Neidio i'r prif gynnwy

Profiad cleifion wedi'i wella trwy osod murluniau

Dros y blynyddoedd diwethaf, efallai bod llawer wedi sylwi ar welliannau gweledol i nifer o fannau mewnol (a rhai allanol) ar safleoedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae tîm Ymgysylltu a Chyfathrebu’r bwrdd iechyd wedi bod yn dylunio, argraffu a gosod murluniau finyl mewn ardaloedd fel ystafelloedd aros cleifion a mannau trin plant i wneud yr amgylchedd gweledol yn fwy apelgar.

"Rydyn ni'n cael mwy a mwy o geisiadau gan ein hadrannau ar draws y sir i ddylunio murluniau," esboniodd Steve Haslam, Swyddog Dylunio Graffig a Chynhyrchu'r bwrdd iechyd.  "Mae rhai o'r murluniau rydyn ni wedi'u cynllunio wedi ymgorffori gwaith gan artistiaid lleol ac, ar eraill, rydyn ni wedi defnyddio lluniau o'r tirweddau lleol a'u cymysgu â gwaith celf wedi'i greu â llaw."

"Pe bydden ni'n mynd i asiantaeth allanol i gynhyrchu'r rhain i ni, byddai'n costio miloedd lawer o bunnoedd fesul murlun ond gallwn ni wneud y gwaith yma ar ffracsiwn o'r gost. Roedd gennym argraffwyr eisoes a oedd yn gallu gwneud y math hwn o waith felly nid ydym wedi gorfod prynu unrhyw offer i allu gwneud ein hadeiladau'n fwy cyfeillgar i gleifion, ymwelwyr a staff."

Mae Aimee Louviere-Cowen yn Ymarferydd Arweiniol Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Niwroddatblygiadol yng Nghanolfan Blant Aberhonddu a dywedodd: "Mae gennym brofiad i’w rhannu / pwynt siarad yn syth, sy'n bwysig iawn i'n cleientiaid sy'n gallu cael trafferth dechrau rhyngweithiadau. Gall hyd yn oed bocs o deganau neu gemau fod yn frawychus, ond mae siarad am y dyluniadau ar y drws yn bwysedd isel ac yn syth yn eu gwneud i deimlo’n gartrefol. "

Mae'r gwaith celf wedi'i ddylunio a'i argraffu ym mhencadlys y bwrdd iechyd ym Mronllys ac yna'n cael ei osod gan Steve a'r Rheolwr Cyfathrebu Tab Wheeler. Yn ystod y 12 mis diwethaf, maent wedi gosod murluniau mewn nifer o safleoedd, gan gynnwys:

  • Ysbyty Bro Ddyfi ym Machynlleth;
  • Swyddfeydd Y Parc yn y Drenewydd;
  • Ysbyty Bronllys;
  • Cartref Preswyl Golwg-y-Bwythyn, Tref-y-clawdd;
  • Academi Iechyd, Gofal a Gofal Cymdeithasol Powys, Llandrindod;
  • Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog, Aberhonddu;
  • Ysbyty Coffa Rhyfel, Llandrindod;
  • Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais;
  • Mae murluniau hefyd wedi'u gosod yn adeiladau'r Academi Iechyd, Gofal a Gofal Cymdeithasol Powys ym Mronllys a Llandrindod.

Isod: Rhai o'r dyluniadau a gynhyrchwyd gan y tîm.