.

Ardal Y Trallwng a Threfaldwyn

Byddai ardal Y Trallwng a Threfaldwyn yn profi'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

O dan y ddau opsiwn Iechyd Corfforol, byddai oedolion yn derbyn gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn y Drenewydd gan leihau'r angen i deithio y tu allan i'r sir i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. Byddai hyn yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol.

O dan y ddau opsiwn Gofal Iechyd Brys, byddai'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan yr unedau Mân Anafiadau a phelydr-x yn y Trallwng yn trosglwyddo i Ganolfan Gofal Brys well yn y Drenewydd. Byddai hyn yn cael ei gefnogi gan gyfleusterau pelydr-x 7 diwrnod, ochr yn ochr ag ystod estynedig o brofion diagnostig. Byddem yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu trefniadau gofal brys lleol cryfach, gan gynnwys gofal sylfaenol ac atebion cymunedol lle bo'n briodol, gan helpu sicrhau bod pobl yn parhau i gael mynediad at ofal brys yn agosach at adref lle gellir darparu hyn yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

Lle mae angen gofal mewnol iechyd meddwl i oedolion neu oedolion hŷn ar bobl, byddai gwasanaethau'n cael eu darparu trwy'r Ganolfan Ragoriaeth Iechyd Meddwl arfaethedig yn ardal Bronllys/Aberhonddu. Bydd hyn yn cynnwys mwy o allu i gefnogi pobl ag anghenion gofal uwch o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol. Byddai rhai cleifion ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol hefyd yn cael gofal yn y wardiau Iechyd Corfforol. Yn ogystal, byddem hefyd yn parhau i ystyried cyfleoedd i gomisiynu darpariaeth cleifion mewnol anarbenigol briodol gan sefydliadau cyfagos lle byddai hyn yn gwella hygyrchedd i gleifion a theuluoedd ac yn cefnogi darparu gofal o ansawdd uchel.

Ardal Ystradgynlais

Byddai ardal Ystradgynlais yn elwa o'r manteision "Pob Ardal" a nodir uchod.

O dan y ddau opsiwn Iechyd Corfforol, byddai oedolion yn derbyn gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn Aberhonddu. Byddai hyn yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol.

O dan y ddau opsiwn Gofal Iechyd Brys, byddai'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan yr unedau Mân Anafiadau a phelydr-x yn Ystradgynlais yn trosglwyddo i'r Ganolfan Gofal Brys well yn Aberhonddu. Byddai hyn yn cael ei gefnogi gan gyfleusterau pelydr-x 7 diwrnod, ochr yn ochr ag ystod estynedig o brofion diagnostig. Byddai cyfleusterau pelydr-X yn Ystradgynlais yn cau. Byddem yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu trefniadau gofal brys lleol cryfach, gan gynnwys gofal sylfaenol ac atebion cymunedol lle bo'n briodol, gan helpu sicrhau bod pobl yn parhau i gael mynediad at ofal brys yn agosach at adref lle gellir darparu hyn yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Rydym yn cydnabod y gall trigolion Ardal Ystradgynlais hefyd ddefnyddio gwasanaethau gofal brys galw heibio mewn siroedd cyfagos ac nad yw'r gwasanaethau hyn wedi'u heffeithio.