Yn dilyn dosbarthiad llwyddiannus o gitiau profi COVID o fewn archfarchnadoedd mis diwethaf, bydd y tîm Profi Olrhain Diogelu ati eto yn dosbarthu profion COVID yn archfarchnadoedd dros yr wythnosau nesaf.
Mae’r tîm Profi Olrhain Diogelu ym Mhowys yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys. Yn y mis diwethaf, cafodd 40,000 o brofion eu dosbarthu i drigolion Powys o fewn archfarchnadoedd ledled y sir.
Wythnos nesaf bydd y tîm ati eto yn teithio ledled y sir i barhau dosbarthu’r citiau yma i’n helpu ni gadw’n ddiogel.
Mae citiau Profion Llif Unffordd ar gyfer y rhai nad oes ganddyn nhw symptomau COVID er mwyn helpu adnabod y bobl sydd o bosibl yn cario ac yn lledaenu’r feirws heb wybod.
Codwch eich cit prawf fyny am ddim gyda’ch siopa a helpu diogelu eich hun a’r rhai rydych yn gofalu amdanynt.
Bydd y tîm ar gael ar:
Dydd Llun 15fed Tachwedd:Tesco Y Trallwng
Dydd Mawrth 16eg Tachwedd: Morrisons Y Drenewydd
Dydd Mercher 17eg Tachwedd:Tesco Llandrindod
Dydd Iau 18fed Tachwedd: Morrisons Aberhonddu
Dydd Llun 13eg Rhagfyr: Tesco Y Trallwng
Dydd Mawrth 14eg Rhagfyr: Morrisons Y Drenewydd
Dydd Mercher 15fed Rhagfyr: Tesco Llandrindod
Dydd Iau 16eg Rhagfyr: Morrisons Aberhonddu
Dydd Gwener 17eg Rhagfyr:Tesco Ystradgynlais
Mae citiau Profion Llif Unffordd hefyd ar gael yn eich llyfrgelloedd lleol.
Cyhoeddwyd: 10/11/2021