Neidio i'r prif gynnwy

Helpu i wella gwasanaethau Gofal Brys Yr Un Dydd

Mae Llais yn gorff annibynnol gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Maen nhw eisiau clywed am eich profiad o gael mynediad at ofal brys yr un dydd i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd ddim.

Byddant yn defnyddio'r hyn rydych chi'n dweud wrthyn nhw i roi adborth i’r Bwrdd Iechyd a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i lunio a gwella gwasanaethau gofal brys yr un dydd i bawb.

Mae'r ymchwil hwn yn ddienw, felly os cwblhewch yr arolwg hwn, ni fydd neb yn gwybod.

Fodd bynnag, os hoffech siarad â Llais yn fanylach am ofal brys yr un dydd trwy gymryd rhan mewn grŵp ffocws ar-lein, mae lle ar ddiwedd yr arolwg i adael manylion cyswllt os oes gennych ddiddordeb.

Llenwch yr arolwg os oeddech chi neu rywun annwyl yn defnyddio'r gwasanaethau brys rhwng 30 Medi a 10 Hydref.