Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Pwysig i Gleifion – Cau Practis MyDentist yn Nhref-y-clawdd

Mae practis MyDentist yn Nhref-y-clawdd wedi cyhoeddi y bydd yn cau ar 30 Medi 2025.

Rydym yn deall bod y newyddion hwn yn rhwystredig ac yn peri pryder i drigolion Tref-y-clawdd a'r ardaloedd cyfagos.

Hoffai Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) sicrhau i drigolion ein bod yn edrych yn weithredol ar opsiynau ar gyfer gwasanaethau deintyddol yn y dyfodol yn yr ardal.

 

Gofal Deintyddol NHS Rheolaidd

Yn y cyfamser, rydym yn cynghori cleifion i gofrestru ar y Porth Mynediad Deintyddol, sydd ar gael yn:

🔗 https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-gofal-sylfaenol/gwasanaethau-deintyddol/porth-mynediad-deintyddol/

Os nad ydych yn gallu defnyddio'r porth ar-lein, cysylltwch â'n Llinell Gymorth Deintyddol ar 📞 01686 252808 a bydd aelod o'n tîm yn eich ychwanegu at y rhestr aros.

Gofynnwn yn garedig am eich amynedd a'ch dealltwriaeth. Mae ein tîm yn gweithio'n galed i ymateb i bawb mor gyflym â phosibl. Mae eu gwaith yn cael ei wneud yn anoddach oherwydd bod galwyr yn gamdriniol. Byddwch yn garedig, os gwelwch yn dda.

 

Gofal Deintyddol Brys Y GIG

Cynghorir cleifion i alw GIG 111 Cymru os ydynt angen gofal deintyddol brys.

Mae problemau deintyddol brys cyffredin yn cynnwys:

· poen dannedd difrifol lle nad yw'r meddyginiaethau lleddfu poen wedi helpu

· gwaedu ar ôl tynnu dant

· chwydd amlwg ar y gwddf neu'r wyneb

· dannedd wedi cael eu taro allan

Bydd y tîm yn GIG 111 Cymru yn cynnal asesiad dros y ffôn. Yn dibynnu ar eich anghenion, gallant ddarparu cyngor dros y ffôn neu eich cyfeirio am apwyntiad deintyddol brys. Mae gwybodaeth a chyngor defnyddiol hefyd ar gael o wefan GIG 111 Cymru.