Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Gyda'n Gilydd: sut mae penderfyniadau cynllunio yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles

"Dim ond rhan fach o'r hyn sy'n galluogi pobl i aros yn iach drwy gydol eu hoes yw mynediad at ofal iechyd. Mae'r amgylchedd adeiledig a naturiol (adeiladau, cartrefi, lleoedd, strydoedd, llwybrau, tir, cyrsiau dŵr, cynefinoedd naturiol) a'r gweithgareddau a wneir ynddynt (byw, gweithio, dysgu, chwarae, siopa, teithio, symud) yn pennu iechyd a lles y boblogaeth."

Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chydffederasiwn GIG Cymru wedi cyhoeddi esboniad newydd heddiw sy'n dangos sut mae penderfyniadau ynghylch tai, trafnidiaeth, mannau gwyrdd ac amgylcheddau bwyd yn dylanwadu'n uniongyrchol ar iechyd y genedl - a pham mae angen dull llywodraeth gyfan ar frys ar Gymru i greu lleoedd a chymunedau iachach.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod amgylcheddau sydd wedi'u cynllunio'n wael yn cyfrannu at gynnydd mewn gordewdra, anweithgarwch corfforol ac anghydraddoldebau iechyd sy'n ehangu. Yn 2024/25, roedd 27.3% o blant 4 i 5 oed dros bwysau neu'n ordew, tra bod 62% o oedolion wedi nodi eu bod dros bwysau neu'n ordew . Ar yr un pryd, mae siopau bwyd cyflym 24 awr newydd yn parhau i gael eu cymeradwyo. Mae byrddau iechyd dan bwysau cynyddol i ehangu gwasanaethau rheoli pwysau, ond dim ond cyfran fach o'r galw y gall y capasiti presennol ei ddiwallu.

Mae'r esboniad yn dangos y gall cynllunio fod yn arf pwerus ar gyfer gwella iechyd a lles – gan alluogi teithio egnïol, mynediad at fannau gwyrdd, tai o safon, cyflogaeth a bwyd iach. Ond gall hefyd waethygu iechyd gwael pan fydd amgylcheddau bwyd afiach yn tyfu, pan fydd datblygiadau'n cael eu hadeiladu o amgylch defnyddio ceir, neu pan fydd tai a manwerthu wedi'u lleoli ymhell o wasanaethau. Mae tystiolaeth yn dangos y gall ardaloedd difreintiedig gael hyd at bum gwaith cymaint o leoedd tecawê bwyd poeth ag ardaloedd mwy cyfoethog.