Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch ni i amddiffyn ein cleifion a'n staff wrth i ni agosáu at yr Hydref a'r Gaeaf

Wrth i ni agosáu at yr Hydref a'r Gaeaf, gofynnwn yn garedig am eich cefnogaeth i amddiffyn ein cleifion, staff a'ch anwyliaid yn ystod y cyfnod hwn pan fydd risg uwch ar gyfer salwch anadlol, fel y Ffliw, COVID-19 ac RSV. 

Os ydych chi'n teimlo'n sâl neu'n profi unrhyw symptomau anadlol, fel peswch, llwnc tost, twymyn neu drwyn sy’n rhedeg, peidiwch ag ymweld â'n hysbytai neu amgylcheddau cleifion mewnol. Gall hyd yn oed symptomau ysgafn beri risg sylweddol i unigolion bregus yn ein gofal. 

Rydym yn deall pa mor bwysig yw gweld eich anwyliaid, ond trwy aros adref os ydych chi'n sâl, rydych chi'n helpu lleihau lledaeniad heintiau ac amddiffyn y rhai sydd fwyaf mewn perygl. 

Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad i gadw ein cymuned yn ddiogel y gaeaf hwn. Gyda'n gilydd, gallwn helpu atal lledaeniad salwch a sicrhau bod ein hysbytai yn parhau i fod yn amgylchedd diogel i bawb.

Rhannu:
Cyswllt: