Neidio i'r prif gynnwy

Mae Carl Cooper wedi'i benodi'n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi penodiad Carl Cooper fel Cadeirydd nesaf Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael o gyhoeddiad Llywodraeth Cymru:


Mae cadeirydd newydd wedi'i benodi i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys am gyfnod o bedair blynedd

Mae Carl Cooper wedi'i ddewis gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan fel yr ymgeisydd a ffefrir yn dilyn cystadleuaeth agored a theg, a bydd yn cychwyn ar ei rôl ar 17 Hydref, yn dilyn gwiriadau diogelwch cyn cyflogaeth.

Mae cyfnod yr Athro Vivienne Harpwood, cadeirydd presennol y bwrdd iechyd, wedi cael ei ymestyn tan 16 Hydref, er mwyn sicrhau cyfnod pontio llyfn.

Mae gan Mr Cooper brofiad helaeth o weithio yn y trydydd sector yng Nghymru ac yn ardal Powys.

Aeth i wrandawiad cyn-penodi a gynhaliwyd gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar 21 Medi. Casglodd adroddiad y Pwyllgor:

Ar sail ei berfformiad a'i ymatebion i gwestiynau yn y gwrandawiad cyn penodi, nid ydym yn gweld unrhyw reswm pam na ddylai'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef Carl Cooper, gael ei benodi i swydd cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y rôl hon yw £44,820 y flwyddyn, yn seiliedig ar 15 niwrnod y mis.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

"Rwy'n croesawu penodiad Carl Cooper fel cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Bydd yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad lleol o weithio yn y trydydd sector ym Mhowys i'r rôl. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda fe wrth inni barhau i wella gwasanaethau iechyd i gymunedau lleol.

"Hoffwn ddiolch hefyd i'r Athro Viv Harpwood am ei holl flynyddoedd o wasanaeth i'r bwrdd iechyd ac i bobl ledled Powys."

Dywedodd Carl Cooper:

"Anrhydedd a phleser yw cael fy mhenodi'n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda holl aelodau'r Bwrdd, gan gynnwys y tîm gweithredol, i ddarparu'r gwasanaethau iechyd a llesiant gorau posibl ledled y sir. Bydda i'n ceisio parhau â'r gwaith clodwiw sydd wedi'i wneud gan yr Athro Vivienne Harpwood ac fe hoffwn ddiolch iddi am ei harweinyddiaeth ragorol dros yr 8 mlynedd diwethaf.

"A minnau wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys am fwy na 14 o flynyddoedd, rwyf wedi meithrin cysylltiadau â miloedd o grwpiau a sefydliadau gwirfoddol ar lawr gwlad. Rwyf wedi dod i adnabod cymunedau a phobl Powys ac maen nhw'n agos iawn at fy nghalon. Bu'n fraint cael gweithio'n agos gyda chydweithwyr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a gweld eu hymroddiad, eu diwydrwydd a'u hymrwymiad llwyr. Fel Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys, rwyf wedi helpu i arwain y cydweithio hanfodol rhwng asiantaethau partner a phobl er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer y gwasanaethau iechyd, gofal a llesiant a nodir yn Strategaeth Iechyd a Gofal Powys. Y canolbwynt pwysicaf imi fydd cefnogi'r bwrdd yn ei waith craidd o osod y cyfeiriad, craffu ar berfformiad a llywio diwylliant, er mwyn i'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu barhau i gael y gofal a'r cymorth o safon uchel y maent yn ei haeddu ac yn ei ddisgwyl."

Dywedodd yr Athro Vivienne Harpwood:

"Braint ac anrhydedd fu gwasanaethu pobl Powys am yr wyth mlynedd ddiwethaf fel Cadeirydd y bwrdd iechyd, yn enwedig gan inni wynebu gyda'n gilydd un o'r cyfnodau mwyaf heriol i'r sir a'r GIG yn ystod pandemig COVID. Mae'r Bwrdd wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd ar sail ymdrechion canmoladwy staff a phartneriaid, ac rwy'n gwybod y bydd Carl a'r Bwrdd yn gallu adeiladu ar y llwyddiannau hyn. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddo yn ei rôl newydd."

Mae'r penodiad hwn wedi'i wneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Gwneir yr holl benodiadau ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgarwch gwleidyddol unrhyw ran yn y broses ddethol.  Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyn i'r sawl a gaiff ei benodi ddatgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn gyhoeddus (os yw'n datgan ei fod wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol). Nid oes unrhyw weithgarwch gwleidyddol wedi'i ddatgan.


Ffynhonnell: https://llyw.cymru/mae-cadeirydd-newydd-wedii-benodi-i-fwrdd-iechyd-addysgu-powys-am-gyfnod-o-bedair-blynedd 

Cyhoeddwyd: 28/09/22

Rhannu:
Cyswllt: