Neidio i'r prif gynnwy

Mae iechyd esgyrn yn bwysig

Llun o ddyn yn dal ac yn dangos fertebra ar sgerbwd.

Mae cwympiadau yn un o brif achosion toriad esgyrn brau, felly rydyn ni am godi ymwybyddiaeth o rai o'r ffactorau risg ar gyfer osteoporosis yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Cwympiadau 2024.

Beth yw osteoporosis?

Mae'r gair 'osteoporosis' yn golygu 'asgwrn mân-dyllog'. Mae osteoporosis yn gyflwr lle mae'r esgyrn yn mynd yn wannach ac yn torri'n hawdd, hyd yn oed ar ôl mân gwymp neu syrthio.

Pwy sy'n cael ei effeithio gan osteoporosis?

Pobl dros 50 oed yn bennaf, ond gall ddigwydd mewn pobl iau sydd â chyflyrau sy'n achosi dwysedd esgyrn isel. Mae menywod yn fwy tebygol o ddioddef o osteoporosis, gyda 50% dros 50 oed yn debygol o ddioddef torasgwrn o'i gymharu ag 20% o ddynion dros 50 oed.

Beth yw'r prif ffactorau risg ar gyfer osteoporosis?

  • Hanes teuluol
  • Dros 50 oed
  • Menopos / menopos cynnar
  • Cyflyrau meddygol fel arthritis gwynegol ac anorecsia
  • Defnydd hirdymor o steroidau glucocorticoid fel Prednisolone
  • Pwysau corff isel
  • Gall alcohol ac ysmygu arafu cynhyrchu celloedd esgyrn newydd

Beth yw'r arwyddion a'r symptomau?

  • Torasgwrn  - Mae torri Clun, Arddwrn a Fertebrâu yn arbennig o gyffredin ag osteoporosis. Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i gwymp neu drawma ond gall ddigwydd hefyd heb sbardun oherwydd bregusrwydd.
  • Poen yn y cefn heb esboniad- Gall poen cefn newydd neu sydyn, fel arfer ond heb fod yn gyfyngedig i tua chanol y cefn fod yn arwydd o dorasgwrn fertebrol heb ei ddiagnosis.
  • Gall crymedd i’r asgwrn cefn fod yn arwydd o dorasgwrn cefn cyfredol neu wedi'i wella

Beth allwch chi ei wneud?

  • Bod yn wyliadwrus  - os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn dangos rhai o'r ffactorau risg, argymhellwch eu bod yn siarad â'u meddyg teulu
  • Gall hefyd edrych ar wefan y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol sydd ag offeryn asesu risg y gallant i’w wneud eu hunain.

Mae'r wefan yn adnodd gwych i gleifion a staff - cymerwch bip arni i ddarganfod llawer o wybodaeth ddefnyddiol am iechyd esgyrn!

 

Rhyddhawyd: : 20/09/2024