Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Diweddariad Medi 2023

Mae COVID yn lledaenu ym Mhowys a’r DU. Bydd y ffliw a heintiau anadlol eraill yn cynyddu wrth i ni agosáu at yr hydref. Rydyn ni am amddiffyn ein holl gleifion a staff rhag y risg o ddatblygu haint. Rydyn ni’n cydnabod y rôl bwysig y mae ymwelwyr yn ei chwarae yn adferiad claf ac rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw eich ymweliad i’ch anwyliaid. Dilynwch y camau syml hyn i sicrhau eich bod yn ymweld â’ch anwyliaid mor ddiogel â phosibl

Gofynnwn i chi:

• Wisgo mwgwd wrth ymweld â’ch anwyliaid, neu wrth fynd i apwyntiad gyda nhw.

• Dilyn y cyngor diweddaraf gan staff ar y ward neu yn yr adran yn ymwneud ag ymweld. Er enghraifft, efallai bydd rhai adegau pan fydd mwy o gyfyngiadau yn eu lle.

Gofynnwn i chi BEIDIO ymweld os ydych chi’n teimlo’n dost, yn peswch, gyda thymheredd uchel neu symptomau eraill o haint anadlol.

Help Us Protect Your Loved Ones

www.biap.gig.cymru/ymweld

Cyhoeddwyd: 22/09/2023