Mae amser o hyd i rannu eich barn yn yr adolygiad cyfredol o newidiadau dros dro i wasanaethau'r GIG ym Mhowys drwy gwblhau ein harolwg ar-lein erbyn 15 Chwefror 2026.
Mae cannoedd o bobl wedi mynychu digwyddiadau galw heibio cymunedol ledled y sir i rannu eu barn a'u profiadau o wasanaethau iechyd lleol, gan gynnwys y newidiadau dros dro presennol i wasanaethau.
Bydd y safbwyntiau hyn yn llywio adolygiad parhaus Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) o'r newidiadau dros dro, gydag adroddiad i'w gyflwyno i gyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Mawrth 2026.
Dywedodd Adrian Osborne, Dirprwy Gyfarwyddwr BIAP:
“Cyflwynom newidiadau dros dro hyn i’n helpu ni ymateb i heriau sylweddol sy’n ymwneud ag ansawdd, y gweithlu a chynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau. Adolygom newidiadau dros dro ym mis Gorffennaf 2025. Fe wnaethon ni ganfod eu bod nhw’n cyflawni manteision o ran canlyniad a diogelwch gofal cleifion, ond rydyn ni hefyd yn cydnabod cryfder teimlad y cyhoedd am wasanaethau ysbytai cymunedol lleol.
“Os na allech chi ymuno â’n digwyddiadau galw heibio cymunedol, mae amser o hyd i rannu eich barn yn ein harolwg ar-lein erbyn 15 Chwefror 2026.”
Mae ein Papur Trafod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau dros dro i wasanaethau a gyflwynwyd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ym mis Rhagfyr 2024 ac yn gofyn am eich barn. Mae’n:
Rydym yn eich gwahodd i ddarllen ein Papur Trafod a rhannu eich barn yn https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/ndgg2025
Mae gwasanaethau iechyd ym Mhowys yn wynebu heriau sylweddol sy'n gysylltiedig ag ansawdd, y gweithlu a chynaliadwyedd hirdymor.
Yn ystod 2024, cyflwynwyd nifer o newidiadau dros dro i'n helpu ni ymateb i'r heriau hyn wrth gynnal gofal hanfodol i gleifion.
Cymeradwyodd y Bwrdd y newidiadau dros dro canlynol i'r gwasanaeth:
Fe wnaethon ni adolygu'r newidiadau dros dro ym mis Gorffennaf 2025. Roedd y newidiadau dros dro yn dod â manteision i ofal cleifion, ond rydym yn cydnabod cryfder teimlad y cyhoedd ynghylch gwasanaethau ysbytai cymunedol lleol.
Pan wnaethon ni adolygu'r newidiadau dros dro ym mis Gorffennaf 2025, roedden ni wedi cynllunio cyfnod o ymgynghori ffurfiol o Hydref 2025 ymlaen yn edrych ar yr holl wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol i oedolion rydyn ni'n eu darparu ledled y sir. Byddai hyn yn ein helpu ni wneud penderfyniadau am y newidiadau dros dro.
Mae'r rhain yn faterion cymhleth, ac nid ydym am ruthro'r penderfyniadau y mae angen eu gwneud. Rydym nawr yn disgwyl i'r ymgynghoriad ffurfiol ddigwydd yn ddiweddarach yn 2026.
Yn y cyfamser, bydd y newidiadau dros dro yn parhau i gael eu hadolygu. Mae'r broses adolygu hon yn edrych ar ansawdd, diogelwch, canlyniadau a phrofiad cleifion, yn ogystal â gwrando ar y cyhoedd a rhanddeiliaid lleol.