Mae un lle i fynd am hyfforddiant a chefnogaeth i unrhyw un sydd am ddechrau gyrfa yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhowys.
Mae Hyb Sgiliau Iechyd a Gofal Powys yn gallu cynnig hyfforddiant, rhoi cyngor ar eich disgwyliadau o ran gwaith a gyrfa, helpu i’ch paratoi chi at waith, gyda chymorth mentora ar hyd y ffordd i’ch cyfeirio chi at brofiad gwaith a rolau gwirfoddoli.
Mae’r hyb yn cael ei drefnu gan Grŵp Colegau NPTC ar ran Academi Iechyd a Gofal Powys ac yn cael ei noddi gan Arwain, Rhaglen LEADER ym Mhowys.*
I wybod mwy, ffoniwch 0845 4086 253, e-bostiwch pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk neu ewch i wefan Grŵp Colegau NPTC: Powys Health and Care Skills Hub - NPTC Group of Colleges
Sefydlwyd yr Academi Iechyd a Gofal gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys sy’n cynnwys cyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys sy’n gweithio gyda’i gilydd trwy’r academi i wella mynediad at addysg, hyfforddiant a datblygu a gyrfaoedd o fewn y sector.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys: “Dros y misoedd anodd diwethaf, mae nifer o bobl wedi bod yn ystyried gwneud newidiadau i’w bywydau gwaith ac ar yr un pryd, rydym mor ddiolchgar i’n harwyr yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld beth fydd y cyfleoedd o fewn iechyd neu ofal cymdeithasol, yr hyb yw’r lle i edrych.
“Rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn NPTC i roi’r cychwyn gorau i’ch gyrfa yn y sector hanfodol hwn, felly beth am fynd i gael golwg?”
Dywedodd Alec Thomas, Rheolwr Llwybrau Hyfforddi Grŵp Colegau NPTC: “Mae’n wych cael bod yn rhan o’r prosiect hwn ac rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i bobl o fewn y sector hwn. Mae’n cynnig sesiynau cyflogadwyedd i ddechrau gyrfa a fydd yn helpu cymunedau lleol trwy hyfforddiant arbenigol.”
Grŵp Colegau NPTC yw un o’r darparwyr addysg bellach mwyaf yng Nghymru sy’n cynnig amryw o gyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, ar draws naw campws sy’n cynnwys Y Drenewydd a Cholegau Bannau Brycheiniog.