Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Alwadau COVID yn symud i system Cyngor Sir Powys

Yr wythnos hon, symudodd canolfan alwadau COVID o Ysbyty Bronllys i Neuadd Brycheiniog, Aberhonddu.

Gyda’r system newydd, bydd nifer y staff sy’n gallu derbyn galwadau’n codi o chwech i dros ugain a bydd ychwanegu system giwio’n golygu na fydd galwadau’n cael eu colli pan fydd llinellau’n brysur.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ddiolchgar iawn i Gyngor Sir Powys am eu cefnogaeth wrth symud ac am ddefnyddio’u system ffôn.

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd: “Dyma enghraifft wych o waith partneriaeth ym Mhowys.  Mae COVID yn effeithio ar bawb a thrwy weithio gyda’r cyngor, gallwn ateb mwy o alwadau nag erioed.  Ym Mhowys, rydym eisoes wedi rhoi dros ugain mil o frechiadau ac rydym yn bwriadu gwneud mwy eto wrth i ni symud ymlaen.  Bydd creu capasiti yn y ganolfan alwadau’n hanfodol wrth wneud hyn.”

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar Lywodraethu Corfforaethol, Ymgysylltu a Gwasanaethau Rheoleiddio, y Cynghorydd Graham Breeze: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu helpu ymdrechion y bwrdd iechyd i frechu cymaint o bobl â phosibl, trwy gynnig gwasanaethau ffôn.

“Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd cyhoeddus.  Gallwn gyflawni mwy wrth weithio mewn partneriaeth.”

Yn ogystal â chynnig lle swyddfa a’r dechnoleg tu ôl y ganolfan alwadau, mae’r cyngor hefyd wedi helpu trwy staffio’r llinellau ffôn ychwanegol.

Rhannu:
Cyswllt: