Mae'r tîm Gwasanaethau Mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Efydd gan Diverse Cymru am eu gwaith wrth ddatblygu’r ffordd y maen nhw’n ymdrin ag amrywiaeth a chydraddoldeb yn y gweithle ar gyfer staff a chleifion.
Teithiodd gynrychiolwyr o’r tîm i Gaerdydd ar gyfer Seremoni Wobrwyo a Diwrnod Dysgu yng Ngerddi Sophia i dderbyn eu gwobr, fel rhan o Gynllun Ardystio Diwylliannol Diverse Cymru 2024.
Mynychodd Kate Evans, Pennaeth Dros Dro Bydwreigiaeth ac Iechyd Rhywiol gyda Gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Addysgu Powys y seremoni. Nododd: "Rydym yn falch iawn o dderbyn 'Gwobr Rhagoriaeth Efydd ' sy'n adlewyrchu ein taith cymhwysedd diwylliannol hyd yn hyn fel rhan o Gynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Diverse Cymru .
"Dros y 12 mis diwethaf, mae Gwasanaethau Mamolaeth Powys wedi ymuno â'r cynllun ac wedi gwneud cynnydd a gwelliant sylweddol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwasanaeth."
"Fel rhan o'r cynllun rydym wedi cael sesiynau ymwybyddiaeth staff dan arweiniad Diverse Cymru sydd wedi galluogi staff i herio stereoteipiau a rhagfarn ddiarwybod, a hefyd wedi cwblhau llyfr gwaith i ddangos cynnydd o ran mynd i'r afael â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant."
Mae'r Cynllun Cymhwysedd Diwylliannol wedi rhoi'r cyfeiriad, y canllawiau a'r weledigaeth sydd eu hangen ar y tîm i ffurfioli'r gwaith ac esblygu'n gyson. Mae'r llyfr gwaith wedi arwain y ffordd ac wedi helpu rhoi syniadau ar waith.
Ychwanegodd Kate: "Byddwn nawr yn estyn allan i'r grwpiau hynny nad ydym wedi cael llawer o gyswllt â nhw’n draddodiadol i gynnig y cyfle i siarad â nhw am ein gwasanaethau a sut mae'n diwallu eu hanghenion."
Llun: Yn derbyn y wobr ar ran y tîm Gwasanaethau Mamolaeth mae Kate Evans (canol) Pennaeth Dros Dro Bydwreigiaeth ac Iechyd Rhywiol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, ynghyd ag Evie Doman, Hyrwyddwr Diogelwch Lleol (Mamolaeth) gyda Gwelliant Cymru (chwith) a Dr Gaynor Legall, Cadeirydd y Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliannol