Mae arweinwyr cymunedol yn annog pobl sy’n cael rhyw yng Nghymru i archebu pecyn profi cyfrinachol am ddim gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Mae profi am HIV yn rheolaidd yn ffordd o gymryd rheolaeth o’ch iechyd,” meddai Neil Roberts, Sylfaenydd Cardiff Baseliners, sef clwb tennis LHDT cyntaf prifddinas Cymru.
“O gael triniaeth, gall pobl â HIV fyw cyhyd ag unrhyw un arall, ond ni allwch gael triniaeth os nad ydych yn gwybod beth yw eich statws.
“Rwy’n annog pawb i gael eu profi. Ac rydw i eisiau iddo fod yn rhan o'r sgwrs ei bod hi'n well gwybod beth yw eich statws HIV a bod profion yn gallu cynnig tawelwch meddwl.”
Daw'r alwad wrth i Wythnos Profi HIV Cymru gychwyn. Dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Fast Track Cymru a gwirfoddolwyr cymunedol, mae’r ymgyrch yn dod ag unigolion, cymunedau a sefydliadau ynghyd i hyrwyddo manteision profi’n rheolaidd.
Yn dilyn yr ymgyrch a gynhaliwyd fis Tachwedd diwethaf gwnaeth dros 9,000 o bobl yng Nghymru ddefnyddio’r pecyn profi gartref cyfrinachol rhad ac am ddim, sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn ar wefan Iechyd Rhywiol Cymru.
Mae cenhadaeth yr ymgyrch yn cyd-fynd ag un Neil Roberts ei hun.
“Mae iechyd a llesiant wrth wraidd cenhadaeth a gwerthoedd Cardiff Baseliners,” meddai:
“Dyna oedd fy mwriad wrth sefydlu’r clwb tennis dair blynedd yn ôl. Ein nod yw cynnig lle croesawgar, cynhwysol i bobl yn y gymuned ddod at ei gilydd waeth beth fo’u gallu.
“Gall chwaraeon feithrin hunanhyder, gwytnwch, helpu mewn adfyd a gall chwalu’r rhwystrau y mae pobl LHDTC+ yn eu hwynebu. Mae'n ymwneud â chymryd rheolaeth o'n llesiant corfforol a meddyliol - yn union fel profi am HIV.
“Dyma pam rwy’n annog pawb i gael gafael ar becyn profi am ddim. Mae mor syml, cyfrinachol a chyfleus.”
Mae'r prawf pigiad bys syml, sydd ar gael i bob oedolyn yng Nghymru, yn golygu y gellir canfod HIV yn gynnar. Mae hyn yn golygu y gall pobl sy'n byw gyda HIV gael mynediad at driniaeth a fydd yn sicrhau y gallant fyw cyn hired ac mor iach ag unrhyw un arall. Mae cael triniaeth effeithiol yn lleihau faint o’r feirws sydd yn y gwaed i lefelau na ellir eu canfod, sy'n golygu na all HIV gael ei drosglwyddo i eraill.
Gall pobl nad ydynt yn profi'n bositif am HIV fod yn gymwys i gael Proffylacsis Cyn-gysylltiad (PrEP), sy'n atal yr haint rhag mynd i mewn i'r corff.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael canlyniad negatif, ond beth bynnag sy'n digwydd, mae'n bwysig gwybod y gall unrhyw un sy'n cael diagnosis HIV gael mynediad at driniaeth a chymorth am ddim.
Dywedodd Zoe Couzens, Pennaeth Rhaglen Iechyd Rhywiol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Wythnos Profi HIV Cymru yn gyfle i atgoffa pobl am bwysigrwydd profi’n rheolaidd – oherwydd gall HIV effeithio ar unrhyw un.
“Nid yw profi am HIV erioed wedi bod yn haws yng Nghymru ac mae’r broses yn gwbl gyfrinachol. Mae gwneud profion yn hygyrch yn rhan allweddol o Gynllun Gweithredu HIV Llywodraeth Cymru. Mae gwybod beth yw eich statws yn golygu y gall y rhai sydd angen triniaeth wrth-retrofeirysol gael mynediad ati a byw bywyd hir ac iach. Trwy dderbyn triniaeth, ni allant drosglwyddo HIV i eraill.
Ychwanega Zoë Couzens:
“Gan weithio mewn partneriaeth â Fast Track Cymru ac ugeiniau o hyrwyddwyr cymunedol, rydym am gynyddu nifer y bobl sy’n profi eu hunain am HIV yn rheolaidd – a dangos y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i ddiddymu achosion newydd o HIV erbyn 2030.”
Dywedodd Sarah Maslen-Roberts o Fast Track Cymru:
“Unwaith eto eleni, ymunodd Fast Track Cymru ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal ein hymgyrch profi am HIV ledled Cymru. Yn ganolog iddi, cymunedau Cymru sy’n parhau i wneud yr ymgyrch yn un gref. Mae eu cefnogaeth yn parhau i'w gyrru ymlaen."
Dangosodd canfyddiadau adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a oedd yn ystyried tystiolaeth gan raglenni hunan-brofi gwledydd eraill y gallai pa mor hwylus yw profi eich hun eich grymuso. Yn ogystal, roedd peidio â gorfod mynd i leoliad clinig ac aros am brawf yn golygu bod pobl yn fwy tebygol o benderfynu cael prawf, ac o ddod yn ymwybodol o'u statws HIV.
Mae'r adroddiad, Behavioural determinants that influence the uptake of self-testing for HIV An agile scope of the literature, wedi nodi nifer o ganfyddiadau diddorol ac mae ar gael yma.
Cyhoeddwyd: 19 Tachwedd 2024