Mae'r Cyd-bwyllgor ar frechu ac imiwneiddio wedi cynghori ei bod yn well i oedolion 18-29 oed heb gyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn risg uwch o glefyd difrifol , gael brechlyn COVID-19 amgen i AstraZeneca, os yw ar gael.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y daflen atodedig.
Cafodd yr holl oedolion hŷn (gan gynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol dros 50 oed), preswylwyr cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol * ac oedolion â chyflyrau meddygol penodol eu blaenoriaethu yng ngham cyntaf y rhaglen oherwydd eu bod mewn risg uchel o'r cymhlethdodau COVID-19.
Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a'r Cyd-bwyllgor ar frechu ac imiwneiddio (JCVI) yn cynghori y dylech dderbyn unrhyw un o'r brechlynnau COVID-19 sydd ar gael o hyd. Mae buddion brechu wrth eich amddiffyn rhag canlyniadau difrifol COVID-19 yn gorbwyso unrhyw risg o'r cyflwr prin hwn. Dylech hefyd gwblhau eich cwrs gyda'r un brechlyn ag a gawsoch ar gyfer y dos cyntaf.
Os oedd eich dos cyntaf gyda brechlyn AZ heb ddioddef unrhyw sgîl-effeithiau difrifol dylech gael yr ail ddos mewn pryd oherwydd efallai y byddwch yn dal i fod mewn risg uchel o gymhlethdodau COVID-19. Bydd cael yr ail ddos yn rhoi amddiffyniad uwch a pharhaol i chi.
Mae'r MHRA a'r JCVI yn cynghori y dylai pob oedolyn yn y grŵp oedran hwn (gan gynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol) dderbyn unrhyw un o'r brechlynnau COVID-19 sydd ar gael o hyd. Mae buddion brechu wrth eich amddiffyn rhag canlyniadau difrifol COVID-19 yn gorbwyso unrhyw risg o'r cyflwr prin hwn. Dylech hefyd gwblhau eich cwrs gyda'r un brechlyn ag a gawsoch ar gyfer y dos cyntaf.
Mae'r MHRA a'r JCVI yn parhau i fonitro buddion a diogelwch y brechlyn AZ ymhlith pobl iau. Dylech ystyried yn ofalus y risg i chi a'ch teulu a'ch ffrindiau o COVID-19 cyn gwneud penderfyniad.
Ar hyn o bryd mae JCVI wedi cynghori ei bod yn well i bobl dan 30 oed gael brechlyn heblaw AZ. Os dewiswch gael brechlyn COVID-19 arall efallai y bydd yn rhaid i chi aros i gael eich amddiffyn. Efallai yr hoffech fwrw ymlaen â'r brechiad AZ ar ôl i chi ystyried yr holl risgiau a buddion i chi.
Os ydych eisoes wedi cael dos cyntaf o frechlyn AZ heb ddioddef unrhyw sgîl-effeithiau difrifol dylech gwblhau'r cwrs. Mae hyn yn cynnwys pobl rhwng 18 a 29 oed sy'n weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gofalwyr di-dâl ac aelodau teulu'r rhai sydd â imiwnedd. Disgwylir y bydd dos cyntaf y brechlyn wedi rhoi rhywfaint o amddiffyniad ichi, yn enwedig yn erbyn clefyd difrifol.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y daflen atodedig.