1 Hydref 2026
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi croesawu cyllid ychwanegol o £3.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu lleihau amseroedd aros i gleifion sydd angen triniaeth wedi'i chynllunio a gwasanaethau diagnosteg.
Mae'r cyllid yn rhan o raglen £145 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ddod â'r cyfnod aros am driniaeth o ddwy flynedd i ben a gostwng y rhestr aros gyffredinol i lefelau cyn y pandemig cyn diwedd tymor y Senedd hwn.
Bydd y rhan fwyaf o'r cyllid yn cefnogi ein gwaith i sicrhau nad yw cleifion Powys yn aros yn hirach na dwy flynedd o atgyfeiriad i driniaeth, yn unol â safonau amser aros GIG Cymru ac amcanion adferiad gofal wedi'i gynllunio cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir bod dileu cyfnodau aros o fwy na 104 wythnos yn parhau i fod yn flaenoriaeth genedlaethol.
I gleifion Powys sy'n derbyn gofal mewn rhannau eraill o Gymru, mae cyllid wedi'i ddyrannu'n uniongyrchol i'r byrddau iechyd sy'n darparu'r gwasanaethau hynny i helpu sicrhau nad yw cleifion yn aros mwy na'r safon amser aros o ddwy flynedd.
I gleifion Powys sy'n derbyn triniaeth gan ddarparwyr yn Lloegr, mae cyllid wedi'i ddyrannu i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i weithio gydag Ymddiriedolaethau'r GIG yn Lloegr i sicrhau gweithgaredd ychwanegol a lleihau'r risg y bydd cleifion yn aros yn hirach na dwy flynedd am driniaeth.
Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys buddsoddiad i gefnogi gwasanaethau diagnosteg a gwella mynediad at brofion hanfodol ym Mhowys, gan helpu cleifion symud yn gyflymach trwy eu llwybr gofal.
Dywedodd Nicola Johnson, Cyfarwyddwr Cynllunio, Perfformiad a Chomisiynu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:
"Mae'r cyllid hwn wedi'i ganolbwyntio ar ein helpu ni fynd i'r afael â'r cyfnodau aros hiraf i boblogaeth Powys. Ein blaenoriaeth yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru yw sicrhau nad oes neb yn aros yn hirach na dwy flynedd o atgyfeiriad i driniaeth ar gyfer gofal wedi'i gynllunio. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ein gwasanaethau darparwyr ein hunain ac i gydweithio'n agos â darparwyr y GIG yng Nghymru a Lloegr i wella mynediad at driniaeth a diagnosteg a chyflawni canlyniadau gwell i gleifion.
Mae'r cyllid yn rhan o raglen genedlaethol ehangach i leihau amseroedd aros, cynyddu gweithgarwch gofal wedi'i gynllunio a gwella mynediad cleifion at wasanaethau'r GIG ledled Cymru.