Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Gyda'n Gilydd ym Mhowys: Ceisio'ch barn ar Wasanaethau Cymunedol Iechyd Corfforol a Meddyliol i Oedolion ym Mhowys

Rydym yn ceisio eich barn gychwynnol ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol ym Mhowys erbyn 27 Gorffennaf 2025. Mae ein gwefan yn esbonio sut y gallwch ddarganfod mwy a dweud eich dweud. 

Diolch am eich diddordeb yn y cynllun Gwella Gyda'n Gilydd. Ein sgwrs fawr gyda chi ydyw, er mwyn llunio dyfodol gwasanaethau iechyd diogel ac o ansawdd i Bowys a sicrhau bod ein Strategaeth Iechyd a Gofal yn cael eu cyflawni. 

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chleifion, defnyddwyr gwasanaethau, cymunedau, staff iechyd a gofal, a sefydliadau partner i wella canlyniadau iechyd a gwneud gwasanaethau yn fwy effeithlon ac effeithiol. 

Er bod gennym rai sylfeini rhagorol i adeiladu arnynt, mae angen i ni nawr newid yn radical y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau fel y gallwn gwrdd â'r galw cynyddol ac anghenion y boblogaeth yn y dyfodol. 

Mae gennym ddyletswydd gofalu i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n poblogaeth. Mae gennym ddyletswydd hefyd i fyw o fewn ein modd. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni ystyried opsiynau ar gyfer sut a ble y gallem ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Gallai hyn olygu bod angen i gleifion gael mynediad at wasanaethau mewn ffordd wahanol neu mewn lle gwahanol. 

Byddwn yn gwneud hyn trwy weithredu cynllun 'Gwella Gyda'n Gilydd' gyda phobl, partneriaid a staff lleol i lunio gwasanaethau iechyd a gofal sy'n gynaliadwy, yn effeithiol, ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysicaf i'n cymunedau. 

Mae ein gwefan yn esbonio pam mae angen newid, ein lefel o uchelgais i drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd, a sut y gallwch ddweud eich dweud. 

Trwy wrando ar ein cleifion, ac ar ein timau clinigol a phroffesiynol, rydym wedi nodi'r angen i ganolbwyntio ein hymdrechion i ddechrau ar ein gwasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddwl. Mae hyn oherwydd yr heriau y mae'r gwasanaethau hyn yn eu profi, a'r effaith gynyddol y mae hyn yn ei chael ar ansawdd a'n gallu i ddarparu gofal diogel ac effeithiol. 

Rydym yn ceisio eich barn ar sut rydym yn mynd i'r afael â'r heriau ac yn darparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. 

Bydd cyfleoedd eraill i glywed eich barn ar sut rydym yn mynd i'r afael â heriau eraill a nodwyd o fewn yr Achos dros Newid a gyhoeddwyd gennym ym mis Ebrill. Yn ystod 2025 rydym yn canolbwyntio ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddwl oedolion. Ar ôl hyn, byddwn yn canolbwyntio ar ofal wedi'i gynllunio (fel cleifion allanol arferol, achosion diwrnod llawfeddygol ac ymchwiliadau sy'n helpu i adnabod cyflwr iechyd neu glefyd) ac yna gwasanaethau sy'n cefnogi iechyd plant, teuluoedd a menywod. 

Erbyn pryd hoffem glywed eich barn? 

Hoffem glywed eich barn erbyn hanner nos ddydd Sul 27 Gorffennaf 2025. 

Rydym ni'n eich gwahodd i edrych ar yr holl ddogfennau gan gynnwys: 

  • Ac yna cwblhewch yr arolwg 

Bydd ffolder Gwella Gyda'n Gilydd ar gael ym mhob llyfrgell fel y gall pobl ddarllen y Ddogfen Ymgysylltu lawn a chwblhau fersiwn bapur o'r arolwg os nad oes ganddynt fynediad at gyfrifiadur personol/dyfais ar-lein. 

Gallwch hefyd: 

  • Ffonio, ysgrifennu neu e-bostio ni i ofyn am gopïau caled o'r dogfennau. 

  • Ffonio ni ar 01874 442917 Gadewch neges yn nodi pa ddogfennau rydych chi eu heisiau gyda'ch enw a'ch cyfeiriad post, gan sillafu unrhyw eiriau anarferol. e.e. Enw'r Tŷ. 

  • Ysgrifennu atom yn: Gwella Gyda’n Gilydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Tŷ Glasbury, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Powys LD3 0LY 

Os ydych chi'n hapus i dderbyn gwybodaeth trwy e-bost, gallwch gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth Newyddion Ymgysylltu am ddim sy'n anfon gwybodaeth yn uniongyrchol i'ch mewnflwch am gyfleoedd i ddweud eich dweud ar wasanaethau'r bwrdd iechyd.

Cyhoeddwyd: 09 Mehefin 2025