Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cadarnhau y bydd cynigion ar gyfer dyfodol gwasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol oedolion ym Mhowys yn cael eu hystyried mewn cyfarfod o'r Bwrdd ar 16 Medi 2026. Os cytunir arnynt, byddai'r cynigion wedyn yn symud i ymgynghoriad cyhoeddus llawn, gan roi ystod eang o gyfleoedd i breswylwyr, cleifion, staff a rhanddeiliaid ddweud eu dweud cyn i unrhyw benderfyniadau terfynol gael eu gwneud.
Mae'r rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd yn edrych ar sut y gall gwasanaethau barhau i ddiwallu anghenion cymunedau Powys yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi tynnu sylw at nifer o heriau o'r blaen, gan gynnwys galw cynyddol am wasanaethau, poblogaeth sy'n heneiddio, prinder gweithlu, adeiladau sy'n heneiddio a phwysau ariannol parhaus. Mae aelodau'r bwrdd wedi bod yn glir bod y materion hyn yn golygu nad yw gwneud dim yn opsiwn cynaliadwy.
Yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf, derbyniodd y Bwrdd ddiweddariad ar y gwaith a gwblhawyd hyd yma a chymeradwyodd gynlluniau ar gyfer sut y byddai ymgynghoriad yn y dyfodol yn cael ei gynnal, pe bai'r ymgynghoriad yn cael ei gymeradwyo ym mis Medi. Yn bwysig, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynglŷn â siâp gwasanaethau yn y dyfodol. Os cymeradwyir ymgynghoriad, bydd pobl ledled Powys yn gallu adolygu'r cynigion, mynychu digwyddiadau, gofyn cwestiynau a rhoi adborth. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i ystyried yr holl adborth yn ofalus cyn i unrhyw argymhellion gael eu cyflwyno ar gyfer penderfyniad terfynol, a ddisgwylir yng Ngwanwyn 2027.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Gwella Gyda'n Gilyd, ewch i dudalennau gwe pwrpasol y Bwrdd Iechyd Gwella Gyda'n Gilydd a thanysgrifiwch i'n cylchlythyrau i dderbyn diweddariadau rheolaidd.