Neidio i'r prif gynnwy

Helpu i lunio dyfodol therapïau seicolegol digidol yng Nghymru

Cwblhewch ein harolwg ar-lein: Adolygiad o Therapïau Seicolegol Digidol – Holiadur Defnyddwyr Gwasanaeth.

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Rhaid i chi fod dros 14 oed ac yn byw yng Nghymru i'w gwblhau.

Rydym yn gwahodd adborth tan ddydd Gwener 15 Awst 2025.

 

Rydym yn awyddus i glywed gan bobl yng Nghymru am eu hymwybyddiaeth a'u profiadau o therapïau seicolegol digidol.

Mae datrysiadau digidol sy'n cefnogi iechyd meddwl a llesiant yn tyfu mewn poblogrwydd yng Nghymru ac mewn llawer o wledydd ledled y byd. Mae gan dechnolegau digidol amrywiaeth o fanteision, yn cynnwys rhwyddineb mynediad a hyblygrwydd o amgylch anghenion unigolyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi uchelgeisiau clir ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl di-dor sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn cael eu harwain gan anghenion, ac yn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir, heb oedi (Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol 2025-35). I lawer o bobl, gallai hyn fod yn fynediad at therapïau seicolegol digidol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

 

Beth yw therapïau seicolegol digidol?

Mae therapi seicolegol digidol yn cyfeirio at raglenni therapi seicolegol, sydd ar gael ar-lein. Maen nhw'n mynd â chi drwy nifer o sesiynau ac yn rhoi gwybodaeth a chymorth i chi i fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag iechyd meddwl fel gorbryder neu iselder, therapi a strategaethau ymdopi. Gallant fod yn hunan-dywysedig, sy'n golygu eich bod chi'n eu dilyn ar eich pen eich hun. Weithiau bydd therapydd yn y cefndir a fydd mewn cysylltiad trwy negeseuon. Mae rhai rhaglenni yn cynnig cyfle i chi siarad â therapydd a fydd yn rhoi rhywfaint o adborth a chefnogaeth i chi.

Platfform o'r enw SilverCloud yw un o'r therapïau seicolegol digidol mwyaf cyffredin a gynigir ar draws GIG Cymru ar hyn o bryd.

 

Pam mae rhannu eich profiadau yn bwysig?

Mae'n bwysig ein bod yn adolygu ein gwasanaethau'n barhaus yn unol â phrofiadau pobl a mewnwelediadau eraill, er mwyn gallu parhau i ddiwallu anghenion newidiol ein poblogaeth. Drwy rannu eich profiadau, byddwch yn ein helpu i wneud y canlynol:

  • Deall beth mae pobl yn ei feddwl am therapïau seicolegol digidol a'u heffaith
  • Asesu a yw hyn yn rhywbeth yr hoffai pobl weld mwy ohono
  • Datblygu cynlluniau o amgylch cynigion therapi seicolegol digidol yn y dyfodol yng Nghymru

Rhannwch eich barn a'ch profiadau gyda ni

Cwblhewch ein harolwg ar-lein: Adolygiad o Therapïau Seicolegol Digidol – Holiadur Defnyddwyr Gwasanaeth.

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Rhaid i chi fod dros 14 oed ac yn byw yng Nghymru i'w gwblhau.

Rydym yn gwahodd adborth tan ddydd Gwener 15 Awst 2025.

Os oes gennych ymholiadau neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i allu cymryd rhan yn yr arolwg, anfonwch e-bost i: NHSPI.SPMH@wales.nhs.uk.

Mae'r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl sy’n rhan o Berfformiad a Gwella GIG Cymru, ar ran GIG Cymru.