Gwella Gyda'n Gilydd – Sut cafodd yr opsiynau eu datblygu?

16 Tachwedd 2026

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwahodd pobl ledled Powys i helpu llunio dyfodol gwasanaethau lleol y GIG.

Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg o 5 Hydref 2026 i 10 Ionawr 2027 ac yn ceisio barn ar gynigion ar gyfer iechyd corfforol oedolion, iechyd meddwl oedolion, gofal brys a rhai gwasanaethau diagnosteg.

Bydd tair ar ddeg o ddigwyddiadau lleol a thri digwyddiad ar-lein yn rhoi cyfleoedd i bobl gwrdd â'r tîm, gofyn cwestiynau, trafod y cynigion ac yna cwblhau'r holiadur. Mae manylion llawn ar gael yn biap.gig.cymru/GwellaGydanGilydd

Mae'r diweddaraf yn ein cyfres o erthyglau rheolaidd Gwella Gyda'n Gilydd yn esbonio sut y datblygwyd yr opsiynau ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd ym Mhowys.

Gallwch ddarllen y Ddogfen Ymgynghori Lawn ar ein gwefan neu gael rhagor o wybodaeth drwy ddarllen y bennod "Datblygu Opsiynau ar gyfer y Dyfodol" isod.

Mae'r bennod hon yn egluro sut y nodwyd ac aseswyd opsiynau ar gyfer y dyfodol. Mae'n egluro'r dystiolaeth, y gweithgareddau ymgysylltu a'r gwerthusiad a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r opsiynau ac yn egluro pam y cafodd rhai syniadau eu datblygu tra na chafodd eraill eu datblygu.

Mae'r opsiynau sydd wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn yn ganlyniad proses strwythuredig sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gynlluniwyd i sicrhau bod pob posibilrwydd realistig wedi'i ystyried a'i brofi cyn cael ei adolygu drwy gydol y cyfnod hwn o ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'r broses rydym wedi'i dilyn yn mabwysiadu canllawiau arfer da o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus. Mae hefyd yn adlewyrchu polisi a deddfwriaeth genedlaethol gan gynnwys canllawiau Llywodraeth Cymru ar newidiadau i wasanaethau GIG Cymru.

Drwy gydol y broses, cafodd yr opsiynau eu llunio gan yr hyn a ddywedodd pobl wrthym, eu llywio gan arbenigedd clinigol a phroffesiynol, eu hasesu yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt, a'u herio a'u sicrhau'n annibynnol. Mae'r bennod hon yn egluro'r broses a ddilynwyd gennym. Mae'r Penodau canlynol yn egluro beth mae hyn yn ei olygu i bob maes gwasanaeth: Iechyd Corfforol Oedolion (Pennod 6), Gofal Brys (Pennod 7), Iechyd Meddwl Oedolion (Pennod 8).


Proses Pum Cam

Dilynodd y Bwrdd Iechyd broses bum cam i ddatblygu'r opsiynau ymgynghori Gwella Gyda'n Gilydd.  Cynlluniwyd y dull i sicrhau bod pob opsiwn yn cael ei asesu'n gyson, yn deg ac yn dryloyw, gan barhau i ganolbwyntio ar y materion a nodwyd yn yr Achos dros Newid.

Y pum cam oedd:

  • Deall yr Angen am Newid.
  • Cynhyrchu Syniadau ac Archwilio Posibiliadau.
  • Adolygu a Mireinio Opsiynau Drafft.
  • Datblygu Rhestr Fer.
  • Gwerthuso, Sicrwydd a Pharatoi ar gyfer Ymgynghoriad.

Gyda'i gilydd, creodd y camau hyn linell welediad glir o'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau hyd at yr opsiynau sy'n cael eu hymgynghori arnynt nawr.


Cam 1: Deall yr Angen am Newid

Canolbwyntiodd y cam cyntaf ar ddatblygu a phrofi'r Achos dros Newid.

Daeth yr Achos dros Newid â thystiolaeth ynghyd am yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau gofal iechyd ym Mhowys, gan gynnwys prinder gweithlu, galw cynyddol, anghenion poblogaeth sy'n newid, anghydraddoldebau iechyd, anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau a'r pwysau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau ar draws sir wledig fawr.

Cynhaliodd y Bwrdd Iechyd ymgysylltiad helaeth â chleifion, preswylwyr, staff, partneriaid a rhanddeiliaid i brofi a oedd yr Achos dros Newid yn adlewyrchu eu profiadau a'u dealltwriaeth o wasanaethau lleol. Helpodd hyn i sicrhau bod y materion a nodwyd yn adlewyrchu'n gywir yr hyn sy'n bwysig i bobl leol a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau.

Ochr yn ochr â'r ymgysylltiad hwn, mae clinigwyr, arweinwyr gwasanaethau, cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a chydweithwyr o sefydliadau partner wedi cydweithio ar ystod eang o dasgau gan gynnwys datblygu modelau gofal ar gyfer y dyfodol, egwyddorion dylunio, egwyddorion amser teithio a meini prawf asesu a fyddai'n cael eu defnyddio'n ddiweddarach i arwain ac asesu opsiynau posibl. Sefydlodd yr egwyddorion hyn fframwaith cyson ar gyfer y broses gyfan o ddatblygu opsiynau.

Roedd angen i bob opsiwn yn y dyfodol ddangos sut y byddai'n mynd i'r afael â'r heriau a nodir yn yr Achos dros Newid.

Mae rhagor o wybodaeth am ymgysylltu ar yr Achos dros Newid ar gael o wefan Gwella Gyda'n Gilydd yn biap.gig.cymru/GwellaGydanGilydd Gallwch hefyd ddarllen yr Achos dros Newid a chyfres o Benodau Technegol.


Cam 2: Cynhyrchu Syniadau ac Archwilio Posibiliadau

Canolbwyntiodd yr ail gam ar gynhyrchu datrysiadau posibl.

Oherwydd natur wledig Powys, pan fyddwn yn dylunio gwasanaethau, mae angen i ni ystyried y ffordd orau o'u darparu yn ein hamgylchedd gwledig. Mae hyn yn ein helpu ni asesu a yw'r swm cywir o weithgarwch cleifion yn cael ei ddarparu ar bob lefel er mwyn cynnal sgiliau a galluoedd staff gofal iechyd. Os ydyn nhw'n gweld rhy ychydig o gleifion sydd angen triniaeth benodol, efallai y byddan nhw'n colli eu sgiliau, a gallent golli eu hachrediad proffesiynol i gynnig y gwasanaeth hwn.

Fe wnaeth yr egwyddorion dylunio canlynol helpu clinigwyr i ystyried a ellir darparu gwasanaethau yn eich cartref, yn eich ardal leol, o fewn Powys ar lefel ranbarthol, neu a oes angen eu darparu y tu allan i'r sir. Rydym wedi defnyddio'r egwyddorion hyn i lunio'r opsiynau yn yr ymgynghoriad hwn:

  • Lefel: Cartref
  • Disgrifiad: Gellir darparu rhai gwasanaethau yn ddiogel ac yn effeithiol yng nghartrefi pobl. Mae hyn yn cynnwys staff gofal iechyd sy'n ymweld â chi i ddarparu gwasanaethau gartref. Mae hefyd yn cynnwys gwasanaethau ar-lein a dros y ffôn, yn ogystal ag offer i'ch helpu chi reoli eich gofal eich hun gartref.
  • Lefel: Ardal / Cymuned (e.e. cymunedau o tua 10,000 o bobl)
  • Disgrifiad: Gellir darparu rhai gwasanaethau yn lleol o fewn y gymuned rydych chi'n byw ynddi. Er enghraifft, darperir gwasanaethau gofal sylfaenol meddygon teulu ym mhob un o'r 13 ardal ym Mhowys. Yr 13 ardal ym Mhowys yw Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd, Crucywel, Y Gelli a Thalgarth, Tref-y-clawdd a Llanandras, Llandrindod a Rhaeadr Gwy, Llanfair Caereinion, Llanfyllin, Llanidloes, Machynlleth, Y Drenewydd, Y Trallwng a Threfaldwyn ac Ystradgynlais.
  • Lefel: “Rhanbarth Powys” neu “Clwstwr” 
  • Disgrifiad: Mae angen darparu rhai gwasanaethau ar lefel “ranbarthol” ym Mhowys. Efallai y bydd angen offer a staff arbenigol arnynt, ac mae'n well eu darparu mewn un lleoliad sy'n gwasanaethu poblogaeth fwy, ond gallai hyn fod o fwy nag un lleoliad ym Mhowys. Er enghraifft, rydym yn darparu llawdriniaeth ddydd ac endosgopi yn Aberhonddu a Llandrindod ar hyn o bryd. Mae gennym uchelgais hefyd i ddarparu gwasanaethau llawdriniaeth ddydd ac endosgopi yn y Drenewydd yn y dyfodol fel rhan o raglen Llesiant Gogledd Powys. Mae'r gwasanaethau hyn y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad presennol ond maent yn darparu enghreifftiau o'r hyn a olygwn wrth "Rhanbarth Powys".
  • Lefel: “Unwaith i Bowys”
  • Disgrifiad: Gellir darparu rhai gwasanaethau’n ddiogel o fewn y sir, ond oherwydd eu bod yn llawer mwy arbenigol eu natur efallai y bydd angen eu darparu o un lleoliad neu gan un tîm canolog. Er enghraifft, Ward Felindre ym Mronllys yw ein huned derbyniadau iechyd meddwl i oedolion (18-64) ar hyn o bryd.
  • Lefel: Y tu allan i'r si
  • Disgrifiad: Mae natur wledig a phoblogaeth wasgaredig Powys yn golygu na ellir darparu rhai gwasanaethau'n ddiogel o fewn y sir oherwydd eu natur arbenigol iawn. Er enghraifft, rydym yn defnyddio gwasanaethau Ysbyty Cyffredinol Dosbarth mewn siroedd cyfagos yng Nghymru a Lloegr.

Daeth syniadau o sawl ffynhonnell gan gynnwys:

  • Ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid.
  • Gweithdai clinigol a phroffesiynol.
  • Adolygiadau o wasanaethau.
  • Dadansoddiad technegol.
  • Adborth gan bartneriaid a staff.
  • Digwyddiadau ystyriol sy'n cynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a chynrychiolwyr cymunedol.

Drwy’r broses hon, nodwyd ac adolygwyd ystod eang o syniadau. Roedd y syniadau hyn yn amrywio o welliannau i wasanaethau a ffyrdd newydd o weithio i newidiadau mwy trawsnewidiol yn sut a ble y gellid darparu gwasanaethau.

Er mwyn helpu profi gwahanol ddulliau, datblygodd y Bwrdd Iechyd chwe senario yn disgrifio ffyrdd eang y gellid trefnu gwasanaethau yn y dyfodol. Nid cynigion gwasanaeth manwl oedd y senarios hyn ac nid oeddent wedi'u bwriadu i ddod yn opsiynau ymgynghori. Yn hytrach, fe'u defnyddiwyd i ysgogi trafodaeth a chasglu barn am wahanol gyfeiriadau teithio.

Y rhain oedd:

  • Na, fydd dim newid.
  • Newidiadau a datblygiadau bach i'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol.
  • Mwy o wasanaethau’n cael eu darparu o fewn “canolfannau rhagoriaeth” gan gynnwys mewn Canolfannau Rhanbarthol Gwledig. Byddai hyn yn golygu y byddai rhai o'n gwasanaethau (megis gwelyau ysbyty) yn cael eu darparu mewn llai o leoliadau nag nawr. 
  • Datblygu ac ehangu'r ystod o wasanaethau sydd ar gael gartref drwy gryfhau timau sylfaenol a chymunedol.
  • Darperir gofal cleifion mewnol, gan gynnwys gwelyau ysbyty cymunedol, y tu allan i'r sir mewn byrddau iechyd cyfagos.
  • Darparu Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ym Mhowys.

Cadwyd “Dim Newid” a “Darparu Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ym Mhowys” at ddibenion cymharu. Roedd yr Achos dros Newid wedi dangos nad yw "Dim Newid" yn opsiwn, ac nad oes unrhyw opsiynau diogel na hyfyw ar gyfer darparu Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ym Mhowys.

Helpodd ymgysylltu ar y senarios hyn i nodi:

  • Y nodweddion yr oedd pobl fwyaf eisiau eu gweld mewn gwasanaethau yn y dyfodol.
  • Barn am y cydbwysedd rhwng mynediad lleol a chynaliadwyedd gwasanaethau.
  • Agweddau tuag at integreiddio gwasanaethau yn fwy.
  • Cefnogaeth i gryfhau gofal mewn lleoliadau cymunedol.
  • Pryderon ynghylch teithio a mynediad mewn sir wledig 

Helpodd allbynnau'r cam hwn i lunio'r rhestr hir o opsiynau a fyddai'n symud ymlaen i'w hystyried yn fanylach.

Mae rhagor o wybodaeth am ymgysylltu ar y senarios a'r hyn a glywsom ar gael o'r adran Dogfennau Ategol ar ein gwefan yn biap.gig.cymru/GwellaGydanGilydd. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth fanwl am yr ystod o syniadau yn ein Hadroddiad Camau.


Camau 3 a 4: Adolygu a Mireinio Opsiynau Drafft a Datblygu Rhestr Fer 

Pan fyddwn yn adolygu gwasanaethau iechyd rydym yn defnyddio “meini prawf rhwystr” i’n helpu ni benderfynu pa opsiynau i ganolbwyntio arnynt. Y “meini prawf rhwystr” yw profion allweddol (“rhwystrau”) y mae’n rhaid i opsiynau eu pasio cyn iddynt gael eu hystyried ymhellach. Mae hyn yn ein helpu ni sicrhau nad ydym yn treulio amser ac arian cyhoeddus yn profi opsiynau na fyddai'n gweithio. 

Ar gyfer y rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd, fe wnaethom nodi pum Maen Prawf Rhwystr. Dylanwadwyd ar y rhain gan yr adborth a glywsom drwy ymgysylltu â staff a’r cyhoedd.

  • Meini prawf: A yw'r ateb posibl yn gynaliadwy yn glinigol?
  • Esboniad
    • A yw'n cyflawni cynnydd tuag at wasanaethau diogel a dibynadwy sy'n bodloni safonau ansawdd?
    • A yw'n ystyried unrhyw gyd-ddibyniaethau (y ffordd y mae angen i wahanol wasanaethau gydweithio)?
    • A yw'n cael ei lywio gan dystiolaeth sy'n sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal cywir a'r canlyniadau gorau posibl?
  • Meini prawf: A yw'r ateb posibl yn gwella mynediad?
  • Esboniad
    • A yw'n galluogi pobl i gael mynediad at gyngor, arweiniad a gofal yn gyflym ac yn hawdd?
    • A yw'n mynd i'r afael â chydraddoldeb mynediad?
    • A yw'n darparu mynediad o fewn amserlen briodol?
  • Meini prawf: A yw'r ateb posibl yn gyraeddadwy?
  • Esboniad
    • A yw'r gweithlu neu fodel gweithlu amgen ar gael i'w gyflawni?
    • A ystyriwyd technoleg ddigidol wrth ddatblygu'r ateb?
    • A fydd modd ei gyflawni'n glinigol o fewn amserlen fer (1-2 flynedd), ganolig (2-4 blynedd) neu hir (5-10 mlynedd)?
    • A fydd modd ei gyflawni'n weithredol o fewn amserlen fer (1-2 flynedd), ganolig (2-4 blynedd) neu hir (5-10 mlynedd)?
  • Meini prawf: A yw'r ateb posibl yn cefnogi (neu o leiaf ddim yn gwrth-ddweud) …
  • Esboniad
    • System gofal sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n diwallu anghenion pobl?
    • Gweithio integredig gyda phartneriaid?
    • Gwella iechyd y boblogaeth?
    • Y cyfeiriad strategol ar gyfer Powys (e.e. Strategaeth Iechyd a Gofal, blaenoriaethau strategol BIAP) ac ar gyfer GIG Cymru (e.e. Cymru Iachach)?
  • Meini prawf: A yw'r ateb posibl yn gynaliadwy yn ariannol?
  • Esboniad
    • A yw'n gwneud y defnydd gorau o adnoddau ariannol yn y tymor byr a'r tymor hir?
    • A yw'n cefnogi dull sy'n seiliedig ar werthoedd i wella canlyniadau?
    • A yw'n gwella effeithlonrwydd a chynhyrchiant ac yn lleihau gwastraff?

O'r Rhestr Hir i'r Rhestr Fer

Adolygwyd pob opsiwn yn erbyn y Meini Prawf Rhwystrau.
Cafodd opsiynau a fethodd un neu fwy o'r meini prawf eu tynnu o'r ystyriaeth bellach. Cafodd opsiynau tebyg eu cyfuno, eu mireinio neu eu hymgorffori mewn cynigion ehangach lle bo'n briodol. Roedd adborth o ymgysylltu, digwyddiadau ystyriol a sesiynau her glinigol hefyd yn llywio penderfyniadau ynghylch pa opsiynau y dylid bwrw ymlaen â nhw.

Cyfanswm:

  • Aseswyd 81 o opsiynau drwy'r broses rhwystrau.
  • Cafodd 43 o opsiynau eu diystyru. 
  • Aeth 38 o opsiynau ymlaen i'w hystyried ymhellach yng Ngham 5.

Mae gwybodaeth fanwl am y rhestr hir o syniadau a sut y cawsant eu gwerthuso i'w gweld yn yr Adroddiad Cam sydd ar gael yn adran Dogfennau Ategol.


Cam 5: Gwerthuso, Sicrwydd a Pharatoi ar gyfer Ymgynghoriad

Ar ôl i'r rhestr fer gael ei sefydlu, aeth pob opsiwn trwy raglen gynhwysfawr o asesiad technegol a sicrwydd.

Roedd hyn cynnwys:

  • Modelu'r gweithlu.
  • Gwerthusiad ariannol.
  • Asesiad ystadau.
  • Modelu galw a chapasiti.
  • Dadansoddiad amser teithio.
  • Profi llwybr cleifion.
  • Asesiadau effaith ar gydraddoldeb, ansawdd ac asesiadau effaith eraill.
  • Her ac adolygiad clinigol.

Pwrpas y gwaith hwn oedd deall y manteision, yr anfanteision, y risgiau a'r effeithiau sy'n gysylltiedig â phob opsiwn. 

Cyhoeddwyd drafft o Feini Prawf Asesu ym mis Mehefin 2025 a gofynnwyd am adborth gan gleifion, y cyhoedd, staff a sefydliadau partner. Rydym wedi diweddaru'r Meini Prawf Asesu mewn ymateb i'r safbwyntiau a glywsom. Mae'r meini prawf hyn yn defnyddio'r chwe pharth ansawdd yn Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal GIG Cymru.

  • Chwe Pharth ar gyfer Ansawdd: Diogel
  • Enghreifftiau
    • Yn cefnogi ymarfer clinigol diogel.
    • Yn sicrhau model gweithlu sylweddol.
    • Yn gwella diogelwch staff gan gynnwys diwylliant o ddiogelwch a chodi llais heb ofn
  • Chwe Pharth ar gyfer Ansawdd: Amserol
  • Enghreifftiau
    • Yn cyflawni yn erbyn y safonau mynediad gofynnol.
    • Yn gwella mynediad at wasanaethau sy'n cefnogi pobl i aros gartref lle bo modd ac yn galluogi ymateb amserol pan fydd anghenion yn cynyddu.
    • Yn galluogi llwybrau trosglwyddo a rhyddhau effeithlon i atal niwed i gleifion.
  • Chwe Pharth ar gyfer Ansawdd: Effeithiol
  • Enghreifftiau
    • Wedi'i ategu gan ddata dibynadwy, canllawiau arfer gorau a sylfaen dystiolaeth.
    • Yn cefnogi cyflwyno modelau gofal yn y dyfodol, canllawiau cenedlaethol a lleol.
    • Yn mynd i'r afael â rhwystrau presennol i ofal yn yr achos dros newid megis parhad gofal a chyfathrebu.
  • Chwe Pharth ar gyfer Ansawdd: Effeithlon
  • Enghreifftiau
    • Yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau i wella canlyniadau a phrofiad cleifion, a boddhad staff, ac yn ein galluogi i fyw o fewn ein modd.
    • Yn defnyddio technoleg ddigidol i gynorthwyo gofal effeithlon gan ystyried y rhai nad ydynt yn gallu defnyddio technoleg.
    • Yn ymarferol a gall gyflawni effaith gadarnhaol yn y tymor byr neu ganolig.
  • Chwe Pharth ar gyfer Ansawdd: Yn deg
  • Enghreifftiau
    • Yn darparu gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth ledled Powys ond gall addasu i fynd i'r afael â gwahaniaethau mewn angen gan gyfrannu'n gadarnhaol at leihau anghydraddoldeb iechyd.
    • Yn lleihau anghydraddoldeb ledled Powys, er enghraifft drwy gael gwared ar wahaniaethau diangen yn y ffordd y darperir gwasanaethau.
    • Yn darparu cynnig priodol i bob grŵp o'r boblogaeth gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig.
  • Chwe Pharth ar gyfer Ansawdd: Canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Enghreifftiau
    • Yn helpu pobl aros yn iach ac yn meithrin hunanddibyniaeth mewn cleifion a'r boblogaeth.
    • Yn darparu cynnig cydgysylltiedig ymatebol sy'n cefnogi pobl i gyflawni'r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw ac yn gwella canlyniadau profiad cleifion.
    • Yn darparu mynediad i ddiwallu anghenion gofal iechyd o fewn amseroedd teithio derbyniol (yn unol â'r sail dystiolaeth).

Sgoriwyd pob opsiwn yn erbyn y meini prawf hyn gan ddefnyddio system sgorio y cytunwyd arni.

Ychwanegwyd pwysoliadau i adlewyrchu blaenoriaethau strategol. Cynhaliwyd dadansoddiad sensitifrwydd i brofi a oedd canlyniadau wedi newid yn sylweddol o dan wahanol dybiaethau. Rhoddodd hyn sicrwydd ychwanegol bod y canfyddiadau'n gadarn ac nad oedd unrhyw faen prawf sengl yn dylanwadu'n anghymesur ar ganlyniad y broses asesu.

Roedd canlyniadau'r asesiad yn rhan o'r broses benderfynu ehangach ac fe'u hystyriwyd ochr yn ochr ag asesiadau o'r gweithlu, cyllid, ystadau, teithio, ansawdd a chydraddoldeb.

Her a Sicrwydd Annibynnol

Roedd her a sicrwydd annibynnol wedi'u hymgorffori drwy gydol y broses.

Daeth tri digwyddiad ystyriol â chleifion, cymunedau, staff, awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol, cynrychiolwyr gofal sylfaenol a rhanddeiliaid eraill ynghyd i brofi a mireinio cynigion sy'n dod i'r amlwg drwy gydol y broses. Roedd y digwyddiadau hyn yn gyfle pwysig i herio rhagdybiaethau, archwilio risgiau a sicrhau bod yr opsiynau sy'n datblygu yn adlewyrchu'r materion a'r blaenoriaethau a nodwyd gan gymunedau lleol.

Darparodd arbenigwyr allanol gyngor ac adolygiad mewn meysydd fel ailgynllunio gwasanaethau, profi llwybrau cleifion, modelu galw a chapasiti a thrawsnewid gwasanaethau clinigol. Rhoddodd arbenigwyr ymgysylltu ac ymgynghori annibynnol gyngor ar ddyluniad y broses ymgysylltu ac ar barodrwydd ar gyfer ymgynghori.

Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys nifer o fecanweithiau sicrwydd ffurfiol, gan gynnwys:

  • Adolygiad gan aelodau clinigol y Pwyllgor Gweithredol.
  • Sesiynau Gwirio a Herio’r Gweithlu a Chyllid.
  • Sicrwydd ymgynghori annibynnol.

Cyrraedd yr Opsiynau Ymgynghori

Y dewisiadau a gyflwynir nawr yn yr ymgynghoriad hwn yw canlyniad y broses strwythuredig hon.

Ystyriwyd llawer mwy o bosibiliadau yn ystod y cyfnod datblygu. Cafodd rhai eu diystyru oherwydd nad oeddent yn bodloni'r Meini Prawf Rhwystrau. Cyfunwyd neu mireiniwyd eraill wrth i dystiolaeth ddatblygu a derbyn adborth gan randdeiliaid. Yr opsiynau sy'n weddill yw'r rhai y mae'r Bwrdd Iechyd yn eu hystyried yn hyfyw ac yn gallu mynd i'r afael â'r heriau a nodir yn yr Achos dros Newid.

Yn bwysig, nid oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi'u gwneud eto.

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar yr opsiynau hyn, deall yr effeithiau y gallent eu cael ar gleifion, cymunedau, staff a phartneriaid, a sicrhau bod adborth yr ymgynghoriad yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol. Dim ond ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn llawn y bydd unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud.

Beth sy'n Digwydd Nesaf?

Mae'r penodau nesaf yn disgrifio'r opsiynau'n fanylach, gan gynnwys beth fyddai pob opsiwn yn ei olygu'n ymarferol, y manteision posibl, y risgiau a'r cyfaddawdau sydd wedi'u nodi, a'r materion yr ydym yn ceisio eich barn arnynt yn benodol.


Gwybodaeth Bellach

Mae rhagor o wybodaeth am y broses o ddatblygu opsiynau a sut y daethom at y rhestr derfynol o opsiynau ar gael yn yr Adroddiad Cam ac yn yr Achos Busnes Cyn Ymgynghori. Mae'r rhain i'w gweld yn adran Dogfennau Ategol.