Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth bwysig am Unedau Mân Anafiadau ym Mhowys

Testun graffig sy

Mae'n bwysig iawn pwysleisio nad yw ysbytai cymunedol ym Mhowys yn darparu gofal acíwt. Yn hytrach, maent yn darparu'r gwasanaethau hynny sy’n ddiogel ac yn briodol eu cynnig mewn lleoliad cymunedol gwledig gan gynnwys triniaeth ar gyfer mân anafiadau. Nid oes ganddynt y staff na'r offer i drin argyfyngau meddygol. Er y bydd nyrsys yr UMA  yn ceisio darparu cymorth cyntaf os bydd claf yn cyflwyno problem nad yw'n fân anaf, gall mynychu UMA achosi oedi peryglus i dderbyn gofal hanfodol o fewn amser critigol na ellir ei ddarparu yn y lleoliad hwn. Ac mae'r risgiau hyn yn cynyddu oherwydd yn aml mae angen i ni gau Unedau Mân Anafiadau gyda'r nos a dros nos ar fyr rybudd oherwydd nad oes staff hyfforddedig ar gael.

Ar gyfer argyfyngau meddygol ac anafiadau sy’n peryglu bywyd ac aelodau’r corff, cyngor clinigol y Bwrdd Iechyd yw ffonio 999 neu fynd i adran ddamweiniau ac achosion brys (A&E).

Bwriad ein cynigion ar gyfer y newidiadau dros dro yw sefydlogi gwasanaethau nawr, wrth i ni weithio gyda chymunedau i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Gwyliwch ein fideo isod gyda'r Cyfarwyddwr Nyrsio, Claire Roche i ddysgu mwy.

 

Rhyddhawyd: 22/08/2024

Rhannu:
Cyswllt: