Neidio i'r prif gynnwy

Mae cylchlythyr Rhagfyr 2022 ar ailddatblygu Ysbyty Bro Ddyfi bellach ar gael

Mae ein cylchlythyr Rhagfyr 2022 ar ailddatblygu Ysbyty Bro Ddyfi bellach ar gael o'n gwefan yn biap.gig.cymru/bro-ddyfi .


Yn fewnol mae'r gwaith yn parhau i symud ymlaen yn dda gyda'r rhan fwyaf o'r lloriau wedi'u gosod, atgyweiriad terfynol mecanyddol a thrydanol wedi'i wneud a gwaith addurno’n fewnol ar y gweill. Yn allanol, mae'r gwaith i ailadeiladu wal ar ffiniau'r safle wedi'i gwblhau ac mae rheiliau newydd wedi'u gosod a phalmant ar flaen yr ysbyty hefyd yn cael ei osod. Er gwaethaf rhai heriau mae'r gwaith i'r prif faes parcio yn parhau a bydd yr ardal nesaf yn dechrau cyn hir. Rydym yn edrych ymlaen at agor y cyfleuster yng Ngwanwyn 2023.

Darllenwch y cylchlythyr llawn ar ein gwefan yn biap.gig.cymru/bro-ddyfi .

Cyhoeddwyd: 04/01/23

Rhannu:
Cyswllt: