Mae gwaith i osod £1.7m o offer pelydr-X o'r radd flaenaf yn ysbytai cymunedol Powys bellach wedi dechrau ac mae ar darged i'w orffen yn y Gwanwyn.
Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gosod unedau pelydr-X newydd a fydd yn cynhyrchu delweddau yn glirach ac yn gyflymach nag erioed. Bydd hyn yn gwella diagnosteg i bobl Powys.
Yn ogystal â darparu canlyniadau cyflymach a diagnosis mwy cywir, bydd hefyd yn helpu lleihau amseroedd aros ar gyfer pelydrau-X. Bydd hyn yn ei dro yn gwella mynediad at driniaeth.
Dechreuodd y cam cyntaf fis diwethaf ac mae'n gweld offer newydd yn cael ei osod mewn ysbytai cymunedol yn Ystradgynlais, Llandrindod a'r Trallwng. Er bod y gwaith hwn yn cael ei wneud, mae'r adrannau pelydr-X yn yr ysbytai hyn ar gau ac mae cleifion sydd angen pelydr-X yn cael eu hailgyfeirio i ysbyty cymunedol arall y bwrdd iechyd.
Dywedodd Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddorau Iechyd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:
"Diolch i chi am eich amynedd wrth i ni wneud yr uwchraddiadau hyn, ond neges i atgoffa pobl na fydd gwasanaethau radioleg eraill yn Ystradgynlais, Llandrindod a'r Trallwng fel uwchsain yn cael eu heffeithio yn ystod y cyfnod hwn a byddant yn parhau i fod ar gael."
Yn ogystal â'r ansawdd a'r cyflymder gwell, mae'r peiriannau pelydr-X newydd hyn yn defnyddio dos is o ymbelydredd na'r peiriannau presennol, sydd yn ei dro yn lleihau amlygiad ymbelydredd i gleifion.
Unwaith y bydd cam cyntaf y gwaith gosod wedi'i gwblhau y mis nesaf a'r tair adran pelydr-X hyn yn ailagor, bydd ail gam ailosod offer pelydr-x yn dechrau a disgwylir i hyn gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.
Ychwanegodd Ms Madsen: “Dylwn hefyd nodi, os oes gennych fân anaf yna rydym yn parhau i'ch annog chi i ffonio'n gyntaf am gyngor clinigol. Bydd ein tîm clinigol yn gallu rhoi cyngor dros y ffôn i'ch helpu chi gael y driniaeth sydd ei hangen arnoch."
Rhifau ffôn yr Unedau Mân Anafiadau yn yr ysbytai yw:
Llun: Mae'r ystafell pelydr-X yn Ysbyty Coffa Victoria yn Y Trallwng wedi ei chlirio'n barod ar gyfer yr unedau newydd.
Cyhoeddwyd 5/12/24