Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn recriwtio Aelod Annibynnol (Cyllid) i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

Yn dilyn diwedd tymor swydd yr Aelod Annibynnol blaenorol (Cyllid), Tony Thomas, mae recriwtio bellach ar y gweill i'r rôl hanfodol hon.

Croesewir ceisiadau erbyn y 18 Ionawr 2024 drwy Borth Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru lle mae mwy o wybodaeth am y rôl ar gael.

Nawr yn fwy nag erioed, mae cyfraniad ein penodeion cyhoeddus yn hanfodol o ran sicrhau bwrdd iechyd gwell sy'n cefnogi'r holl aelodau o staff i gyflawni eu potensial llawn.

Gan adlewyrchu ein hymrwymiad i amrywiaeth bwrdd, croesewir ceisiadau gan grwpiau poblogaeth sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd.

Fel Bwrdd Iechyd mawr, gwledig iawn, mae Powys yn cyflwyno cyfleoedd a heriau penodol. Mae hyn yn gwneud aelodaeth y Bwrdd yn arbennig o ddiddorol, ysgogol a phleserus. Rydym yn awyddus i benodi rhywun sydd â'r sgiliau angenrheidiol, ond hefyd rhywun sy'n ymgorffori gwerthoedd a diwylliant ein sefydliad.

Rydym yn Fwrdd unedol, sy'n cynnwys aelodau gweithredol ac annibynnol. Bydd ein cydweithiwr bwrdd newydd yn helpu i wella cydlyniant tîm ymhellach ac effeithiolrwydd ein llywodraethiant.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â ni.

Mae gwybodaeth am yr holl benodiadau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys rolau newydd Cadeirydd ac Aelodau Lleyg Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru Newydd ar gael o wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddu

Cofion Cynnes

Dr Carl Cooper, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys