Fel rhan o Broses Adolygu'r Gangen, byddwn yn lansio cyfnod ffurfiol o ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid ehangach yn fuan, gan gynnwys Llais sef Corff Llais y Dinasyddion statudol yng Nghymru i gynrychioli lleisiau a barn pobl leol mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi derbyn cais gan Bractis Grŵp Llanfyllin i gau eu meddygfa gangen yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
Mae'r cais yn cael ei ystyried yn unol â Phroses Adolygu Practisau Cangen y Bwrdd Iechyd. Mae'r broses hon yn sicrhau bod ceisiadau i gau canghennau yn cael ystyriaeth gydwybodol cyn gwneud penderfyniadau ar y ffordd ymlaen.
Fel rhan o Broses Adolygu'r Gangen, byddwn yn lansio cyfnod ffurfiol o ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid ehangach yn fuan, gan gynnwys Llais sef Corff Llais y Dinasyddion statudol yng Nghymru i gynrychioli lleisiau a barn pobl leol mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y cyfnod ymgysylltu hwn yn gyfle i glywed gan gleifion a rhanddeiliaid am eu pryderon a'u gobeithion, i ystyried opsiynau a dewisiadau amgen, ac i ddeall yr effaith os caiff y cais i gau cangen meddygfa Llanrhaeadr-ym-Mochnant ei gymeradwyo.
Yn dilyn y cyfnod ymgysylltu, byddwn yn adolygu'r adborth a glywsom. Bydd unrhyw benderfyniad ar ddyfodol y feddygfa gangen yn ystyried yr adborth hwn a chaiff ei wneud mewn cyfarfod cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl i'r cyfnod ymgysylltu hwn ddechrau yn ddiweddarach yr haf hwn. Fel rhan o'r cyfnod ymgysylltu, bydd y bwrdd iechyd yn ysgrifennu at gartrefi cleifion sydd wedi cofrestru gyda Phractis Grŵp Llanfyllin yn ardal Llanrhaeadr-ym-Mochnant ac at randdeiliaid lleol gan gynnwys Llais, Cynghorau Tref a Chymuned, Cynghorwyr Sir, Aelodau'r Senedd, Aelodau Senedd y DU, a sefydliadau cymunedol a gwirfoddol lleol.
Pan fydd yr ymgysylltiad yn cael ei lansio byddwn hefyd yn rhannu rhagor o wybodaeth ar ein gwefan yn pthb.nhs.wales/lym a biap.gig.cymru/lym a chyda'r cyfryngau lleol.
Os hoffech ymuno â'n rhestr bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan gynnwys ar ein cynlluniau ar gyfer ymgysylltu â changen meddygfa Llanrhaeadr-ym-Mochnant, cofrestrwch yn biap.gig.cymru/newyddion-cofrestru