Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Gyda'n Gilydd: Tystiolaeth newydd yn dweud bod pob cam yn cyfrif i wella'ch iechyd

Mae ein herthygl westai ddiweddaraf, Gwella Gyda'n Gilydd, gan Lywodraeth Cymru.


Mae canllawiau gweithgarwch corfforol wedi’u diweddaru yn cadarnhau bod cynyddu eich gweithgarwch corfforol, a hynny ond ychydig bach, yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i’ch iechyd a’ch lles.

Prif negeseuon:

  • mae ymgymryd ag ychydig bach mwy yn unig o weithgarwch corfforol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’ch iechyd os nad ydych chi’n gwneud ymarfer corff ar hyn o bryd – dyna yw neges y Prif Swyddogion Meddygol
  • mae pob gweithgarwch yn cyfrif – o gerdded a defnyddio’r grisiau i gymryd rhan mewn chwaraeon
  • mae pawb yn elwa beth bynnag yw ei lefel ffitrwydd – gan gynnwys y rheini sydd â chyflyrau hirdymor

Mae 4 Prif Swyddog Meddygol y DU yn argymell 150 o funudau o weithgarwch yr wythnos ar gyfer iechyd da. Y rheini sy’n gwneud y lleiaf o ymarfer corff sy’n gweld yr effeithiau cadarnhaol mwyaf ar eu hiechyd pan fyddant yn dechrau. Felly, gall pawb elwa, waeth beth yw eu lefel ffitrwydd presennol.

Dywedodd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru:

"Mae'r dystiolaeth yn glir. Mae cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn bwysig i’n hiechyd ac mae pob gweithgarwch – dim gwahaniaeth pa mor fach – yn cyfrif. Os nad ydych chi wedi bod yn gwneud unrhyw ymarfer corff, dechrau gwneud rhywfaint yw un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i’ch iechyd.

"Mae’r manteision iechyd yn eang. Mewn plant a phobl ifanc, mae cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol rheolaidd a dysgu gwell ac iechyd meddwl gwell. Mewn oedolion, mae’n diogelu rhag amrywiaeth eang o gyflyrau cronig gan gynnwys clefyd y galon, diabetes a phroblemau iechyd meddwl.

"Mae cerdded, beicio, dawnsio, cymryd rhan mewn chwaraeon a dewis defnyddio’r grisiau i gyd yn cyfrif. Pan fydd ymarfer corff yn rhywbeth maen nhw’n ei fwynhau, yn ddefnyddiol neu’n rhan o’u patrwm o ddydd i ddydd, mae pobl yn fwy tebygol o barhau ag arferion newydd.

"Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf hefyd yn dangos ei bod yn bwysig inni gymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol weithgareddau gan gynnwys gweithgareddau cryfhau cyhyrau ac ymarferion cydbwysedd a hyblygrwydd."


Newyddion wedi'u hychwanegu 14 Gorffennaf 2026