Mae cynigion ar gyfer hyb iechyd a lles newydd yn y Drenewydd yn dechrau cam allweddol, gyda'r cynlluniau presennol (“Achos Busnes Amlinellol”) i'w hystyried gan Bwyllgor Craffu Iechyd a Gofal Cyngor Sir Powys cyn mynd gerbron Cabinet Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i'w hystyried ar 16 Rhagfyr 2025.
Byddai'r hyb newydd arfaethedig, a fydd yn cael ei adeiladu ar safle swyddfeydd Y Parc, yn gweld ystod eang o wasanaethau'n cael eu darparu dan un to mewn amgylchedd modern, pwrpasol. Ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd a lles “siop un stop”, mae’r cynlluniau’n cynnwys cyfleusterau hyfforddi newydd i recriwtio a chadw staff iechyd a gofal, gwasanaethau deintyddol cymunedol estynedig, a chlinigau arbenigol newydd ar gyfer pobl â chyflyrau hirdymor sy’n lleihau’r angen i deithio allan o’r sir i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth.
Mae'r hyb hefyd yn gam hanfodol tuag at ail gam yn y dyfodol a fyddai'n gweld ysbyty newydd yn y dref gan gynnwys cyfleusterau diagnosteg a thriniaeth estynedig fel bod mwy o ofal a thriniaeth yn cael eu darparu ym Mhowys.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu i gasglu adborth gan drigolion, defnyddwyr gwasanaeth, staff a sefydliadau partner. Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet y cyngor sydd â chyfrifoldeb am raglen Lles Gogledd Powys: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwerthfawr i glywed ystod eang o safbwyntiau gan bobl a fydd yn defnyddio’r gwasanaethau newydd hyn, a gan drigolion lleol. Er enghraifft, rydym wedi clywed ystod eang o adborth defnyddiol am leoliad y cyfleuster newydd. Mae'r adborth hwn wedi ein helpu ni adolygu a phrofi'r cynigion fel ein bod yn gwneud y penderfyniadau gorau ar gyfer heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Dywedodd Lucie Cornish, Cyfarwyddwr Gwella a Thrawsnewid y bwrdd iechyd: “Thema allweddol rydyn ni wedi’i chlywed yn ystod ein hymgysylltiad yw bod pobl eisiau i wasanaethau iechyd a lles fod yn fwy cydgysylltiedig. Byddai'r cynlluniau hyn yn cyflawni hyn drwy ddod â mwy o wasanaethau'r bwrdd iechyd a'r cyngor at ei gilydd o dan un to. Bydd hyn yn gwella'r gwasanaethau a gynigir i'n preswylwyr a'n cleifion drwy berthnasoedd gwaith agosach mewn adeilad pwrpasol, fel rhan o'r prosiect mwyaf uchelgeisiol o'i fath yr ydym wedi'i weld ym Mhowys.”
Bydd cyfarfodydd nesaf y Pwyllgor Craffu, y Cabinet a'r Bwrdd yn ystyried cynigion wedi'u diweddaru ar gyfer yr hyb iechyd a lles newydd sydd wedi'u llywio gan adborth ymgysylltu. Mae'r cynlluniau hyn – a elwir yn Achos Busnes Amlinellol – yn gam allweddol wrth ofyn am gyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau mawr.
Ochr yn ochr â chynlluniau ar gyfer cyfleusterau iechyd a lles newydd yn y Drenewydd, mae Rhaglen Lles Gogledd Powys hefyd yn datblygu cynlluniau ehangach i wella iechyd a lles yng Ngogledd Powys. Mae hyn yn cynnwys llety newydd i fyfyrwyr a gweithwyr iechyd a gofal yn y dref, yn ogystal â llety â chymorth.
Gwybodaeth Bellach:
Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet a'r Bwrdd Iechyd, byddai'r camau nesaf yn cynnwys:
Mae'r hyb newydd yn gam cyntaf hanfodol cyn datblygu achos busnes pellach i gymryd lle Ysbyty Sir Trefaldwyn, ac i ehangu'r ystod o wasanaethau diagnosteg a thriniaeth yng ngogledd Powys, gan leihau'r angen i deithio i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. Bydd yn sicrhau dull mwy cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau iechyd a lles, ac yn cynyddu'r ystod o wasanaethau a ddarperir yn Y Drenewydd gan gynnwys:
Mae rhagor o wybodaeth am raglen Lles Gogledd Powys ar gael yn https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/hub-page/lles-gogledd-powys
Cofrestrwch am ddiweddariadau rheolaidd ar raglen Lles Gogledd Powys drwy gysylltu â powyswellbeing.north@wales.nhs.uk