11 Gorffennaf 2025
“Er fy mod i’n gyffrous i ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel y Cadeirydd newydd, byddaf wrth gwrs yn drist i adael Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint gwasanaethu fel Is-gadeirydd. Dros y tair blynedd a hanner diwethaf, rwyf wedi cael fy ysbrydoli bob dydd gan ymroddiad y staff, sy'n ymdrechu'n barhaus i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i bobl leol, rwy'n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt.” Kirsty Williams
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wedi cadarnhau penodiad Kirsty Williams yn Gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Daw'r cyhoeddiad yn dilyn y gwrandawiadau cyn penodi gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar y 3 Gorffennaf.
Bydd Kirsty, sydd wedi bod yn Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ers 2022, yn dechrau yn ei rôl newydd o’r 1 Hydref 2025.
Bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau'r broses recriwtio ar gyfer ei holynydd fel Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn fuan.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Er fy mod i’n gyffrous i ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel y Cadeirydd newydd, byddaf wrth gwrs yn drist i adael Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint gwasanaethu fel Is-gadeirydd. Dros y tair blynedd a hanner diwethaf, rwyf wedi cael fy ysbrydoli bob dydd gan ymroddiad y staff, sy'n ymdrechu'n barhaus i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i bobl leol, rwy'n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt.”
Ychwanegodd Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Ar ran ein Bwrdd, rwyf wrth fy modd yn llongyfarch fy nghydweithiwr Is-gadeirydd, Kirsty Williams, ar ei phenodiad haeddiannol yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae gan Kirsty hanes nodedig iawn o wasanaeth cyhoeddus ym Mhowys ac yn Llywodraeth Cymru. Mae hi'n berson hynod fedrus a phrofiadol ac mae ei gwybodaeth a'i harbenigedd craff wedi helpu hogi llywodraethu effeithiol o fewn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
“Mae hi’n cael ei pharchu’n fawr o fewn y Bwrdd gan aelodau annibynnol a gweithredol fel ei gilydd. Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint gweithio gyda hi ers bron i dair blynedd. Byddwn yn ei methu fel cydweithiwr ac am ei chyfraniad craff, a hoffem estyn ein dymuniadau cynhesaf iddi hi a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrth iddi baratoi i ymgymryd â'i chyfrifoldebau newydd.”
Nodiadau:
Mae rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar gael yn https://www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Mae rhagor o wybodaeth am benodiad Kirsty Williams yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar gael yn https://www.llyw.cymru/