Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Rhaglen Ymchwil Newydd I Losg Cylla Yng Nghymru

23/04/2026

Mae rhaglen ymchwil ledled y DU i wella’r gofal a roddir i bobl â llosg cylla, diffyg traul ac adlif asid wedi lansio yng Nghymru. Gwahoddir oedolion rhwng 55 a 79 oed sy'n dioddef symptomau rheolaidd i gymryd rhan.

Mae’r bioadnodd Heartburn Health yn rhaglen ymchwil genedlaethol sydd â’r nod o wella dealltwriaeth o symptomau cyffredin yn rhan uchaf y system dreulio a sut maent yn datblygu dros amser. I gymryd rhan bydd angen llenwi ffurflen fer ar-lein am eich profiadau iechyd, helpu ymchwilwyr i lunio gofal yn y dyfodol a nodi cyfleoedd ar gyfer ymchwil bellach.

Yng Nghymru, caiff Heartburn Health ei gefnogi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, GIG Cymru ac Ymchwil Canser y DU.

Mae dynion 55–79 oed a menywod 65–79 oed sy'n dioddef llosg cylla, adlif asid neu ddiffyg traul yn rheolaidd - neu sy'n defnyddio meddyginiaeth i reoli'r symptomau hyn - yn gymwys i gymryd rhan.

Sut i gymryd rhan

Gall pobl yng Nghymru dderbyn neges destun GIG Cymru gyda dolen gofrestru ddiogel. Fel arall, gall unigolion cymwys gofrestru'n uniongyrchol trwy wefan Heartburn Health.

Os nad ydych yn dymuno cael eich gwahodd i gymryd rhan yn benodol yn Heartburn Health, gallwch optio allan drwy lenwi ffurflen Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar-lein: Heartburn Health Programme Opt Out – Digital Health and Care Wales, neu drwy ffonio 0808 281 4772, lle gall aelod o'r tîm lenwi'r ffurflen optio allan i chi.

Am ragor o fanylion am y rhaglen a sut i gymryd rhan, ewch i www.heartburnhealth.org.