Neidio i'r prif gynnwy

Gwelwyd y nifer uchaf erioed o achosion coronafeirws a gadarnhawyd ym Mhowys dros y dyddiau diwethaf

Mae’r Bwrdd Iechyd a’r Cyngor yn annog trigolion Powys i gefnogi’r cyfnod clo byr a llym wrth i nifer yr achosion barhau i godi.

Gwelwyd y nifer uchaf erioed o achosion coronafeirws a gadarnhawyd ym Mhowys dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Mae’n hanfodol fod pawb yn dilyn cyfyngiadau’r cyfnod clo llym sydd ar waith yng Nghymru hyd 9 Tachwedd.

“Bydd y cyfnod clo llym yn arbed bywydau ac yn helpu i ddiogelu’r GIG.

“Os byddwn yn cysylltu â llai o bobl, byddwn yn atal y gadwyn heintio, yn helpu’r GIG i ymdopi ac yn arbed bywydau.

“Mae’n bwysig ein bod i gyd yn cofio bod Coronafeirws yn dal i fod yn fygythiad gwirioneddol i iechyd cyhoeddus. Gallwn oll helpu i Gadw Powys yn Ddiogel.”

Gallwn oll helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws:

  • Arhoswch gartref
  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd.
  • Cadwch bellter cymdeithasol oddi wrth eraill.
  • Peidiwch â chyfarfod unrhyw un nad yw’n byw gyda chi
  • Gwisgwch orchudd wyneb mewn siopau, mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, oni bai bod esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny
  • Gweithiwch gartref os gallwch – a pheidiwch â mynd I’r Gwaith os oes symptomau coronafeirws arnoch

Prif symptomau Coronafeirws yw:

  • tymheredd uchel: mae hyn yn golygu bod eich brest neu’ch cefn yn teimlo'n boeth o’i gyffwrdd (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
  • peswch newydd, parhaus: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu dri neu fwy o gyfnodau o besychu o fewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall fod yn waeth nag arfer)
  • eich gallu i arogli neu flasu yn diflannu neu’n newid: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli na blasu unrhyw beth, neu mae pethau'n arogli neu'n blasu'n wahanol i’r arfer.

Mae gan y rhan fwyaf o bobl â chlefyd coronafeirws o leiaf un o'r symptomau hyn.

Os oes symptomau gennych, dylech chi a phawb ar eich aelwyd hunan-ynysu ar unwaith. Ewch i https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu ffoniwch 119 i drefnu praw.

Dywedodd y Cyng James Evans, Aelod Portffolio Cabinet Cyngor Sir Powys ar faterion Datblygu Economaidd, Tai a  Gwasanaethau Rheoleiddio:

“Mae’r achosion a gadarnhawyd o goronafeirws wedi cyrraedd y cyfraddau uchaf a welsom yn y sir. Rydym yn darganfod achosion yn ein holl gymunedau ar hyd a lled Powys. Gallwn weld bod yr haint yn cael ei ledaenu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, ac mae hyn cynnwys o fewn aelwydydd, mewn cynulliadau cymdeithasol, gweithleoedd a chartrefi gofal.

“Mae’r camau y mae pob un ohonom yn eu cymryd yn gwbl hanfodol i atal cynnydd pellach yn nifer yr achosion o goronafeirws. Rydym oll yn rhannu cyfrifoldeb personol i reoli lledaeniad y firws. Gall y sefyllfa newid yn gyflym iawn.

"Mae ein tîm Profi, Olrhain, Diogelu yma ym Mhowys yn gweithio'n ddiflino i sicrhau ei fod yn olrhain ac yn cysylltu ag achosion cadarnhaol, bod y cysylltiadau hyn yn cael cyngor i hunan-ynysu am 14 diwrnod, a bod cysylltiadau sy’n dioddef y symptomau yn cael cynnig prawf."

Os enwir chi’n gyswllt a gadarnhawyd, bydd ein tîm olrhain cysylltiadau’n eich ffonio o 02921 961133.

“Mae’r camau gweithredu y mae trigolion Powys eisoes wedi’u cymryd i ddarparu gwybodaeth am eu cysylltiadau wedi helpu i atal llawer o heintiau ar draws y sir. Os cewch eich galw gan olrheiniwr cyswllt, helpwch nhw yn eu gwaith hanfodol i Gadw Powys yn Ddiogel.

“Rydym yn ddiolchgar i bawb am gefnogi gwaith y tîm.”

Rhannu:
Cyswllt: