Mae pobl ledled Powys yn cadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd a'u ffrindiau ac yn troi at ymarfer corff i gadw'n bositif drwy'r cyfnod clo.
Yn ôl arolwg YouGov diweddar, dywedodd dros draean o bobl y Canolbarth (35%) fod siarad ag anwyliaid dros y ffôn neu fideo wedi helpu eu hiechyd meddwl, er nad ydynt wedi gallu eu gweld wyneb yn wyneb, a dywedodd 34% fod gwneud ymarfer corff rheolaidd a gwneud ymdrech i fod yn fwy egnïol ers dechrau'r pandemig wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'w hwyliau.
Daw'r canfyddiadau wrth i Lywodraeth Cymru annog pobl 'i'n helpu ni i'ch helpu chi' drwy ymarfer hunanofal a mabwysiadu newidiadau bach i helpu i ddiogelu a gwella eu lles meddyliol, yn enwedig ar adeg pan fo lefelau pryder yn uwch nag arfer.
Mae bron i un o bob tri (31%) yn dweud mai cadw at drefn arferol sy’n gyfrifol am gynnal neu wella eu hiechyd meddwl a dywedodd bron i un o bob pump mai cael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith (19%) oedd yn gyfrifol.
Canfu'r ymchwil hefyd mai'r canolbarth oedd yr ardal lle dywedodd y ganran uchaf o bobl fod eu hiechyd meddwl wedi gwella neu wedi aros yr un fath yn ystod y pandemig, gan gofnodi ymateb o 47% o gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan o 42%.
Yn ôl Joy Garfitt, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
"Mae llawer o adnoddau a gwasanaethau defnyddiol iawn yn dal i weithredu ar draws Powys drwy gydol y pandemig gan helpu pobl i deimlo eu bod mewn cyswllt â phobl eraill a’u helpu i aros yn gadarnhaol, gan gynnwys cyrsiau therapi ar-lein fel SilverCloud Cymru a gwasanaethau cyfeillio dros y ffôn.
“Drwy ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi rydym am dynnu sylw at y ffyrdd gwahanol y gall pobl deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a pharhau i allu cael y cymorth gorau yn y gymuned leol, tra bod hyn hefyd yn caniatáu i'n meddygon a'n nyrsys ganolbwyntio eu hymdrechion ar y bobl hynny sydd â phryderon iechyd corfforol neu feddyliol sydd angen eu hymyrraeth nhw."
Mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw agwedd arall ar y GIG, gyda mwy na £700 miliwn yn cael ei buddsoddi'n flynyddol. Cefnogir hyn gan gyllid ychwanegol o bron i £10 miliwn mewn amrywiaeth o fentrau gan gynnwys SilverCloud, llinell gymorth iechyd meddwl CALL a llinell gymorth anhwylderau bwyta BEAT, ac mae pob un ohonynt yn hawdd cael gafael arnynt a does dim angen atgyfeiriad gan eich meddyg teulu.
Dywedodd yr Athro Jon Bisson, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) a Chyfarwyddwr Straen Trawmatig Cymru: "Mae hwn yn gyfnod anodd i bawb a bydd pobl yn ymateb i'w profiadau mewn gwahanol ffyrdd. Gyda'r brechlynnau'n dechrau cael eu dosbarthu, byddwn i gyd yn profi cymysgedd o adweithiau cyffredin, arferol, a all gynnwys emosiynau cadarnhaol fel teimlad o undod a gobaith, ynghyd ag emosiynau negyddol fel gorbryder a hwyliau is.
"Mae sawl ffordd bwysig o helpu i leihau'r risg i iechyd meddwl yn sgil pandemig COVID-19. Mae bwyta'n iach, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, cadw at batrymau cysgu rheolaidd, sefydlu strwythur da ar gyfer y diwrnod, a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymlacio bob amser yn bwysig i hybu iechyd a lles.
"Yn ystod y cyfnod hwn o unigedd difrifol i lawer, mae cymorth cymdeithasol yn rhan allweddol o gadw'n iach. Diolch byth, mae gennym lawer o ffyrdd o gadw mewn cysylltiad â phobl hyd yn oed os nad oes modd ei wneud wyneb yn wyneb. Mae galwadau ffôn a fideo yn ffyrdd da o gadw mewn cysylltiad ac i ni deimlo ein bod yn cael ein cefnogi."
Mae’r ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi yn cynnig yr awgrymiadau hyn ar gyfer diogelu eich iechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo:
Mae galwadau fideo gyda ffrindiau yn helpu un fam newydd ym Mhowys i fwynhau'r cyswllt
Dywedodd y fam newydd, Clare Evans Jones, sy'n wreiddiol o Raeadr Gwy ac sydd bellach yn byw yn Painscastle gyda'i gŵr Huw a'i mab 9 mis oed William, fod cadw mewn cysylltiad â'i theulu a'i ffrindiau wedi bod yn arbennig o bwysig iddi fel rhiant newydd gartref ar y fferm.
"Ganwyd William fis Mai diwethaf, yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ac er fy mod wedi mwynhau'r holl brofiad o fod yn fam, mae wedi bod yn eithaf unig ar adegau gan fod Huw allan yn gweithio ar y fferm drwy'r dydd. Mae wedi bod yn arbennig o anodd peidio â gallu rhannu dyddiau a cherrig milltir pwysig gyda theulu a ffrindiau. Doedd fy mam a'm tad ddim yn gallu gweld William yn y cnawd am wythnosau ar ôl iddo gael ei eni a hyd yn oed wedyn, bu'n rhaid i ni fod mor ofalus gyda phellter cymdeithasol. Rwyf wedi gallu ei ddangos i'r teulu ehangach dros alwadau fideo ond dydy hyn ddim wedi bod yr un fath â gweld pobl wyneb yn wyneb.
"Mae'n amlwg nad ydw i wedi gallu mynd allan i unrhyw ddosbarthiadau babanod a chwrdd â mamau eraill felly mae cadw mewn cysylltiad â ffrindiau dros Zoom a WhatsApp wedi bod yn achubwr bywyd go iawn."
Yn ôl Clare, sydd wedi parhau i redeg ei hystâd a'i hasiantaeth osod, Clare Evans & Co, o gartref drwy gydol y pandemig, mae un cysylltiad yn arbennig wedi ei helpu i aros yn bositif a chynnal ei hysbryd. Bum mlynedd ar hugain yn ôl, treuliodd Clare flwyddyn yn byw yn Ffrainc fel rhan o'i gradd o Brifysgol Reading. Cyfarfu â grŵp o ffrindiau yno sydd i gyd wedi cadw mewn cysylltiad dros y blynyddoedd ond byth yn fwy felly nag yn ystod y pandemig.
"Nôl yn 1995, treuliais flwyddyn yn dysgu Saesneg i fyfyrwyr coleg yn Limoges a chwrddais â ffrindiau anhygoel o wahanol rannau o Brydain a oedd i gyd yn gwneud yr un peth mewn gwahanol ysgolion. Rydym wedi cadw mewn cysylltiad dros y blynyddoedd ond gan ein bod i gyd â theuluoedd bellach ac wedi symud i wahanol rannau o'r byd, mae wedi bod yn anoddach cadw mewn cysylltiad.
"Eleni, fodd bynnag, gyda phawb yn sownd gartref heb fawr o gynlluniau, rydym wedi manteisio ar y cyfle i gael galwadau fideo rheolaidd i ddal i fyny gyda'n gilydd a rhannu llawer o firi ac atgofion! Er bod un o'r grŵp ond i lawr y lôn yn Henffordd, un arall yng Nghaerdydd ac un yn Nyfnaint, mae'r lleill ymhellach o lawer i ffwrdd nawr, yn Awstralia a Seland Newydd, felly mae dod o hyd i amser addas i gysylltu gyda'r gwahaniaeth amser wedi bod braidd yn anodd.
"Mae wedi bod mor hyfryd ailgysylltu â'r rhai sydd ymhellach i ffwrdd wedi'r holl amser yma. Mae wedi fy helpu drwy'r cyfnod clo, yn enwedig gan fod y rhan fwyaf ohonynt wedi cael plant rai blynyddoedd yn ôl ac yn gallu rhannu eu hawgrymiadau rhianta gyda mi!"