Mae llinell ffôn bwrpasol ym Mhowys ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl brys wedi cyrraedd ei phen-blwydd cyntaf.
Mae ‘111 pwyso 2’ y GIG ar gyfer iechyd meddwl ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i bobl o unrhyw oedran sydd â phryder iechyd meddwl brys eu hunain neu am rywun maen nhw'n ei adnabod.
Trwy ddarparu mynediad at weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, heb fod angen atgyfeiriad meddyg teulu, gall gwasanaeth 111 Pwyso 2 gefnogi pobl i reoli eu hargyfwng iechyd meddwl ac mewn sawl achos fod yn ddewis arall yn lle mynychu adrannau brys neu ffonio'r gwasanaethau brys.
Mae tîm 111 Pwyso 2 yma ym Mhowys wedi ateb bron i 5000 o alwadau ers lansio'r gwasanaeth ar 10 Mai 2023.
Gellir cyrchu'r gwasanaeth drwy ffonio GIG 111 a dewis 'opsiwn 2'. Mae galwyr sy'n ffonio'r rhif cenedlaethol yn cael eu trosglwyddo at aelod penodedig o dîm iechyd meddwl yn ardal eu bwrdd iechyd lleol. Mae'n cynnig asesiad o anghenion ac ymyrraeth dros y ffôn i leihau gofid. Lle bo'n briodol, gellir cyfeirio unigolion at wasanaethau iechyd meddwl, cael cyngor hunanofal neu eu cyfeirio at gymorth arall.
Dywedodd Marielle Restall, Arweinydd Tîm Iechyd Meddwl ar gyfer 111 Pwyso 2 y GIG ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:
"Rydym bellach wedi bod yn darparu'r gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym Mhowys am flwyddyn. Mae hyn yn golygu y gall pobl ym Mhowys sy'n profi argyfwng iechyd meddwl godi'r ffôn a siarad ag ymarferydd iechyd meddwl hyfforddedig sydd â gwybodaeth am eu hardal leol."
"Byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cymorth brys gyda mater iechyd meddwl, neu unrhyw un sy'n poeni am ffrind neu aelod o'r teulu, i ffonio 111 (Pwyso 2) a siarad â rhywun sydd yno i wrando, deall y sefyllfa, a'ch helpu i gael gafael ar yr help a'r gefnogaeth gywir."
Rhyddhawyd: 09/05/2024