Neidio i'r prif gynnwy

Mae cylchlythyr Hydref 2022 ar ailddatblygu Ysbyty Bro Ddyfi bellach ar gael

Mae ein cylchlythyr Hydref 2022 ar ailddatblygu Ysbyty Bro Ddyfi bellach ar gael o'n gwefan yn biap.gig.cymru/bro-ddyfi.


Nawr bod y prif waith adeiladu bron a chwblhau, mae tîm Willmott Dixon yn parhau i ddatblygu'r dyluniad mewnol. Mae'r gosodiad Mecanyddol a Thrydanol (M&E) ac addurn mewnol yn symud ymlaen yn dda gyda lloriau yn cael eu gosod yn ystod mis Hydref.

Yn allanol, mae'r gwaith i'r gorchudd / soffit y perimedr ar y gweill gyda gwelliannau allanol pellach gan gynnwys rendro'r wedd flaen ar y maes maes parcio yn dechrau'r mis hwn.

Y mis hwn mae gennym god QR newydd ar gyfer y prosiect. Sganiwch y cod gan ddefnyddio camer ar unrhyw ddyfais symudol i gael mynediad ar y model 'Matterport' diweddaraf. Mae'r model yn caniatáu i chi fynd am dro 360° drwy'r safle a gweld yr holl gynnydd adeiladu diweddaraf. Mae hwn yn gyfnod cyffrous o'r gwaith gan ei fod yn adlewyrchu nifer y dyddiau cyn i ni agor y cyfleuster yn nechrau2023.

Darllenwch y cylchlythyr llawn ar ein gwefan yn biap.gig.cymru/bro-ddyfi.

Cyhoeddwyd: 31/10/22

Rhannu:
Cyswllt: