Bydd yr unedau profi symudol yn dychwelyd i Dref-y-clawdd a Machynlleth o ddydd Llun 12 Ebrill er mwyn annog pobl i barhau i gael prawf coronafeirws os ydyn nhw'n teimlo'n sâl.
Bydd y ddwy uned wedi'u lleoli yn yr un mannau ag o'r blaen, Maes Parcio Bowling Green Lane Tref-y-clawdd, a Maes Parcio'r Plas, Machynlleth ar gyfer preswylwyr Dyffryn Dyfi.
Mae'r timau profi yn parhau i annog pobl i fynd i'w huned brofi agosaf os byddant yn mynd yn sâl gydag unrhyw un o'r arwyddion a'r symptomau clasurol, sef tymheredd uchel, peswch newydd, parhaus, colli, neu newid i arogl neu flas, neu os ydyn nhw'n teimlo'n sâl yn gyffredinol.
Dim ond drwy apwyntiad yn unig y gellir mynd i'r uned brofi sy'n cynnig gwasanaeth profi drwy ffenest y car.
Mae dwy ganolfan brofi genedlaethol arall ar gael i breswylwyr, yn y Drenewydd ac Aberhonddu lle gallwch gerdded, gyrru neu feicio am brawf, ac Unedau Profi Cymunedol ychwanegol yn Llanfair-ym-Muallt a'r Trallwng ar gyfer apwyntiad drwy ffenest y car.
Mae lleoli'r unedau teithiol yn rhan o raglen dreigl o brofion symudol i sicrhau bod profion COVID-19 ar gael i breswylwyr mor agos i'w cartrefi â phosibl. Gall preswylwyr sy'n teimlo symptomau ond sy'n methu â mynd i uned brofi symudol ofyn am Becyn Profi Cartref, a ddanfonir i'ch cartref.
Dylai pawb ddilyn y canllawiau hyn p'un a ydynt wedi cael brechlyn COVID-19 ai peidio.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd angen i bob un ohonom ei wneud ar Lefel Rhybudd 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn Beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4.
I gael rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/
Gellir archebu apwyntiadau yn Nhref-y-clawdd, Machynlleth, y Drenewydd ac Aberhonddu drwy borth archebu cenedlaethol Llywodraeth y DU, naill ai ar-lein yn www.gov.uk/get-coronavirus-test, dros y ffôn ar 119, neu 18001 119 ar gyfer pobl ag anawsterau clyw neu leferydd. Dyma'r ffordd o ofyn am becyn profi cartref hefyd.
Gall preswylwyr yn Llanfair-ym-Muallt a'r Trallwng wneud apwyntiad yn yr Uned Brofi Gymunedol drwy ffonio 01874 612228 neu drwy e-bostio powys.testing@wales.nhs.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/