Lansiwyd Canolfan Iechyd Menywod ar-lein newydd a fydd yn galluogi menywod o bob oed ledled Powys i ddod o hyd i wybodaeth a chyngor defnyddiol yn gyflym ar ystod eang o bynciau iechyd menywod ar 12 Mawrth yn Llanfair-ym-Muallt.
Mae'r ganolfan yn cynnwys ystod eang o bynciau gan gynnwys:
Gan ddefnyddio mewnwelediadau gan dros 300 o fenywod ym Mhowys, mae clinigwyr wedi datblygu'r cynnwys ar gyfer gwefan ar-lein newydd Powys www.biap.gig.cymru/iechyd-menywod
Mae'r wefan yn cefnogi Cynllun Iechyd Menywod deng mlynedd GIG Cymru a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2024. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn dull ataliol i leihau anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru a chreu system iechyd a gofal sy'n gwrando ar, ac yn gweithio dros bob menyw drwy gydol eu hoes.
Mynychwyd y digwyddiad lansio gan Janine Hale, Pennaeth Iechyd Menywod (ar ran Gweinidog Llywodraeth Cymru), ynghyd â chynrychiolwyr o Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO), rhai o'r menywod a roddodd eu barn a thimau'r bwrdd iechyd gan gynnwys yr Arweinydd Clinigol ar gyfer y ganolfan, Iechyd Menywod a Theuluoedd, yr Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol a nyrsys sy'n cefnogi anghenion iechyd menywod .
Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi buddsoddi £3 miliwn i sefydlu canolfannau iechyd menywod ym mhob ardal bwrdd iechyd, gan ddod â gwasanaethau a gofal hanfodol yn agosach at adref. Mae'n wych bod canolfan Powys bellach ar agor, gan ei gwneud hi'n haws i fenywod yn ardal y bwrdd iechyd gael gofal pan fydd ei angen arnynt. Byddwn yn parhau i wrando'n ofalus ar yr hyn y mae menywod yn ei ddweud a cheisio addasu gwasanaethau o fewn y canolfannau hyn dros amser, gan sicrhau eu bod yn cynnig y gofal iawn, yn y lle iawn, ar gyfer menywod yn awr ac ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Amie Symes, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth, Iechyd Menywod a Theuluoedd BIAP:
“Rwy’n falch iawn o ddathlu lansiad yr adnodd ar-lein newydd hwn sy’n dwyn ynghyd wybodaeth safonol am amrywiaeth o bynciau iechyd y gall menywod ym Mhowys ymddiried ynddi a’i darllen pryd bynnag sydd angen neu yr hoffent. Mae wedi bod yn ymdrech ar y cyd gydag egni ac ymrwymiad gwirioneddol gan bawb a oedd yn rhan o’r broses – ein gwasanaethau, ein partneriaid a’r menywod ym Mhowys y mae eu lleisiau wedi helpu llunio’r cynnwys.
“Ein prif nod yw gwella sylfaen wybodaeth menywod ar bynciau o atal cenhedlu i’r menopos a helpu menywod o bob oed i ddeall a theimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu cyrff eu hunain. Yn y pen draw, rydym am ddarparu gwybodaeth sy'n helpu atal afiechyd ac yn sicrhau nad oes unrhyw fenyw yn dioddef yn dawel ond bod ganddi'r hyder i estyn allan am gymorth os yw ei symptomau'n lleihau ansawdd ei bywyd.
Siaradodd Lowri Shepstone, sy’n byw yn Aberhonddu ac wedi arwain ar y gwaith i sicrhau bod Cyngor Sir Powys yn dod yn gyflogwr sy'n Gyfeillgar i Endometriosis, am ei phrofiad o fyw gydag endometriosis. Dywedodd:
“Rwy'n byw gydag endometriosis. O fy mislif cyntaf yn 14 oed, profais boen difrifol, blinder a symptomau a aeth ymhell y tu hwnt i'r hyn glywais oedd yn "normal". Cefais ddiagnosis o'r diwedd drwy laparosgopi ym mis Awst 2016, ar ôl 17 mlynedd o fyw gyda symptomau mewn distawrwydd a chadarnhaodd y diagnosis hwn fy mhrofiad. Ers hynny, rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael cyflogwyr cefnogol, ac arweiniodd hyn at ofyn i Gyngor Sir Powys ymuno â chynllun Cyflogwyr sy'n Gyfeillgar i Endometriosis – yr awdurdod lleol cyntaf yn y DU i wneud hynny. Anfonodd yr ymrwymiad hwnnw neges glir bod iechyd y mislif a salwch cronig yn faterion yn y gweithle, a'u bod yn haeddu cael eu gweithredu, nid eu tawelu.”
Dywedodd Sharon Healey, Pennaeth Iechyd, Lles a Phartneriaethau yn PAVO a arweiniodd at gasglu adborth gan fenywod ledled y sir:
“Cawsom ein comisiynu i gynnal ymarfer ymgysylltu ledled y sir i ddeall a oedd cefnogaeth i Ganolfan Iechyd Menywod, ac yn hollbwysig, sut olwg ddylai fod ar y ganolfan. Dros gyfnod o chwe wythnos, fe gasglom farn dros 330 o unigolion â phrofiad bywyd o bob cwr o Bowys, gan gynnwys cymunedau sydd yn aml yn cael eu tangynrychioli. Roedd y menywod y siaradom â nhw o'n cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, amaethyddol neu wledig, wedi profi cam-drin domestig neu'n deuluoedd incwm isel neu'n gweithio gyda sefydliadau anabledd, ac roedd y neges yn glir. Mae galw mawr am y Ganolfan Iechyd Menywod hon ym Mhowys, ac rwyf wrth fy modd bod lleisiau'r menywod hyn wedi dylanwadu ac y byddant yn parhau i ddylanwadu ar siâp a gwybodaeth a sy’n cael ei darparu ar y platfform hwn yn y dyfodol.”
Yn ogystal â'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud, mae PAVO wedi bod yn cynnal rhai grwpiau ffocws dilynol a bydd yn ymgysylltu â phobl ifanc fel rhan o'r prosiect ac yn rhoi mwy o adborth ar eu barn.
Mae blwyddyn un y cynllun deng mlynedd hefyd wedi gweld asesiad cynhwysfawr o anghenion iechyd menywod yn cael ei gynnal a modiwlau hyfforddi wedi'u datblygu ar y menopos, diogelu a meysydd blaenoriaeth eraill. Mae deunyddiau hyrwyddo gan gynnwys balmau gwefusau, beiros, tocynnau troli a chardiau busnes gyda chodau QR sy'n mynd â phobl yn uniongyrchol i'r dudalen lanio rithwir hefyd wedi'u cynhyrchu yn seiliedig ar awgrymiadau gan y menywod a gymerodd ran yn yr ymarferion ymgysylltu.
Cynllun Iechyd Menywod Cymru - Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru
19/3/26