Neidio i'r prif gynnwy

Gwyliwch ein sesiwn Holi ac Ateb diweddaraf gyda Phrif Weithredwr BIAP Carol Shillabeer

Graffeg testun gwyrdd gyda llythrennau HacA gwyn

Mae ein Sesiwn Holi ac Ateb cyhoeddus diweddaraf gyda Carol Shillabeer bellach ar gael i'w gwylio ar-lein. Roedd y sesiwn briffio ar 12 Ionawr 2023 yn canolbwyntio ar y thema "diolch" ac mae ar gael i'w wylio yn https://youtu.be/8ORF4rQgYYg

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnal sesiynau holi ac ateb cyhoeddus rheolaidd gyda Carol Shillabeer ac uwch glinigwyr a rheolwyr eraill. Mae'r rhain yn gyfle i rannu diweddariadau ac i ateb cwestiynau gan y cyhoedd.

Cynhaliwyd ein sesiwn ddiweddaraf ar 12 Ionawr ac mae ar gael i'w gwylio ar ein sianel YouTube yn https://youtu.be/8ORF4rQgYYg. Roedd y briff yn canolbwyntio ar neges syml "diolch":

  • diolch am eich amynedd wrth i ni brofi pwysau digynsail ar y system iechyd a gofal
  • diolch am gael eich brechu’r gaeaf hwn
  • diolch am eich caredigrwydd, a gofyn i bobl i fod yn garedig tuag at staff a gwirfoddolwyr iechyd a gofal
  • diolch am Ddiogelu Powys, gan gynnwys gwisgo masgiau mewn lleoliadau gofal iechyd a chymryd camau i atal lledaeniad y ffliw a COVID
  • diolch am helpu eich gilydd trwy'r argyfwng costau byw ac am gymorth gofalwyr, gwirfoddolwyr a chyfeillion - a pheidiwch ag anghofio enwebu pobl ar gyfer Gwirfoddolwr y Flwyddyn Powys
  • diolch am ddweud eich dweud ac atgoffa pobl am yr ymgynghoriad a'r gwaith ymgysylltu presennol gan gynnwys Gwasanaethau Cochlear yn ne Cymru a'r cais i gau Meddygfa Gilwern
  • diolch i’r GIG a’r holl staff yn ogystal â’r gwaith o chwilio am syniadau ar gyfer dathliadau GIG75

Mae'r fideo o'r digwyddiad ar gael i'w wylio isod. Rydym yn gobeithio cynnal ein sesiwn briffio nesaf ar 9 Mawrth 2023. Cadwch lygad am fwy o fanylion yn fuan.

 

Rhannu:
Cyswllt: