Mae aelod o'r tîm cyfalaf ac ystadau ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) wedi cael ei chydnabod mewn gwobrau mawreddog yn y diwydiant cenedlaethol.
Dyfarnwyd gwobr prentis Cymreig y flwyddyn i Reolwr Cynorthwyol Prosiect Cyfalaf Megan Thomas yng Nghynhadledd Sefydliad Peirianneg Gofal Iechyd a Rheoli Ystadau (IHEEM) eleni ar 13 Mehefin 2024.
Ymunodd Megan â BIAP ym mis Tachwedd 2019 fel cynorthwyydd gweinyddol yn y Gwasanaethau Menywod a Phlant. Ar ôl secondiad byr o fewn yr adran Ystadau, penodwyd Megan i swydd gweinyddwr cyfalaf llawn amser ym mis Ionawr 2021.
Dywedodd Louise Morris, Pennaeth Cyfalaf BIAP: "Dangosodd Megan ddiddordeb a dawn ar unwaith ar gyfer rheoli prosiectau ac roedd yn llwyddiannus wrth sicrhau rôl prentis fel Rheolwr Prosiect Cynorthwyol, ac ers hynny mae wedi dechrau cwrs gradd mewn 'Rheoli Prosiectau Adeiladu'."
"Yn ei hamser byr yn yr adran mae Megan wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y tîm. Mae hi'n hynod o broffesiynol, yn awyddus i ddysgu a bob amser yn hapus i helpu. Cefnogodd Megan gynllun ailddatblygu Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi a oedd yn hynod gymhleth ac yn cynnwys cydlynu a chyfathrebu â nifer o randdeiliaid. Roedd hyn yn cynnwys trefnu a chymryd rhan mewn nifer o weithdai gyda'r gymuned leol lle'r oedd Megan hefyd yn gallu bod yn gyfathrebwr allweddol drwy gyfrwng y Gymraeg."
Ychwanegodd Louise: "Ar ran ei holl gydweithwyr yn y bwrdd iechyd, hoffwn rannu ein balchder a'n llongyfarchiadau."
Cyflwynwyd ei gwobr i Megan gan Mark Gapper, Pennaeth Peirianneg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar 13 Mehefin 2024.