Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Rhwydwaith Trawma De Cymru

Heddiw (dydd Llun 14 Medi) cynhaliwyd lansiad swyddogol Rhwydwaith Trawma De Cymru yn y Ganolfan Trawma Mawr newydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Bydd y rhwydwaith yn gwasanaethu poblogaeth De Cymru, Gorllewin Cymru a De Powys, ac mae'n cynnwys ysbytai, gwasanaethau brys a gwasanaethau adsefydlu ledled y rhanbarth, sy'n cydweithio i sicrhau bod cleifion ag anafiadau sy'n bygwth bywyd neu'n newid bywyd yn cael y driniaeth a'r gofal gorau posibl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid cyfalaf o £3.7 miliwn a thros £13 o gyllid refeniw cylchol er mwyn cynnal elfennau cyn-ysbyty, canolfan trawma mawr, gwasanaethau arbenigol a rhwydwaith achos busnes y rhaglen.

Mae sefydlu'r Rhwydwaith yn gam mawr ymlaen yn y broses o ddarparu gofal brys yng Nghymru. Ledled y rhwydwaith, disgwylir y bydd dros 2,000 o gleifion yn cael eu trin bob blwyddyn, ac y bydd hyd at 70 o fywydau'n cael eu hachub dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Dr Dinendra Gill, Cyfarwyddwr Clinigol Rhwydwaith Trawma De Cymru yn egluro:

“Mae heddiw'n garreg filltir bwysig wrth gynllunio ar gyfer y rhwydwaith, ac mae'n benllanw gwaith eang sydd wedi'i wneud gan holl bartneriaid y GIG dros lawer o flynyddoedd.

"Trawma mawr – sy'n cyfeirio at anafiadau lluosog a difrifol – yw prif achos marwolaeth pobl o dan 45 oed ac mae’n un o achosion arwyddocaol anabledd neu iechyd gwael. Bydd cleifion sydd ag anafiadau fel hyn yn fwy tebygol o oroesi os ydynt yn cael eu trin mewn rhwydwaith trawma mawr.

“Yn ogystal ag achub bywydau, bydd y rhwydwaith yn gwella canlyniadau cleifion drwy atal anabledd y gellir ei osgoi, a thrwy sicrhau bod mwy o gleifion yn dychwelyd at eu teuluoedd, i'r gwaith ac i addysg.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed i agor y gwasanaeth er mwyn sicrhau bod y bobl sydd â’r angen mwyaf am ofal arbenigol yn gallu manteisio arno.”

Wrth agor Rhwydwaith Trawma De Cymru yn swyddogol, dywedodd Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a fynychodd y digwyddiad lansio rhithwir: 

“Mae’n bleser agor Rhwydwaith Trawma De Cymru yn swyddogol, a fydd yn achub bywydau ac atal pobl a fu mewn damweiniau difrifol rhag cael anableddau y mae modd eu hosgoi.

“Er mai’r Ganolfan Trawma Newydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yw lleoliad y digwyddiad lansio heddiw, rydym yn dathlu cychwyn y Rhwydwaith, sy’n ffrwyth cydweithio go iawn rhwng gwasanaethau iechyd ar draws  y rhanbarth gyda gwasanaethau mewn unedau trawma ym mhob ardal bwrdd iechyd a’r ddesg trawma mawr o fewn Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

 “Bu’n daith hir iawn i lawer, a hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymdrechion gwirioneddol gydweithredol i wella gwasanaethau trawma.”

Mae Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd - sef yr unig ysbyty niwrolawfeddygaeth arbenigol yng Nghymru, sy'n gartref i Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru hefyd, bellach yn ganolfan trawma mawr ar gyfer oedolion a phlant y rhanbarth. Gan fod maes trawma mawr yn gymharol anghyffredin ac yn gymhleth i'w reoli, mae'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y ganolfan trawma mawr yn arbenigol iawn ac ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Bydd y ganolfan trawma mawr yn cynorthwyo ac yn cydweithio ag ysbytai ledled y rhwydwaith.

Mae sefydlu'r rhwydwaith wedi cynyddu swyddogaethau nifer o ysbytai eraill, gan gynnwys Ysbyty Treforys yn Abertawe, sydd bellach yn uned drawma sy'n darparu gwasanaethau arbenigol. Mewn lleoedd eraill, cefnogir y rhwydwaith gan unedau trawma, cyfleusterau trawma gwledig ac ysbytai brys lleol. Bydd y rhwydwaith cyflenwi gweithredol, a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn goruchwylio'r gwaith o gynnal Rhwydwaith Trawma De Cymru.

Arweiniwyd y gwaith i sefydlu'r rhwydwaith gan Gydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru, ar y cyd â byrddau iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, yn ogystal â chynghorau iechyd y trydydd sector a chynghorau iechyd cymunedol.

DIWEDD

 

Dyma'r chwe bwrdd iechyd sy'n ymwneud â'r gwaith o sefydlu'r rhwydwaith:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Lleoliadau:

  • Canolfan Trawma Mawr
    • Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

 

  • Unedau Trawma
    • Ysbyty Treforys, Abertawe (yn darparu gwasanaethau arbenigol)
    • Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd (ar gyfer ei boblogaeth leol)
    • Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd (nes y bydd Ysbyty Athrofaol y Grange yn weithredol ym mis Tachwedd 2020, pan fydd Ysbyty Athrofaol y Grange yn dod yn safle Uned Trawma ddynodedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac y bydd Ysbyty Brenhinol Gwent yn darparu gwasanaeth mân anafiadau)
    • Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful ac Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.
    • Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

 

  • Cyfleusterau Trawma Gwledig – o ystyried sefyllfa ddaearyddol unigryw’r ysbytai hyn, byddant yn parhau i dderbyn achosion trawma mawr, a bydd ganddynt brosesau i symud cleifion i'r Ganolfan Trawma Mawr ac i Unedau Trawma (lle bo hynny'n briodol)
    • Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth
    • Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd

 

  • Ysbytai Brys Lleol
    • Bydd Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant yn cadw ei Adran Achosion Brys 24/7 ac yn cynorthwyo gwasanaethau acíwt, gan barhau i dderbyn achosion trawma cymedrol ac achosion trawma orthopedig ynysig.
    • Ysbyty Nevill Hall, y Fenni (nes y bydd Ysbyty Athrofaol y Grange yn weithredol ym mis Tachwedd 2020, pan fydd Ysbyty Athrofaol y Grange yn dod yn safle Uned Trawma dynodedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac y bydd Ysbyty Nevill Hall yn darparu gwasanaeth mân anafiadau).

Gogledd Cymru a Phowys

  • Mae cleifion yng ngogledd Cymru a gogledd Powys eisoes yn gallu manteisio ar y trefniadau Trawma Mawr fel rhan o Rwydwaith Trawma Mawr Gogledd Orllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd Cymru. Hefyd, mae trigolion Powys yn defnyddio Rhwydwaith Trawma Birmingham, Black Country, Henffordd a Chaerwrangon. Bydd y trefniadau hyn yn parhau.