Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ennill yr anrhydedd uchaf am hunanreolaeth cleifion yng Ngwobrau'r Nursing Times 2022

Mae tîm nyrsio ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Nursing Times 2022, yn ennill y wobr am hybu hunanreolaeth i gleifion am eu gwaith ar gamweithrediad y bledren a'r coluddyn.  

Dan arweiniad Jen Walsh, Arbenigwr Nyrs Ymataliaeth Bediatrig, mae'r tîm wedi datblygu’r defnydd o dechnoleg symudol i helpu plant a phobl ifanc i hunan-reoli problemau’r coluddyn a’r bledren.  

Esboniodd Jen Walsh: "Mae nifer yr achosion o gamweithrediad y bledren a'r coluddyn y gellir eu hatal a’u trin mewn plant a phobl ifanc yn cynyddu. Hyd nes y bydd y problemau hyn yn cael eu trin, gallant barhau hyd yn oed pan mae’r claf yn oedolyn, lle gallant effeithio'n negyddol ar les personol, a fydd yn ei dro yn effeithio ar wasanaethau gofal iechyd sydd eisoes dan bwysau mawr. Nod ein menter oedd defnyddio technoleg ddigidol er mwyn symleiddio a thrawsnewid gofal i blant a phobl ifanc."  

Mae'r tîm ym Mhowys wedi dylunio ap, o'r enw ‘Mobile Paediatric Engagement Esolution for Continence’ neu MOPEE-C yn fyr, i gefnogi plant a phobl ifanc i hunanreoli’r bledren a'r coluddyn a chofnodi symptomau.  

Yn y dyfodol, bydd yr Ap arloesol hwn yn creu ffordd hawdd i blant a phobl ifanc i ddysgu am eu cyflwr, derbyn mwy o driniaethau a diagnosteg yn y cartref, helpu gyda hunanreolaeth, a chreu ffordd i geisio cymorth therapiwtig o bell gan glinigwyr.  

"Datblygwyd y prototeip MOPEE-C trwy gydweithrediad â'n partner diwydiant technoleg yng Nghymru, Aparito," ychwanegodd Jen, "ac yn dilyn profion anffurfiol, mae'r adborth rydym wedi'i gael gan gleifion, gofalwyr a chlinigwyr wedi bod yn gadarnhaol cyffredinol." 

Dywedodd panel beirniadu'r Nursing Times fod y fenter hon wir yn dwyn ynghyd arweinyddiaeth nyrsys cryf, ymchwil, a datrysiadau digidol i drawsnewid bywydau poblogaeth, sy’n anodd ei chyrraedd, cymhleth ac yn heriol.  Mae datblygu’r menter hon, mHealth-prototeip (MOPEE-C), wedi agor drws at fwy o driniaethau a diagnosteg yn y cartref, gan wella gallu cleifion i gael gafael ar glinigwyr ac i ddefnyddio gwasanaethau iechyd. Mae'r canlyniadau wedi cynnwys cynnydd yn lefelau hunan-barch ac wedi mynd i'r afael ag anghenion nas diwallwyd. 

Ychwanegodd Jen: "Fel tîm, a bwrdd iechyd, rydym yn hynod falch bod ein gwaith wedi cael ei gydnabod ar raddfa genedlaethol. Wrth i ni ddatblygu'r ymchwil sy'n rhan o'r prototeip hwn, byddwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant a phobl ifanc ledled y sir," daw i'r casgliad.  

Datblygwyd y prototeip law yn llaw â chwmni llwyddiannus yng Nghymru, sef y cwmni technoleg iechyd arobryn Aparito yn Wrecsam. Meddai Dr Elin Haf Davies, Prif Swyddog Gweithredol Aparito: "Rydym wrth ein bodd ac yn falch iawn o glywed am Wobr NT ddiweddar Jen.”  

"Mae hyn yn dyst i'r dyfalbarhad y mae hi wedi dangos i weithio’n ddiwyd i ddatblygu’r gwaith hwn- er gwaetha'r cyfnodau anodd, a rhwystrau niferus! Haeddiannol iawn!" 

Mae Gwobrau'r Nursing Times yn arddangos mentrau ac arfer gorau nyrsys a bydwragedd ar draws y DU, gan roi cyfle i ddathlu a rhannu’r da am y proffesiwn nyrsio.  

Meddai Steve Ford, golygydd Nursing Times: "Mae ansawdd y ceisiadau yn gyson uchel bob blwyddyn ac mae bod ar y rhestr fer, heb sôn am ennill categori, yn gyflawniad gwych sy'n nodi unigolion a thimau fel rhai gwirioneddol arbennig ac arloesol yn eu maes gwaith. 

"Mae ein henillwyr yn arbennig bob blwyddyn ac rwy'n gobeithio y gall ein gwobrau gyfrannu ychydig at gydnabod yr ymdrech a'r sgil a ddangosir gan staff nyrsio wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel, ni waeth beth yw'r arbenigedd neu'r lleoliad ac er gwaethaf yr heriau enfawr y maen nhw’n parhau i'w hwynebu." 

 

Cyhoeddwyd: 07/11/2022